Grŵp amrywiol o wirfoddolwyr hapus yn dal dwylo yn yr awyr agored

Gwerth cymdeithasol – Fframwaith o egwyddorion er mwyn cael cymaint â phosibl o effaith

Cyhoeddwyd: 15/02/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Eleri Lloyd

Mae Eleri Lloyd, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol ym Mantell Gwynedd yn dweud wrthym ni pam mae mesur gwerth cymdeithasol mor bwysig a’r cymorth sydd ar gael.

Nid yw gwerth cymdeithasol (Saesneg yn unig) yn newydd, ond o’i gymharu â chyfrifyddu ariannol, mae cyfrifyddu cymdeithasol yn gysyniad ifanc iawn o’i gymharu â’r byd cyllido aeddfed sydd wedi hen ennill ei blwyf. Mae angen i bob un ohonom ni gyflwyno ein cyfrifon bob blwyddyn a byddwn ni’n cadw llygad barcud ar ein mewndaliadau ac alldaliadau ac yn cymharu’r rhain â’n cyllideb fisol.

Byddai aros 12 mis i fesur ein perfformiad ariannol yn cael ei ystyried yn ormod o risg o lawer o fewn mudiad. Ond eto, wrth feddwl am ddata sy’n ymwneud â newidiadau i fywydau pobl, byddwn ni’n anghofio am hwn yn aml tan fydd hi’n bryd i ni ysgrifennu cais arall am grant neu pan fydd angen ychydig o wybodaeth arnom ni ar gyfer ein hadroddiad blynyddol, ac mae perygl na fyddwn ni’n cael cymaint â phosibl o effaith.

SOCIAL VALUE CYMRU

Mae Social Value Cymru yn bartner â Social Value UK ac rydyn ni’n rhannu eu gweledigaeth o ‘Newid y ffordd y mae’r byd yn ystyried gwerth.’ Yn yr un modd â chyfrifyddu ariannol, mae gwerth cymdeithasol yn seiliedig ar fframwaith o egwyddorion (Saesneg yn unig), ac mae’r rhain yn egwyddorion y dylai pob un ohonom ni lynu wrthynt wrth wneud penderfyniadau a fydd yn helpu i leihau anghyfartaledd, lleihau difrod i’r amgylchedd a gwella llesiant pobl.

Mae Social Value Cymru yn rhan o fudiad Mantell Gwynedd, ac fel Cyngor Gwirfoddol Sirol, mae’r cwestiwn wedi codi – ‘Wel rydyn ni’n gweithio yn y sector gwirfoddol, felly mae pob dim rydyn ni’n ei wneud yn creu gwerth cymdeithasol. Pam mae angen i ni fuddsoddi amser ac adnoddau yn mesur effaith?’

Efallai bod hynny yn wir, ond sut rydyn ni’n gwybod? A ydyn ni wedi gofyn i’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw pa wahaniaeth rydyn ni wedi’i wneud i’w bywydau? A allwn ni ddangos y gwahaniaeth hwn i randdeiliaid mewnol ac allanol? A oes gennym ni’r wybodaeth a fydd yn gallu ein helpu i gynllunio a gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw?

DANGOS Y GWAHANIAETH RYDYN NI’N EI WNEUD

Gall buddsoddi amser ac adnoddau yn mesur a rheoli gwerth cymdeithasol nid yn unig ein helpu i gadarnhau ein bod yn creu newidiadau positif go iawn ym mywydau bobl, ond bydd hefyd yn ein helpu i ddangos a chyfathrebu’r newidiadau hyn i randdeiliaid. Yn bwysicach oll, bydd yn ein helpu i gael cymaint â phosibl o effaith ar fywydau pobl ac yn sicrhau ein bod yn atebol am yr holl newidiadau sy’n deillio o’n gweithgareddau.

Yng Nghymru, gall hyn hefyd ein helpu i ddangos sut rydyn ni’n cyfrannu at ein nodau llesiant.

SUT GALLWN NI EICH HELPU

Mae Social Value Cymru yn cynnig cymorth, cyngor a gwasanaethau ymgynghori ar werth cymdeithasol i fudiadau trydydd sector. Gan ddefnyddio ein harbenigedd a’n profiad gallwn ni gynnig amrywiaeth o wasanaethau i chi sy’n galluogi gwerth cymdeithasol i’ch helpu i wneud mwy fyth o newidiadau positif i bobl a’r amgylchedd, cryfhau eich llywodraethiant a’ch cynorthwyo gyda cheisiadau am gyllid.

Rydyn ni wedi gweithio’n llwyddiannus gydag elusennau a busnesau cymdeithasol amrywiol i ddangos eu gwerth cymdeithasol, gan gynnwys Barnardo’s, Camau Cadarn (Gogledd Cymru), Y Bartneriaeth Awyr Agored, GISDA a CAIS. Rydyn ni hefyd yn darparu hyfforddiant sy’n addas i ofynion amrywiol ac wedi gweithio’n agos gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol eraill a chyrff cyhoeddus yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

DYSGU MWY AM WERTH CYMDEITHASOL

Drwy weithio gyda rhanddeiliaid, gwyddom y gallwn ddeall sut mae gweithgareddau yn effeithio ar fywydau pobl a mudiadau.

Mae defnyddio’r Egwyddorion Gwerth Cymdeithasol yn golygu y gallwn ni roi gwerth ar yr effeithiau hyn, a thrwy wneud hynny, rydyn ni wedi helpu mudiadau i ddeall, cyfathrebu a rheoli gwerth cymdeithasol eu gwaith yn well.

Os hoffech chi wybod mwy am werth cymdeithasol a sut y gall eich helpu i ddatgloi potensial y fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru, gallwch chi gysylltu â Social Value Cymru drwy anfon e-bost at eleri@mantellgwynedd.com.

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.