Pobl ifanc yn cymryd selffi ar y traeth

Gwerth gwirfoddoli yn sgil y coronafeirws

Cyhoeddwyd: 24/06/20 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Felicitie (Flik) Walls

Yma, mae Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, yn edrych ar sut allai newidiadau i wirfoddoli alluogi pobl ifanc i wrthbwyso’r effeithiau negyddol y mae’r cyfyngiadau symud wedi’u cael ar eu bywydau, yn y tymor byr a chanolig.

*I bobl ifanc sy’n chwilio am gyfleoedd i dyfu, a’r rheini sy’n ceisio sicrhau bod y cyfleoedd gwirfoddoli y maen nhw’n eu cynnig yn diwallu anghenion a dyheadau’r rheini sy’n manteisio arnyn nhw, mae hwn yn werth ei ddarllen.*

Mae 2020 wedi bod yn annheg iawn ar bobl ifanc a dweud y lleiaf diolch i bandemig y coronafeirws a’r cyfyngiadau cysylltiedig sydd wedi’u gosod.

Mae pobl ifanc (rhwng 15 a 21 oed yn bennaf) wedi gweld newidiadau cyflym yn cael eu rhoi ar waith o ran eu mynediad at ddysgu wyneb yn wyneb, y dull arholi a’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer profiadau dysgu, fel gwirfoddoli, lleoliadau gwaith ac interniaethau.

I goroni’r cwbl, mae pobl ifanc (ynghyd â phobl o bob oed) wedi gorfod ymdopi â threfniadau byw a allai fod yn llai na delfrydol, anallu i gysylltu’n ffisegol ag eraill a llai o fynediad i fannau awyr agored.

Dengys dangosyddion cynnar fod pobl ifanc (heb fawr syndod) yn wynebu mwy o heriau iechyd meddwl, a nodwyd fod hyn i ryw raddau wedi digwydd yn sgil rhai, os nad yr holl bethau uchod.

Drwy fy rôl fel Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, ac yn enwedig yn sgil y gwaith rwy’n ei arwain yng Nghymru ar yr ymgyrch #iwill, rwyf wedi cael y pleser o fyfyrio ar brofiadau bywyd nifer o bobl ifanc sydd wedi, neu’n parhau i fod, yn gyfranwyr gweithredol at gymunedau Cymru (a thu hwnt, mewn rhai achosion).

Yn ogystal â hyn, drwy’r rhwydweithiau gwirfoddoli ieuenctid rwy’n eu hwyluso, mae mudiadau sy’n cynnwys pobl ifanc wedi rhannu sut maen nhw wedi addasu i’r argyfwng er mwyn sicrhau y gall eu cyfranwyr ifanc brwdfrydig barhau i roi o’u hamser mewn modd ystyrlon.

Profiad gwirfoddolwyr ifanc

Mae gwirfoddolwyr ifanc wedi dweud wrthym fod gwirfoddoli yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud wedi rhoi’r cyfle iddynt gadw mewn cysylltiad, i ddefnyddio’u hamser (yr oedd ganddyn nhw fwy ohono’n gyffredinol) mewn modd y credant sy’n ddefnyddiol a gwerthfawr ac, mewn rhai achosion, i wthio’u hunain i fod yn fwy creadigol, dewr ac arloesol.

Senario a’u galluogodd i greu, dyfeisio a rhoi cynnig ar ddatrysiadau newydd i’r problemau yr oedden nhw wedi sylwi oedd gan eu cymheiriaid a’r byd o’u hamgylch.

Enghraifft o hyn yw Project Hope, sef prosiect a aned o awydd i leihau unigrwydd ac ynysu ymhlith pobl ifanc. Gwnaeth y prosiect greu rhith-sesiynau rheolaidd er mwyn i bobl ifanc gysylltu ag eraill, drwy weithgareddau a thrafodaethau ar-lein ar bethau y mae pobl ifanc yn ei fwynhau ac yn poeni amdanynt.

Gwnaeth Naomi, sylfaenydd 21 oed y prosiect, weld yr angen a chael yr hyder i greu ateb i’r broblem. Ac mae’n un sydd wedi gweld pobl ifanc o bob cwr o Gymru’n ymgymryd â rolau arwain wrth gyflwyno rhith-sesiynau.

Newid mewn tueddiadau gwirfoddoli

Dau newid allweddol sydd wedi’u gweld mewn gwirfoddoli ers i’r coronafeirws ledaenu yw’r cynnydd cyflym mewn cyfleoedd gwirfoddoli rhithwir, ac awydd unigolion (o bob oed) i ymgasglu a dechrau mentrau lleol ac ymuno â nhw er mwyn ymateb i’r angen mewn cymunedau.

