Grŵp o bobl yn sefyll ar lwyfan yn cynnal tlws Gwobrau Elusennau Cymru

Gwella chwarae a chreu atgofion drwy ein partneriaethau di-elw

Cyhoeddwyd: 30/11/23 | Categorïau: Ar gyfer aelodau, Awdur: Heather Roberts

Dyma Heather Roberts, Uwch Ymarferydd Chwarae yn Nhŷ Hafan, yn trafod gwaith y mudiad gyda phartneriaid a sut y gall aelodau eraill Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) gymryd rhan.

Dychmygwch wybod y bydd eich plentyn yn marw o’ch blaen chi. Dyma’r realiti trychinebus sy’n wynebu miloedd o deuluoedd ledled Cymru bob dydd.

Mae Tŷ Hafan yn credu na ddylai unrhyw deulu orfod ymdopi â hun ar eu pen eu hunain. Dyna pam rydyn ni yma. Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pob teulu a phlentyn sydd â chyflwr sy’n byrhau ei fywyd yn gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain.

EIN GWAITH

Does dim byd yn hawdd i lawer o blant sy’n ddifrifol wael. Mae mannau cymunedol yn aml yn anhygyrch. Gall hyn wneud i deuluoedd deimlo eu bod wedi’u heithrio, a bod eu plant yn colli allan ar yr hwyl a’r ysgogiad sydd eu hangen arnynt.

Mae ein tîm amlddisgyblaethol yn darparu gofal holistaidd, ac maen nhw’n canolbwyntio ar anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol teuluoedd er mwyn trawsnewid bywydau’r teuluoedd hynny’n wirioneddol.

Rydyn ni’n defnyddio technegau, technoleg a chyfleusterau arbenigol i helpu plant i gyfathrebu ac ymgysylltu â’r byd o’u cwmpas, yn ogystal â helpu teuluoedd i gael hwyl a chreu atgofion gyda’i gilydd. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ganolbwyntio bob amser ar yr hyn maen nhw’n gallu ei wneud, ac nid ar yr hyn nad ydyn nhw’n gallu ei wneud.

GWEITHIO GYDAG ERAILL

Pan fydd teuluoedd yn ymweld â Thŷ Hafan, yn aml dyna’r unig amser y gallan nhw chwarae gyda’i gilydd yn gynhwysol. Mae gennym gyfleusterau hygyrch fel ein pwll hydrotherapi, ein maes chwarae a’n llyfrgell o deganau wedi’u haddasu, ac mae hyn yn rhoi rhyddid i blant fwynhau chwarae a chysylltu â’u teuluoedd.

Fel elusen, rydyn ni’n dibynnu ar haelioni ein rhoddwyr i gyflawni ein gwaith. Fodd bynnag, mae llawer mwy na dim ond cymorth ariannol yn ein helpu i fod yn gefn i’r teuluoedd sy’n dibynnu arnom.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag amrywiaeth o fudiadau nid-er-elw i roi’r profiadau gorau posibl i deuluoedd, gan gynnwys Lifelites, Touch Trust, Make a Smile a Cariad Pet Therapy.

Drwy gael mewnbwn gan amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth eraill, gallwn ni gynnig rhaglen gyffrous o weithgareddau drwy gydol yr wythnos. Mae hyn yn golygu y gallwn ni ddarparu ar gyfer y gwahanol bobl ifanc sy’n defnyddio’r hosbis, a chynnig gwasanaeth chwarae sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

Dau gyfleuster sy’n newid bywydau yn Nhŷ Hafan drwy bartneriaethau â darparwyr eraill yw Eyegaze Edge, a roddwyd i ni gan Lifelites, ac ymweliadau rheolaidd gan gŵn therapi a ddarperir gan Cariad Pet Therapy.

GWEDDNEWID CYFATHREBU GYDAG EYEGAZE EDGE

Pan roddodd Lifelites y technoleg anhygoel Eyegaze Edge i ni, roedden ni’n gwybod y byddai’n hwyluso hygyrchedd a chynhwysiant yn fawr iawn. Math o dechnoleg gynorthwyol yw Eyegaze Edge, ac mae’n helpu plant sydd â symudedd cyfyngedig i ryngweithio â’r byd, a hynny ddim ond drwy symud eu llygaid.

Mae Eyegaze Edge yn defnyddio symudiadau llygaid i deipio neu glicio ar sgrin gyda chamera tracio llygaid. Gall yr unigolyn sy’n defnyddio’r dechnoleg Eyegaze Edge edrych ar y sgrin a dewis gwahanol fysellau. Mae’r bysellau’n debyg iawn i’r rhai sydd ar eich gliniadur. Mae gan y dechnoleg hon nodwedd cynhyrchu lleferydd, ac mae modd chwarae gemau a chael gafael ar wefannau ac apiau.

Gall plant ddefnyddio’r offer hwn i wneud penderfyniadau sy’n gofyn am ateb ‘ie’ neu ‘na’, neu ddewis beth fydden nhw’n hoffi ei wneud y diwrnod hwnnw. I blant nad ydynt yn gallu siarad ac sydd â symudedd cyfyngedig iawn, mae gallu gwneud penderfyniad yn brofiad newydd ac mae’n rhoi hwb mawr i’w hunan-barch a’u hannibyniaeth.

BELLA, IDRIS AC ASA – Y CŴN THERAPI SY’N DOD Â LLAWENYDD I DŶ HAFAN

Mae’n bleser gweithio gyda Cariad Pet Therapy. Mudiad nid-er-elw yw Cariad Pet Therapi, ac maen nhw’n dod â thri ci therapi hyfryd o’r enw Bella, Idris ac Asa i’n hosbis bob wythnos.

Labradoodle yw Idris, ac mae wrth ei fodd yng nghwmni pobl. Mae Idris yn saith oed. Dyma beth oedd gan Louise, perchennog Idris, ei ddweud wrthym: ‘Rhaid i gi fod â’r cymeriad iawn i fod yn gi therapi, ac mae Idris yn dda iawn am edrych i fyw eich llygaid.

‘Dydy Idris ddim yn beirniadu neb, ac mae’n ymddangos ei fod yn gwybod sut i roi cymorth i bawb, boed yn fabi bach, yn blentyn, yn unigolyn ifanc yn ei arddegau neu’n oedolyn.

‘Yn ddiweddar, cefais neges gan un o’r bobl ifanc a oedd yn aros yn Nhŷ Hafan, a dywedodd ei bod hi’n teimlo’n isel a’i bod eisiau gweld Idris. Felly, fe wnaethon ni alw heibio i’w gweld hi. Roedd Idris yn gorwedd ar ei gwely ac roedd y ddau yn cysgu am hanner awr – dyna’n union beth oedd ei angen arni hi.’

Mae presenoldeb Idris, Bella ac Asa yn talweu ac yn cysuro’r plant a’r bobl ifanc sy’n ymweld â’r hosbis – ac mae’r cŵn yn cynnig llawer mwy na dim ond cymorth mewn hosbis. Mae’r cŵn yn mynd gyda’r plant a’r bobl ifanc i apwyntiadau yn yr ysbyty hefyd!

Mae rhagor o wybodaeth am Hosbis Plant Tŷ Hafan a’r cymorth rydyn ni’n ei gynnig i blant a’u teuluoedd ar gael yma.

ALLECH CHI GEFNOGI TŶ HAFAN?

Rydyn ni bob amser yn agored i edrych ar offer a gweithgareddau newydd gan bob math o ddarparwyr. Os hoffech chi weithio gyda Thŷ Hafan, cysylltwch â Heather Roberts drwy anfon e-bost at heather.roberts@tyhafan.org.