Sut mae’r modd rydyn ni’n gwneud pethau fan hyn yn effeithio ar y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud fan draw? Dyma Mike Corcoran, Ymgynghorydd Cyswllt gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, yn ymchwilio.
Bu ein cyfres o ddigwyddiadau Ennyn Effaith yn gyfle i ddod â grŵp arbennig o bobl o bob cwr o Gymru, y DU a’r byd ynghyd i gefnogi ein gilydd, rhannu ein syniadau a’n profiadau, a mynd i’r afael â’r cwestiynau mawr rydyn ni i gyd yn eu hwynebu fel arfarnwyr. Cwestiynau megis:
- Sut gallwn ni gael cydbwysedd rhwng ansawdd y dystiolaeth y dylai ein gwerthusiadau ei chynhyrchu, ac ansawdd y profiad sydd arnon ni i bawb sydd ynghlwm â nhw?
- Sut gallwn ni sicrhau bod ein gwerthusiadau yn cwrdd ag anghenion niferus ac amrywiol ein mudiadau, ein cyllidwyr, a’n cymunedau ar yr un pryd?
- Sut gallwn ni werthuso’n llwyddiannus pan fyddwn ni’n gweithredu mewn amgylcheddau cymhleth, ansicr sy’n newid yn gyflym?
- Sut gall cwestiynau syml, bob dydd fod yn ysgogiad ar gyfer gwerthusiad ystyrlon, person-ganolog i bawb?
Roedd pob un o’r cwestiynau hyn yn rhai hanfodol bwysig i’w gofyn, ac roedd pob sgwrs ddilynol yn gyfoethog, yn herio, ac yn cynnig mewnwelediad – ond mae rhywbeth ar goll.
NI ALLWN WAHANU’R GWERTHUSIAD ODDI Y SAWL SY’N GWERTHUSO
Nid yw gwerthuso yn bodoli ar ei ben ei hun. Heb arfarnwyr does dim gwerthuso, a heb werthuso, does dim arfarnwyr! Mae gwerthusiadau’n cael eu gwneud gan bobl, ac mae’r bobl hynny’n gweithio o fewn mudiadau – felly, os ydyn ni’n dymuno gwella ein harferion gwerthuso, rhaid i ystyriaethau o’n priodoleddau, ein hymddygiad, a’n diwylliant sefydliadol fod yn rhan o’r stori.
Oes modd i ni ofyn y cwestiynau cywir i’r rheini sy’n elwa o’n gwasanaethau os nad ydyn ni’n gofyn y cwestiynau cywir i ni ein hunain? Oes modd i’n gwasanaethau fod yn wirioneddol berson-ganolog os nad yw ein prosesau mewnol? A beth allwn ni wneud er mwyn sicrhau bod ein diwylliannau sefydliadol yn helpu, yn hytrach na llesteirio, ein siwrnai tuag at well gwerthuso i bawb?
I archwilio’r cwestiynau hyn, ymunodd tri gwestai â safbwyntiau amrywiol ac amhrisiadwy ynglŷn â’r her â ni:
- Andy Roberts – Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Weekly10, platfform meddalwedd a adeiladwyd yn seiliedig ar fyfyrio rheolaidd er mwyn ymgysylltu â chyflogeion, grymuso rheolwyr, ac adeiladu tryloywder a gwelededd ar draws mudiadau.
- Kate Hamilton – Cyfarwyddwr Rhaglen Renew Wales, rhaglen a arweinir gan gyfranogwyr sy’n helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hôl-troed carbon, addasu i effeithiau newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy. Mae Renew Cymru’n gweithio gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ar hyn o bryd ar gynnal eu proses eu hunain o ‘fyfyrio sefydliadol’ a ‘dysgu gweithredol’.
- Rory Cahill – Seicotherapydd, Hyfforddwr a Darlithydd ym Mhrifysgol Warwick, ar y bwriad o weld dulliau tosturiol yn dod yn arferol ar draws mudiadau o bob siâp a maint.
Gydol ein sgyrsiau, daeth tair gwers yn amlwg i fi – gwersi a all helpu unrhyw un ohonom ni, waeth pwy ydym ni, a waeth beth rydyn ni’n ei werthuso.
MAE EIN DIWYLLIANT YN HYSBYSU EIN GWERTHUSO, AC MAE EI GWERTHUSO YN HYSBYSU EIN DIWYLLIANT
Nid perthynas un-ffordd yw’r berthynas rhwng ein gwerthusiadau a’n diwylliannau sefydliadol. Bydd diwylliant ein mudiadau yn hysbysu’n uniongyrchol y mathau o werthuso rydyn ni’n debygol o’i ffafrio, ond, yn yr un modd, gall y math o werthuso rydyn ni’n ymgymryd ag ef effeithio’n dawel fach ar ddiwylliannau ein mudiadau dros gyfod o amser. Er enghraifft, os yw ein diwylliant sefydliadol yn arbennig o amharod i fentro, yna bydd gwerthusiadau cyfranogol wedi’u cynhyrchu ar y cyd yn anoddach i’w cyflawni. Ac os yw ein diwylliannau yn llac ac yn anffurfiol, mae’n bosibl na fydd gwerthuso manwl mor uchel ar ein hagenda. Ond yn yr un modd, nid yw’n anghyffredin i’r rheini sy’n gweithio mewn sectorau a yrrir gan gydymffurfiaeth, sydd â phrosesau llym ac sy’n rhoi cryn bwys ar dystiolaeth, weld hyn yn effeithio ar y modd maen nhw’n trafod â’i gilydd, yn rhannu gwybodaeth, ac yn herio’r status quo er mwyn gyrru newid.
