Mae Alison Pritchard, Rheolwr Cyllid Cynaliadwy gyda CGGC, yn ystyried yr effaith y gall amharodrwydd i gymryd risgiau ei gael ar wydnwch mudiad.
Mae i’r gair ‘risg’ ystyron negyddol yn aml, ond heb gymryd risgiau nid ydym yn datblygu nac yn arloesi; yn cadw’r sector gwirfoddol i symud yn ei flaen, yn cwrdd ag anghenion defnyddwyr gwasanaeth, yn denu rhoddwyr a chyfateb eu hymddygiad o roi sy’n esblygu â gweithgareddau codi arian a chynhyrchu incwm priodol.
Mae’r datganiadau canlynol wedi’u cymryd o gwis gwir/gau a ffurfiodd ran o gwrs diweddar a ddilynais gyda’r Sefydliad Rheoli Arweinyddiaeth (Institute of Leadership Management). Maent yn gyfle da i archwilio ein hagweddau a’n meddylfryd ynghylch cymryd risgiau a methu.
Dylid ystyried y posibilrwydd y bydd strategaeth yn methu pan yn gwerthuso’r elfen o risg a’r buddion posibl
GWIR – dylid adolygu strategaethau yn wrthrychol. Os yw’r gwaith a wnaethoch er mwyn hysbysu’ch strategaeth (e.e. ymchwilio neu weithgareddau tebyg, ymgynghoriadau â rhanddeiliaid, prosiectau peilot) yn dweud wrthych ei fod yn annhebygol o lwyddo, yna byddai’n annoeth parhau. Fodd bynnag, os yw’r buddion posibl yn gorbwyso’r posibilrwydd o fethu, yna mae’n werth gweithredu’r strategaeth.
Er mwyn hyrwyddo cymryd risgiau yn effeithiol a’i wneud yn rhan annatod o gynlluniau a pholisïau, rhaid i chi alluogi pobl i fethu heb ofni’r goblygiadau
GWIR – o fewn rheswm. Mae methu a methu. Nid yw methiant gweithgaredd codi arian newydd i lwyddo yn dilyn cynllunio ac ystyriaeth briodol (o ganlyniad i bandemig byd-eang, er enghraifft) yr un fath â methiant oherwydd esgeulustod, neu gamymddwyn. Mae cyd-destun hefyd yn bwysig. Os ydych yn buddsoddi £10,000 mewn digwyddiad codi arian sydd, yn y pen draw, yn perfformio ar golled ond bod eich trosiant yn £1m (a bod eich gwerthusiad yn gallu dangos i chi pam na weithiodd), nid yw hyn yn cael cymaint o effaith â buddsoddi £100,000 heb wneud eich gwaith ymchwil a heb ddeall sut i chi wastraffu 10% o’ch incwm.
Y ffordd orau o ddysgu am risg yw i’w brofi – mae hyn yn fwy effeithiol o lawer nag actio sefyllfaoedd neu fynychu cwrs hyfforddi ar risg
GWIR – bydd cyrsiau hyfforddi a chwarae rôl yn ein helpu i ddysgu’r theori a’r wybodaeth y tu ôl i risg (e.e. sut i ddatblygu cofrestr risg, sy’n sgil allweddol i’w datblygu), ond y ffordd orau i nifer ohonom ddysgu yw trwy wneud. Yn hynny o beth, dydw i ddim yn eich annog i blymio i weithgaredd newydd neu ddull codi arian heb ddysgu am a chymhwyso theori rheoli risg yn gyntaf. Mae gennym ddyletswydd i’n rhoddwyr, cyllidwyr a buddiolwyr i wario’r arian a godwn/enillwn yn gyfrifol, a golyga hynny ein bod yn cymryd agwedd wybodus tuag at ein dysgu wrth wneud.
Mae ansicrwydd ac amgylchiadau annisgwyl eisoes yn dominyddu ein byd, felly dylai eich ffocws chi fod ar adeiladu sefydlogrwydd nid cymryd risgiau
Y DDAU – Wrth i’r byd esblygu o’n cwmpas (mae 2020 yn teimlo fel blwyddyn llawn dop o esblygu i gymdeithasau ar draws y byd), mewn rhai enghreifftiau, gallai sefydlogrwydd olygu aros yn yr unfan. Bydd elusennau nad ydynt wedi gallu esblygu (er enghraifft trwy ddatblygu ffyrdd i roddwyr gefnogi’n ddigidol, mynd i’r afael â’u cydraddoldeb a’u hamrywiaeth neu wneud y mwyaf o blatfformau cyfathrebu newydd) yn mentro bod yn amherthnasol i niferoedd cynyddol o gefnogwyr a chefnogwyr posibl.
Gallai eich dealltwriaeth o’r risgiau sydd ynghlwm fod yn well pe byddech yn cymryd amser i siarad ag aelod dibynadwy o’r tîm
GWIR – Byddai defnyddio profiad a chrebwyll y bobl o’ch cwmpas i asesu’r risg sydd ynghlwm wrth y gweithgareddau rydych chi’n eu trefnu fwy na thebyg yn arwain at asesiadau cymesur a gwybodus, a chynlluniau mwy effeithiol er mwyn lliniaru’r risgiau hynny. Dyma pam ei bod yn bwysig bod gennych amrywiaeth o bobl yn gweithio yn eich mudiad.