Mae Project Hope yn enghraifft o’r ddau newid hwn, oherwydd mae’r prosiect yn bodoli ar-lein ac wedi’i ddechrau, ei greu a’i redeg gan bobl ifanc, heb ddisgrifiad rôl gwirfoddoli ffurfiol na phecyn hyfforddi mewn golwg.

Mae’n debygol fod y newidiadau hyn i’r dirwedd wirfoddoli yma i aros, gan gynnig amrediad o fuddion i’r rheini sy’n gwirfoddoli, y rheini sy’n elwa ar gyfraniadau’r gwirfoddolwyr ac i’n cymdeithas yn gyffredinol.

Ymddangosiad y rhith-wirfoddolwr

Mae gallu cyfrannu at achos sy’n agos at eich calon o’ch cartref eich hun, ar adeg o’ch dewis (ddydd neu nos), mewn unrhyw ran o’r byd, yn rhoi’r hyblygrwydd eithaf mewn gwirfoddoli i wirfoddolwyr.

Ond cyn i bobl ifanc fynd yn rhy gyffrous ynghylch gwirfoddoli drwy ddyfais ddigidol, mae gwaith i’w wneud ar ochr gyflenwi rhith-wirfoddoli.

Bob wythnos, mae platfform www.volunteering-wales.net yn gweld cynnydd yn y cyfleoedd o’r fath sydd ar gael, ond bydd angen i fwy o fudiadau feddwl am sut byddan nhw’n denu gwirfoddolwyr yn y modd hwn. Bydd angen iddyn nhw ailedrych ar y llwybr i mewn i’r rolau hyn, y mathau o rolau sydd ar gael a’r cymorth sy’n cael ei gynnig i’w gwirfoddolwyr ar-lein.

Un o’r buddion ychwanegol o greu rolau ar-lein i wirfoddolwyr yw ei fod yn ehangu’r gronfa recriwtio, oherwydd nid yw lleoliad na’r gallu i gyrraedd lle penodol i wirfoddoli yn ffactor sy’n cyfyngu pobl mwyach.

Gall hyn gyflwyno mwy o gyfleoedd i bobl ag anableddau a allai fod wedi cael anhawster cyrraedd lle ffisegol i wirfoddoli, neu sydd angen cyfarpar penodol sydd ganddyn nhw eisoes gartref.

Yng Nghymru, mae teithio o fewn ac o gwmpas cymunedau gwledig yn heriol, ac mae gallu cysylltu ar-lein yn golygu nad yw hyn yn broblem mwyach.

Ewch amdani

Roedden ni eisoes yn gwybod fod Cymru’n llawn ysbryd cymunedol a bod bron un o bob tri unigolyn yn y wlad yn gwirfoddoli, ond mae nifer y bobl sydd wedi camu ymlaen i gefnogi eu cymunedau drwy ddulliau anffurfiol wedi bod yn anhygoel.

Gall pob sector a chymdeithas ehangach elwa ar fentrau hunan-drefnu. Caiff mudiadau, y sector cyhoeddus a busnesau eu hannog nawr i ddod o hyd i ffordd o ddarparu cymorth a chanllawiau sy’n hawdd cael gafael arnynt, heb eu bod yn llesteirio creadigrwydd, dewrder neu gymhelliant y gweithredwyr dros newid hyn.

O ran pobl ifanc, rydyn ni’n gobeithio y bydd yr holl rai hynny o’u hamgylch yn parhau i ymddiried ym mhŵer ieuenctid i newid bywydau eraill ac y bydd y ffactorau galluogi’n parhau i fod ar gael (ac yn hysbys) i bobl ifanc a’r rheini sy’n gysylltiedig â nhw, fel y gall eu potensial ffynnu.

Un o’r cyfleoedd sy’n bodoli i bobl ifanc yng Nghymru yw’r paneli grant dan arweiniad ieuenctid sydd wedi’u sefydlu ar hyd a lled y wlad. Ceir un ym mhob ardal awdurdod ac maen nhw’n galluogi pobl ifanc i gael gafael ar gyllid ar gyfer eu gweithredu cymdeithasol dan arweiniad ieuenctid eu hunain. Gall pobl ifanc sydd angen symiau bach o gyllid i danio’u syniadau eu hunain gysylltu â’u Cyngor Gwirfoddol Sirol am ragor o wybodaeth.