Y cam cyntaf yw agor ein llygaid i hyn, ac adlewyrchu ar pa un ai yw’r diwylliannau a’r gwerthusiadau sydd gennym yn cefnogi’i gilydd, ac yn cefnogi’r newid rydyn ni’n dymuno’i weld.
GALLWCH WERTHUSO’R CWESTIWN ANGHYWIR YN DDA, A’R CWESTIWN CYWIR YN WAEL.
Mae myfyrio’n bwysig gan ei fod yn ein helpu i ofyn cwestiynau gwell. Gallai proses werthuso fod wedi’i chynllunio a’i gweithredu’n berffaith, ond os ydyn ni’n gofyn y cwestiwn anghywir, ni fydd yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom. Mae ‘Reflection Toolkit’ Prifysgol Caeredin yn diffinio nod gwerthuso fel ‘dod â’r hyn a ddysgwyd amdanoch eich hunan a’r sefyllfa i’r wyneb, a dod ag ystyr iddo er mwyn hysbysu’r presennol a’r dyfodol.’ Os yw ein diwylliannau sefydliadol yn caniatáu’r lle a’r amser sydd eu hangen arnom i fyfyrio, ac os ydyn ni fel ymarferwyr yn adeiladu ein galluoedd myfyrio beirniadol ein hunain, byddwn yn gweld gwelliant yn y cwestiynau a ofynnwn i ni’n hunain, ac o ganlyniad bydd ein gwerthusiadau yn ein galluogi i ehangu fwyfwy ar yr effaith y gallwn ei gyflawni.
GALL RISG FOD YN BETH DA!
Mae gwerthuso’n ymwneud â mwy na phrofi – ond mae’r newid mewn diwylliant o brofi i wella yn un arwyddocaol. Mae profi’n ymwneud â diwylliant o edrych am yr hyn sy’n gweithio a dathlu llwyddiant. Mae gwella’n ymwneud ag edrych ar beth arall allai fod yn digwydd tra ar yr un pryd yn cofleidio methiant a dysgu ohono. Gyda hynny daw’r angen i archwilio’r ‘anhysbys anhysbys’ – i ofyn cwestiynau nad ydym wedi eu gofyn o’r blaen, ac i dderbyn nad oes modd, weithiau, i ni ddiffinio’r cwestiynau y mae’n rhaid i’n gwerthusiadau eu hateb cyn i ni ddechrau. Mae’r ansicrwydd yn meithrin risg, ac mae risg yn meithrin ofn – ond ni ddylai fod ofn arnom. Tra nad oes modd i ni ddiffinio ein cwestiynau ar y cychwyn bob amser wrth i ni neidio i’r anhysbys, gall ein gwerthoedd, ein ffyrdd o weithio, a’r dulliau sefydledig y byddwn yn tynnu ohonynt os a phan y bydd eu hangen arnom, gyfuno i roi fframwaith* i ni a fydd yn ein cadw’n ddiogel (ac yn rhoi hyder i’n cyllidwyr!) wrth i ni archwilio. Trwy archwilio gallwn drawsnewid ein gwasanaethau er gwell.
*(Mae ein dull ‘Mesur yr hyn sy’n Bwysig’ yn enghraifft o fframwaith o’r fath).
BETH NESAF?
Felly, beth nesaf? Ceir heriau mawr, cymhleth, a gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Fe rannodd ein gwesteion eu doethinebau eu hunain.
I Andy “Y cam cyntaf bod amser yw tryloywder. Byddwch yn agored ynglŷn â’r hyn rydych chi’n ei wneud a pham eich bod yn ei wneud ac anogwch adborth a thrafodaeth. Mae tryloywder yn declyn pwerus oherwydd ei fod yn rhoi llais i bobl, yn eu gwneud nhw’n atebol, ac yn gwneud mudiad yn fwy gwastad”, gan ddod â phobl ynghyd.
I Kate, y cam cyntaf yw gofyn “Sut ydych chi’n mynd i ddarganfod yr wybodaeth nad oeddech chi’n ymwybodol ohoni? Beth bynnag wnewch chi, dylai greu rhywbeth nad oeddech chi’n ei ddisgwyl.”
I Rory, rhaid i ni ddechrau “cydnabod y gall pob unigolyn fod yn gyfrwng newid” a chofio “y gallwn ni i gyd gael effaith sylweddol.”
Ac mae’r digwyddiadau hyn wedi fy atgoffa i o werth aruthrol bod yn rhan o grŵp cefnogol o gymheiriaid, yn gofyn cwestiynau anodd, a chofio nad ydw i byth yn rhy brysur i aros a meddwl! Byddwn yn annog pawb i wneud yr un fath, ac i ymuno â ni pan fyddwn ni’n dod at ein gilydd nesaf i barhau â’r sgwrs.
Ymunodd Mike Corcoran, Ymgynghorydd Cyswllt gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, â CGGC ac ymarferwyr gwerthuso o bob cwr o’r DU ar gyfer y sesiwn olaf yng nghyfres digwyddiadau ‘Ennyn Effaith’ ar ddydd Mawrth 9 Chwefror 2021.
Mae Mike yn gweithio gyda mudiadau ledled Cymru ac ar draws y byd fel cynghorydd ar ymgysylltiad ac effaith. Mae’n aelod cyswllt hirdymor o Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ac arweiniodd ddatblygiad teclyn gwerthuso ‘Mesur yr hyn sy’n Bwysig’ y Rhwydwaith a fframwaith werthuso ‘Cwestiynau Syml’ CGGC.
Cofrestrwch ar gyfer Rhestr Bostio Ennyn Effaith er mwyn derbyn diweddariadau ynglŷn â digwyddiadau sydd i ddod.