Dim ond trwy gyfrifo’n fathemategol y tebygolrwydd y bydd pob digwyddiad dichonadwy yn digwydd y gallwch wneud diagnosis gywir ynglŷn â’r tebygolrwydd o risg
GAU – Mae’n siŵr gen i nad oedd pandemig byd-eang ar y gofrestr risg pan oedd Marathon Casnewydd yn cael ei gynllunio’r llynedd. Wrth greu cofrestr risg gadarn, dylem geisio creu rhestr gymharol gyflawn o’r risgiau mwyaf tebygol, ond mae’n amhosibl dychmygu pob digwyddiad posibl ac ni fyddem yn gwarchod ein pobl rhag straen pe byddem yn ceisio gwneud hynny.
Mewn ymgais i sicrhau ysbryd cystadleuol dylech ymdrechu i gael datrysiadau newydd ac arloesol – bydd cymryd risgiau’n helpu i sicrhau hirhoedledd y mudiad
Y DDAU – Dydw i ddim yn credu mewn gwneud pethau newydd neu arloesol dim ond er mwyn gwneud hynny. Os nad yw eich gwasanaeth bellach yn cwrdd ag anghenion eich buddiolwyr, neu os yw’ch prif ddigwyddiad codi arian wedi mynd braidd yn stêl, yna mae hi’n bendant yn bryd cymryd risg (gwybodus sydd wedi’i ymchwilio’n drwyadl) i sefydlu rhywbeth newydd ac arloesol (efallai y bydd ond yn newydd ac arloesol i chi, eich buddiolwyr neu eich ardal leol, nid i’r byd). Fodd bynnag, rydw i’n grediniol bod lle i’r hen ddihareb ‘os nad yw wedi torri, peidiwch â’i drwsio’ fan hyn hefyd. Ar bob cyfri gwnewch rywbeth yn fwy effeithlon os gallwch chi, ond nid ar draul y canlyniadau hynny.
Peidiwch ag ystyried Cynllun B; pan fyddwch wedi gwneud eich penderfyniad, rhaid i chi ymroi iddo 100% er mwyn meithrin hyder
GAU – byddai hyn yn ddull anghyfrifol o weithredu, yn enwedig pan fyddwch yn defnyddio arian cyhoeddus. Os yw eich monitro wedi dangos nad yw Cynllun A yn gweithio, mae’n bryd ystyried naill ai addasu Cynllun A neu roi tro ar Gynllun B. Mae gennych gyfrifoldeb i’ch buddiolwyr, eich cyllidwr/wyr, eich rhoddwyr, eich gwirfoddolwyr a’ch staff i wario arian yn gyfrifol. Golyga hyn wario gwybodus ac addasu cynlluniau pan fo angen.
Os ydych chi’n gwybod bod syniad wedi gweithio mewn lleoliad gwahanol yna bydd yn gweithio yn eich lleoliad chi hefyd – does dim risg ynghlwm wrth hyn, dim ond ei roi ar waith sydd angen
GAU – mae’n bosibl iawn y gwnaiff y syniad weithio yn eich amgylchiadau chi, ond bydd risg ynghlwm wrtho fel popeth arall. Gallai ymchwil, prosiectau peilot, astudiaethau dichonoldeb ac ymgynghoriadau oll eich cynorthwyo i weithio allan llwyddiant posibl syniad.
Ofn mwyaf arweinydd yw ofn methu, felly rhaid i chi yrru am a derbyn dim llai na llwyddiant bob tro
GAU – Mae’n siŵr gen i bod llawer o’n harweinwyr mwyaf llwyddiannus yn gweld methiant fel rhan hanfodol yn natblygiad hir dymor unrhyw fudiad. Mae methiant yn rhoi cyfleoedd i ni ddysgu; i ddod i adnabod ein hunain, ein mudiadau, a’n buddiolwyr yn well.
Mae’r posibilrwydd o lwyddiant fel arfer yn llai o ysgogydd na’r gocheliad rhag methiant, yn ôl gwaith ymchwil – felly mae diwylliant ‘gallu gwneud’ fel arfer yn golygu bod angen newid mewn meddylfryd
GWIR/GAU? – Mae hwn yn un diddorol, ac mae’n dibynnu, yn fy marn i, ar ddiwylliant cyffredinol y mudiad. Yn CGGC cawn ei hysgogi’n gryf gan lwyddiant y sector gwirfoddol yng Nghymru. Rydym ni’n griw angerddol sy’n gweithio’n galed er mwyn cynorthwyo elusennau i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd trwy lwyddiannau unigol.
Pan fyddwch wedi lliniaru’r lefel o risg nid oes angen parhau i fonitro statws y risg honno
GAU – Mae rheoli risg yn weithgaredd parhaus. Dylai eich cofrestr risg fod yn ddogfen fyw sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd a/neu phan gaiff risg newydd ei adnabod.
Cymerwch olwg ar ein taflen ‘Egwyddorion Llywodraethu’ ar yr Hwb Gwybodaeth am ragor o wybodaeth ynglŷn â chyfrifoldebau arweinwyr elusennau. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth ar reoli risg sydd i ddod yn 2021.