Grŵp amrywiol o bobl yn trafod tueddiadau gwirfoddoli o bob rhan o'r byd

Gwersi o wirfoddoli ledled y byd

Cyhoeddwyd: 06/11/23 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Rob Jackson a Martin J Cowling

Siaradodd yr arbenigwyr gwirfoddoli rhyngwladol, Rob Jackson a Martin J Cowling yn ein sesiwn gofod3 yn ddiweddar gan edrych ar sut mae gwirfoddoli wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf a sut gallwn ni stopio ei ddirywiad.

Mae gwirfoddoli yn yr 21ain ganrif yn trawsnewid yn sylweddol, gan newid y dirwedd a safbwyntiau pobl. Roedd wedi dechrau cyn y pandemig, a’r pandemig wedi’i gyflymu. Nid chi yw’r unig rai sy’n gweld llai o wirfoddolwyr, ‘llai o ymrwymiad’ a newid mewn diddordebau, ffocws a blaenoriaethau. Rydyn ni’n gweld hyn ledled y byd.

Mae gennym ni fynediad at gymaint o ddata gwerthfawr am wirfoddoli. O ganlyniad, mae gennym ni ddarlun cywir iawn o wirfoddoli. Dyma ddau adnodd o’r fath:

  1. Community Life Survey (CLS) (Saesneg yn unig). Mae astudiaeth fawr gan y llywodraeth sydd wedi bod ar y gweill ers 2001,yn darparu data tueddiadau gwerthfawr ar faint o bobl sy’n gwirfoddoli a pham mae rhai pobl yn rhoi o’u hamser ac eraill ddim. Mae’r CLS yn canolbwyntio ar Loegr yn unig nawr, gan fod gwirfoddoli yn gyfrifoldeb sydd wedi’i ddatganoli ledled y DU. Serch hyn, mae’n set ddata hirdymor defnyddiol a chyfredol.
  2. Time Well Spent (TWS) (Saesneg yn unig). Wedi’i gyhoeddi yn 2019 a 2023, edrychodd TWS ar sampl fawr o wirfoddolwyr ledled Cymru, Lloegr a’r Alban er mwyn gweld sut roedden nhw’n teimlo am eu profiad gwirfoddoli. Mae’r rhain i gyd yn dangos dirywiad yn nifer y gwirfoddolwyr ac yn yr oriau gwirfoddoli a roddir.

Er mwyn deall a dehongli’r adroddiadau hyn, argymhellwn yr erthyglau Saesneg canlynol:

MAE’R DIRWEDD WIRFODDOLI WEDI NEWID

Cyni llywodraethol

Mae llai o arian cyhoeddus wedi rhoi elusennau o dan fwy o bwysau i gyflawni mwy gyda llai o adnoddau. O ganlyniad, mae cyfraniadau gwirfoddolwyr yn fwy hanfodol fyth i bontio’r bylchau a adawyd gan ostyngiadau ariannol. Ychydig iawn o gyllid sydd ar gael ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr (mae Cymru’n ffodus i gael y Grant Gwirfoddoli Cymru hirsefydlog a gefnogir gan Lywodraeth Cymru).

Diffinio ‘gwirfoddoli

Mae llywodraethau, corfforaethau a sefydliadau wedi diffinio’r term i gynnwys gweithgareddau a fyddai’n cael eu hystyried yn draddodiadol fel gwasanaethau cenedlaethol, gwasanaethau cymunedol cyflogeion, gwaith â thâl neu gosbau. Mae’r llinellau aneglur rhwng gwirfoddoli a gweithgareddau eraill wedi codi cwestiynau ynghylch natur gwirfoddoli.

Technoleg – rhannu a herio

Er bod technoleg wedi creu cyfleoedd gwirfoddoli newydd, mae hefyd wedi cyflwyno heriau. Mae’r rhaniad digidol yn golygu mai dim ond rhai pobl sydd â mynediad cyfartal at gyfleoedd gwirfoddoli ar-lein, ac mae hyn yn creu anghyfartalwch mewn ymgysylltu. Yn ogystal â hyn, mae’r cynnydd mewn gwirfoddoli o bell a gwirfoddoli rhithiol yn cyflwyno goblygiadau i fudiadau.

GWIRFODDOLWYR POSIBL HEDDIW

Gwerthuso popeth

Mae unigolion yr 21ain ganrif yn fwy ddetholgar, yn gwerthuso mudiadau ar sail eu heffaith a’u tryloywder. Mae pobl eisiau gwybod bod eu hymdrechion gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth, a chânt eu denu fwyfwy at fudiadau sy’n gallu dangos eu heffaith drwy ddata ac enghreifftiau.

Wedi’u llethu gan broblemau

Mae aelodau’r cyhoedd heddiw yn wynebu llawer o broblemau byd-eang, o’r newid yn yr hinsawdd i anghydraddoldeb cymdeithasol. Er bod yr ymwybyddiaeth uwch hon yn gallu ysgogi unigolion i wirfoddoli, gall wneud iddynt deimlo wedi’u llethu gan raddfa’r heriau. Pan rydyn ni’n gofyn i bobl wirfoddoli, rydyn ni’n cystadlu mewn môr o broblemau.

Gwneud mwy ar-lein ac yn fwy lleol

Mae’r oes ddigidol wedi’i gwneud hi’n haws i bobl gysylltu â chynnyrch, achosion a digwyddiadau ledled y byd. Ar yr un pryd, mae pobl yn canolbwyntio fwyfwy ar eu cymunedau lleol, ac eisiau cymryd rhan yn agosach at gartref.

