Mae Alison Pritchard, Rheolwr Cyllid Cynaliadwy yn CGGC, yn taflu golau ar brif ganfyddiadau gwerthusiad annibynnol o’r ymateb ar y cyd i’r pandemig gan gyllidwyr yng Nghymru.
Yn ystod wythnosau cynnar y pandemig, cynhaliodd uwch-gynrychiolwyr o CGGC, Llywodraeth Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Cymunedol Cymru, Sefydliad Banc Lloyds, Sefydliad Moondance a Fforwm Cyllidwyr Cymru gyfarfod i drafod sut i sicrhau cronfeydd brys angenrheidiol i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
O ganlyniad i’r cyfarfodydd, crëwyd partneriaeth anffurfiol i sicrhau bod y cronfeydd brys a oedd ar gael yn cyrraedd cynifer o elusennau, grwpiau gwirfoddol, a chymunedau â phosibl.
Ar draws pedwar o’r cyllidwyr y soniwyd amdanynt uchod, sefydlwyd wyth cronfa frys a oedd ar gael i sefydliadau’r sector gwirfoddol ar draws Cymru gyflwyno cais iddynt:
- Ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a chyflenwyd gan GCCG:
- Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol
- Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol
- Cronfa Gwytnwch y Trydydd Sector (yn rhannol benthyciad-cyllid)
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
- Arian i Bawb (yn benodol ar gyfer COVID-19)
- Pobl a Lleoedd (yn benodol ar gyfer COVID-19)
- Sefydliad Moondance
- Cronfa Cymorth COVID-19
- Sefydliad Cymunedol Cymru
- Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru
- Cronfa Ymateb ac Adfer Cymru
Cyflenwyd cyfanswm o dros £52 miliwn o gyllid ar draws y cynlluniau grant hyn yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21.
Y GWERTHUSIAD
Ymatebodd dros 800 o bobl i’r arolwg a gynhaliwyd gan Wavehill Consulting fel rhan o’r gwerthusiad a chynhaliwyd cyfweliadau dwys gyda thros 40 o randdeiliaid gan gynnwys aelodau eraill o Fforwm Cyllidwyr Cymru a Chynghorau Gwirfoddol Sirol.
Caiff yr adroddiad llawn ei rannu gydag aelodau o Fforwm Cyllidwyr Cymru sef rhwydwaith anffurfiol o gyllidwyr o’r sector cyhoeddus, cyllidwyr o’r sector elusennau, a chyllidwyr corfforaethol yn cynnig cyfnewid gwybodaeth a dysgu rhwng cyllidwyr.
Bydd yr adroddiad yn helpu i hysbysu aelodau o’r Fforwm am sut y gallant adeiladu ar weithgareddau cydweithredol a gynhaliwyd yn ystod y pandemig.
PRIF THEMÂU AR GYFER BLAENORIAETHAU’R DYFODOL
Mae’r adroddiad gwerthuso wedi cydnabod chwe phrif thema ar gyfer blaenoriaethau cyllid yn y dyfodol:
- Gwirfoddolwyr:Mae gwirfoddolwyr ychwanegol a ddaeth i’r amlwg ar ddechrau’r pandemig bellach yn dychwelyd i sefyllfaoedd ‘normal’ ac mae mudiadau’n pryderu am recriwtio a chadw’r gwirfoddolwyr y mae eu hangen arnynt er mwyn cynnal gwasanaethau.
- Diffinio’r normal newydd:Dylai cyllidwyr fod yn ofalus o ran diffinio’r normal newydd a bod yn gyfarwyddol o ran yr hyn y byddant yn ei ariannu a’r hyn na fyddant yn ei ariannu er mwyn cefnogi’r ‘normal’ hwnnw.
- Gorflino staff mewn mudiadau gwirfoddol.
- Ffurfioli ac adeiladu gwydnwch:Nid yw rhai mudiadau wedi’u hymgorffori er eu bod yn cyflenwi gweithgareddau â mwy o ‘risg’ sy’n rhoi ymddiriedolwyr unigol mewn mudiadau anghorfforedig mewn perygl uwch o atebolrwydd.
- Toriadau cyllid:Mynegodd cyfranogwyr bryderon ynghylch y sefyllfa ‘cyllid ymyl y dibyn’ a ddisgwylir yn y Gwanwyn 2021 a sut y bydd hyn yn effeithio ar gynlluniau cyllidwyr yn y dyfodol agos.
- Effaith anhysbys:Nid ydym yn ymwybodol o effaith lawn y pandemig ar gyfer y sector. Efallai y bydd angen cyllid ymateb yn y dyfodol.
PRIF GANFYDDIADAU
Mae rhai o brif ganfyddiadau’r gwerthusiad wedi’u rhestru isod.