Llenwi’r bwlch

I’r bobl ifanc hynny sy’n teimlo bod y cyfleoedd iddyn nhw ddysgu, arbrofi, cael profiad a bod yn rhan o’r byd go iawn wedi mynd y tu hwnt i’w gafael, mae gan wirfoddoli’r potensial i lenwi’r bwlch hwnnw.

Drwy edrych yn gyflym ar y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael ar blatfform Gwirfoddoli Cymru, mae rolau ar gael i unigolion ymgymryd â swyddi lle mae angen ymgysylltu â chymunedau neu lle gallant ddysgu sut i weithio o fewn amgylchedd swyddfa.

Mae llawer o’r rolau’n cynnig hyfforddiant a byddant yn rhoi geirda i’r rheini sy’n gwirfoddoli â nhw, sy’n cynnig cyfle i wella’r CV neu geisiadau prifysgol.

Ynghyd â hyn, gellid perswadio mudiadau’n hawdd i greu cyfleoedd ystyrlon i gefnogi eu hachos (os nad ydynt wedi gwneud hynny yn barod), sy’n galluogi pobl ifanc i brofi’r byd gwaith.

Gallai unigolion ymgymryd â phrosiectau tymor byr wedi’u strwythuro, lle gallant ddysgu sgiliau gwerthfawr, siarad â staff ac ymddiriedolwyr cyfredol er mwyn deall amrediad o lwybrau gyrfaol, ymhél â phobl a chymunedau newydd er mwyn sefydlu rhwydweithiau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, a darparu cyfleoedd a llwybrau arwain er mwyn galluogi pobl i fod yn fwy ymwybodol o’u galluoedd a’u hehangu.

Mae mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr yn debygol o ganfod na fydd rhai o’u gwirfoddolwyr rheolaidd, neu eu carfan arferol o wirfoddolwyr, yn dychwelyd i wirfoddoli, a bydd yn rhaid iddyn nhw ystyried pwy fyddant yn ei denu i’w gwasanaethau a sut byddant yn gwneud hyn.

Mae’n bosibl y bydd pobl ifanc yn fodlon camu i’r adwy, os gofynnir iddynt yn y ffordd gywir, os ydyn nhw’n credu bod y cynnig yn fuddiol iddynt, ac os byddant yn deall y budd mwy hirdymor o ddewis y cyfle penodol hwnnw.

Ffordd arall y gallai pob sector gefnogi pobl ifanc yw drwy annog a galluogi eu gweithluoedd i roi amser i fentrau sy’n helpu pobl ifanc i ffynnu.

Mae rhai enghreifftiau gwych o hyn, gan gynnwys y prosiect One Million Mentoring, sef prosiect sy’n paru gweithwyr proffesiynol gyda phobl ifanc rhwng 16-25 oed, ac ysgolion sy’n recriwtio staff allanol i wirfoddoli eu hamser i gynnal cyfweliadau ffug a sesiynau cyngor ar CVs.

Y tu hwnt i yfory

Mae’r holl bethau uchod yn gyfleoedd y gellir edrych arnyn nhw yfory, camau y gellir eu cymryd yn gymharol gyflym a hawdd i alluogi pobl ifanc i chwilota ac adeiladu eu hunain ar gyfer eu dyfodol. Dyfodol rwy’n awyddus i beidio â’i weld yn cael ei ddifetha gan y coronafeirws neu gyfyngiadau symud.

Y tu hwnt i yfory, bydd yr heriau a’r cyfleoedd rydyn ni’n eu hwynebu mewn byd sy’n newid yn gyflym yn gofyn i ni edrych ar wirfoddoli’n ehangach, ar draws y sbectrwm o oedrannau a chamau, a chan ystyried y newidiadau cymdeithasol, economaidd a thechnolegol ehangach sydd ar y ffordd.

Beth nawr?

Am y tro, rwy’n gobeithio y bydd pobl ifanc yn gweld rhyw lygedyn o oleuni yn y blog hwn ac yn troi at wirfoddoli fel ffordd o ymgysylltu â’r byd a chael ychydig o brofiad, waeth a fyddant yn dewis cymryd rhan mewn prosiect sydd eisoes yn bodoli neu’n dewis creu eu prosiect eu hunain.

I fudiadau a busnesau, rwy’n gobeithio y byddan nhw’n defnyddio hwn i fyfyrio ar sut gallant gynorthwyo pobl ifanc orau drwy’r holl opsiynau sydd ar gael iddyn nhw, er mwyn gwella eu bywydau a’u galluogi i ffynnu.

I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli, neu weithio gyda gwirfoddolwyr, ewch i’n hadran wirfoddoli.