GWIRFODDOLI A’R GYMUNED

Pobl hŷn yn edrych ar eu blaenoriaethau

Wrth i bobl fyw bywydau hirach ac iachach, mae unigolion hŷn yn edrych ar eu blaenoriaethau. Nid yw llawer yn dewis rhoi o’u hamser i wirfoddoli mwyach, gan olygu bod mudiadau yn colli eu hamser, eu sgiliau a’u profiadau gwerthfawr. Mae’r newid demograffig hwn yn amlygu’r angen i raglenni gwirfoddoli ystyried dewisiadau a ffyrdd o fyw oedolion hŷn.

Pobl iau eisiau effaith

I’r gwrthwyneb, mae’r cenedlaethau iau yn dod i mewn i’r dirwedd wirfoddoli yn awyddus i gael effaith ystyrlon. Maen nhw’n cael eu denu at achosion sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd ac yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn prosiectau tymor byr sy’n cael llawer o effaith. Os nad ydynt yn gweld yr effaith hon, ni fyddan nhw’n ymrwymo. Rhaid i fudiadau addasu eu cyfleoedd gwirfoddoli a’u strategaethau cyfathrebu er mwyn ymhél yn effeithiol â gwirfoddolwyr ifanc.

Mae amser yn ffocws mawr

Mae gwirfoddolwyr yn chwilio am gyfleoedd sy’n cynnig hyblygrwydd a chyfleustra mewn byd lle mae amser yn werthfawr. Mae micro-wirfoddoli a gwirfoddoli achlysurol, sy’n caniatáu i unigolion gyfrannu mewn ffyrdd bach ac o fewn amserlenni byr, ar gynnydd. Mae mudiadau sy’n ystyried y dewisiadau hyn yn fwy tebygol o ddenu a chadw gwirfoddolwyr.

Sinigiaeth sefydliadol

Mae sinigiaeth sefydliadol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda rhai unigolion yn cwestiynu effeithiolrwydd a moeseg modelau elusennol traddodiadol. Er mwyn goresgyn y sinigiaeth hon, rhaid i fudiadau fod yn dryloyw ac yn atebol a rhaid iddynt allu dangos eu heffaith.

GWIRFODDOLI DIFFWDAN

Roedd y rhan helaeth o’r gwirfoddoli a welsom yn ystod cyfnodau clo COVID-19 yn weithgareddau anffurfiol ar ffurf cyd-gymorth wedi’u trefnu gan y gwirfoddolwyr eu hunain. Ar y cyfan, roedd hi’n hawdd cael mynediad at y rhain ac ychydig iawn o fiwrocratiaeth, os o gwbl, oedd yn gysylltiedig â nhw. Yn aml, y cwbl oedd y broses recriwtio oedd ateb ‘ie’ i neges ar WhatsApp. Rydyn ni’n galw hyn yn ‘wirfoddoli diffwdan’.

Ond wrth i’r pandemig ymbellhau, mae llawer o fudiadau sy’n cynnwys mudiadau wedi dychwelyd i’w dulliau gwirfoddoli blaenorol, gyda phrosesau gweinyddol hir cyn y gall unrhyw un ddechrau gwirfoddoli. Mae’r ffurflenni a’r gwaith papur yn ôl!

Er bod y rhain yn angenrheidiol mewn rhai amgylchiadau, fel amgylcheddau a reolir (meddyliwch am Arolygiaeth Gofal Cymru), yn amlach na pheidio, blanced gysur i fudiadau yw’r rhain er mwyn ceisio osgoi unrhyw risgiau wrth ymgysylltu â gwirfoddolwyr. Ac nid ydynt yn helpu. Canfu adroddiad Time Well Spent (Saesneg yn unig) fod gwirfoddolwyr yn fwy tebygol o feddwl bod eu gwirfoddoli yn teimlo fwy fel gwaith â thâl bellach (o 19% yn 2018 i 26% yn 2022).

AMSER AM CHWYLDRO?

Er mwyn goroesi, mae angen i wirfoddoli drawsnewid yn llwyr. Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni’n gweld y gymuned yn cyfrannu at ein mudiad. Mae angen i ni newid strwythur, amseru, ffocws, effaith a chanlyniad rolau gwirfoddoli, yr iaith rydyn ni’n ei defnyddio, sut rydyn ni’n marchnata, sut rydyn ni’n recriwtio, sut rydyn ni’n hyfforddi a sut rydyn ni’n rheoli. Mewn geiriau eraill, mae angen chwyldro llwyr.

Sut gallwn ni symleiddio ein systemau a’n prosesau i’w gwneud nhw’n fwy diffwdan i ddarpar wirfoddolwyr? Sut rydyn ni’n cydbwyso disgwyliadau pobl am wirfoddoli diffwdan â’n gofynion ni ynghylch diogelu ac ati? Mae’r rhain yn gwestiynau a blaenoriaethau hanfodol i fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr.

Mae angen ymdrech o’r newydd arnom i gynnig profiadau gwirfoddoli o ansawdd i bawb (Saesneg yn unig). Mae angen i ni wneud newidiadau sylweddol i stopio’r dirywiad parhaus hwn yn y nifer sy’n gwirfoddoli. Bydd opsiynau, ond dim ond os byddwn ni’n gwneud y newidiadau hyn. Trwy greu cyfrwng newydd ar gyfer gwirfoddoli, byddwn ni’n gweld unigolion a chymunedau yn parhau i wneud gwahaniaeth o ran y problemau rydyn ni’n ceisio eu trechu fel cymuned fyd-eang.

RHAGOR AR HYN

Bydd partneriaid Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) – y 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol ac CGGC – yn cynnal rhai gweithdai ymarferol fel dilyniant o’n sesiynau gofod3, ‘I ble? Gwersi o wirfoddoli ledled y byd’. Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ar-lein yn ystod yr hydref, i fynegi diddordeb, anfonwch e-bost at gwirfoddoli@wcva.cymru.