Ymgeiswyr
- Roedd 24% o ymgeiswyr ar draws yr wyth cronfa heb gyflwyno cais am gyllid gan y mudiadau hyn o’r blaen.
- Iechyd, gofal cymdeithasol a lles, a’r gymuned yw’r themâu a elwodd o’r symiau uchaf o gyllid o bell ffordd. Mae hyn yn adlewyrchu’r heriau a’r caledi a brofwyd gan gymunedau.
- Elwodd y meysydd y cawsant eu hadnabod fel y rhai yr oedd yr angen mwyaf arnynt yn ystod y pandemig megis lleiafrifoedd ethnig, iechyd meddwl, a thai a chyflogaeth, o dderbyn swm sylweddol yn fwy o gyllid nag y byddant wedi disgwyl ei dderbyn fel arfer.
- Roedd gan y mwyafrif o’r mudiadau a elwodd o’r cyllid lai na 10 aelod o staff ac roeddent yn fudiadau micro a mudiadau bach.
- Roedd y mwyafrif o’r rhai a dderbyniodd y grantiau yn elusennau cofrestredig.
Cyflwyno Cais
- Yn ôl y mwyafrif llethol o ymatebwyr, roedd dod o hyd i wybodaeth ar draws yr ystod eang o agweddau gwahanol yn hawdd.
- Gallai fod ychydig yn anoddach i fudiadau yng Nghaerdydd, yn Sir Gaerfyrddin, ac yn Sir Benfro i dderbyn gwybodaeth am y cyllid ar gael.
- Roedd y cyfraddau boddhad ar gyfer y prosesau grant hefyd yn uchel ar gyfer y broses cyflwyno cais (90%) a’r broses rheoli a monitro grantiau (86%). Roedd boddhad o ran y prosesau grant ychydig yn uwch ar gyfer mudiadau nad oeddent wedi cyflwyno cais am gyllid grant. Ymddengys bod y gwahaniaethau o ran pa mor hawdd oedd y broses cyflwyno cais yn unol â gwerthoedd grantiau a grwpiau targed cronfeydd gwahanol. Adroddodd ymatebwyr fod cymorth wrth law ar gyfer prosesau cyflwyno cais mwy manwl.
Anghenion
- Ar gyfer tua hanner yr ymatebwyr, roedd cynorthwyo â sicrhau bod y mudiad yn goroesi ac ehangu neu deilwra gwasanaethau i fynd i’r afael â galw ychwanegol a achoswyd gan bandemig Covid-19 yn rhan o’u rheswm dros gyflwyno cais am gyllid trwy’r wyth cronfa (52% a 51% yn eu tro). Roedd cynnal gwasanaeth ar yr un lefelau ag yr oeddent cyn pandemig Covid-19 a thalu am gostau pandemig Covid-19 yn berthnasol i ryw draean o ymatebwyr.
- Ystyriwyd bod y cyllid ar gael trwy’r wyth cronfa yn addas i anghenion mudiadau oherwydd yr ymagwedd hyblyg a fabwysiadwyd a swm y cyllid a oedd ar gael.
- Ystyriwyd bod cyflwyno’r cyllid yn gyfnodol yn addas hefyd (gan fynd i’r afael â heriau brys cyn ystyried pryderon adfer) ond roedd mudiadau gwirfoddol yn bryderus o hyd am y cyllid ehangach y bydd ei angen arnynt wrth symud ymlaen.
- Ymddengys bod y cyllid wedi gwella gwydnwch mudiadau sydd wedi derbyn grantiau trwy gydol y pandemig ac wrth symud ymlaen.
- Roedd cadw aelodau staff – a oedd yn hanfodol er mwyn datblygu a chyflenwi trefniadau wrth gefn mudiadau – a gallu recriwtio a gweithio gyda gwirfoddolwyr yn effeithiol yn rhannau allweddol o’r hafaliad.
- Heb y cyllid, ni fyddai gwasanaethau wedi parhau yn yr un ffordd ar gyfer y mwyafrif o’r mudiadau a holwyd. Roedd addasu gwasanaethau – yn weithrediadol ac o ran ymateb i’r materion penodol a gododd ar gyfer grwpiau targed allweddol – a bodloni galw cynyddol yn heriau allweddol.
- Roedd yr addasiadau i wasanaethau, yn aml, yn ymatebion arloesol y mae mudiadau’n debygol o’u cadw ar ôl cyfnod acíwt y pandemig.
BETH NESAF?
Bydd aelodau o Fforwm Cyllidwyr Cymru yn defnyddio’r adroddiad hwn a’i ganfyddiadau i helpu i hysbysu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu pellach rhwng aelodau yn y dyfodol.
Cysylltwch â ni (apritchard@wcva.cymru) os hoffech chi dderbyn copi o’r adroddiad llawn.