Mae Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr CGGC, yn esbonio pam mae angen Gweledigaeth gyffredin ar gyfer Gweithredu Gwirfoddol ar Gymru—a sut y gall mudiadau ar draws y sector helpu i lunio cyfeiriad cliriach, cyfunol ar gyfer y dyfodol.
Ledled Cymru, rydym yn gwybod bod mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith eithriadol bob dydd.
Maen nhw’n cefnogi pobl drwy adegau anodd, yn cryfhau cymunedau, yn creu cyfleoedd ac yn aml yn dal pethau ynghyd pan fo systemau ehangach yn methu.
Nid yw’n waith hawdd. Mae’n gymhleth, yn aml dan bwysau ac anaml yn syml. Ond mae hefyd yn greadigol, yn wydn ac yn llawn egni.
Ac mae’n digwydd ym mhobman.
Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn hynod amrywiol, gyda mudiadau o wahanol feintiau, wedi’u gwreiddio mewn gwahanol leoedd, ac wedi’u siapio gan wahanol gymunedau, diwylliannau a hunaniaethau. Boed yn gweithio ar lefel cymdogaeth neu ar faterion cenedlaethol, mae’r ystod yn enfawr.
Ond er yr holl amrywiaeth hwnnw, mae llawer rydym yn ei rannu hefyd.
Yr her barhaus o ddod o hyd i gyllid cynaliadwy. Yr angen am lywodraethu cryf a gwirfoddolwyr. Y realiti o weithio ochr yn ochr â gwasanaethau cyhoeddus. A’r pwysau sy’n deillio o reoleiddio a galw cynyddol.
Mudiadau gwahanol, cymunedau gwahanol – ond profiadau tebyg iawn yn aml.
Mae’r cyfuniad hwnnw o amrywiaeth a her gyffredin yn un o gryfderau mwyaf y sector. Mae’n rhoi cyrhaeddiad, creadigrwydd a dealltwriaeth inni sy’n anodd eu canfod yn unman arall.
Mae hefyd yn codi cwestiwn pwysig.
Beth yn rhagor allem ni ei gyflawni pe byddem yn gliriach ynghylch ble rydym yn mynd gyda’n gilydd?
CREU RHYWBETH Y GALLWN EI DDEFNYDDIO GYDA’N GILYDD
Dros y misoedd nesaf, bydd CGGC yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector i ddatblygu Gweledigaeth Gyffredin ar gyfer Gweithredu Gwirfoddol yng Nghymru, ochr yn ochr â’n Strategaeth ein hunain ar gyfer 2027 i 2031.
Nid yw hyn yn ymwneud â chynhyrchu dogfen sy’n eistedd ar silff; mae’n ymwneud â chreu rhywbeth y gall pobl ei ddefnyddio mewn gwirionedd – ymdeimlad cyffredin o gyfeiriad y gall mudiadau, cymunedau, cyllidwyr a phartneriaid ei adnabod, cysylltu ag ef a’i ddefnyddio.
Rhywbeth sy’n ein helpu i ddod at ein gilydd o amgylch y pethau sy’n ein galluogi ni i gyd i wneud daioni, ac i’w wneud yn dda.
WEDI’I GYD-GYNHYRCHU A’I GYD-BERCHNOGI
Mae hyn yn bwysig iawn. Ni fydd y Weledigaeth hon yn perthyn i CGGC, oherwydd bydd yn cael ei chyd-gynhyrchu gyda’r sector – a bydd y sector yn gyd-berchen arni.
Ni all yr un mudiad unigol ddiffinio dyfodol gweithredu gwirfoddol yng Nghymru. Ac ni all yr un mudiad unigol ei gyflawni. Ond gyda’n gilydd, gallwn lunio rhywbeth sy’n adlewyrchu realiti ac amrywiaeth cymunedau ledled Cymru, gan roi ymdeimlad cyffredin cryfach o gyfeiriad inni.
Mae hynny’n golygu cymryd yr amser i wrando’n iawn. Dod â gwahanol leisiau i mewn. Creu lle ar gyfer her a syniadau newydd. A sicrhau bod yr hyn rydym yn ei greu yn teimlo’n gadarn, yn berthnasol ac yn wirioneddol ddefnyddiol.
BOD YN GLIR YNGHYLCH EIN RÔL
Ochr yn ochr â’r Weledigaeth gyffredin hon, bydd CGGC yn datblygu ei Strategaeth ei hun, ac mae’n bwysig bod yn glir ynghylch y gwahaniaeth.
Mae’r Weledigaeth yn ymwneud â’r dyfodol rydym i gyd yn gweithio tuag ato, tra bod Strategaeth CGGC yn ymwneud â sut rydym ni’n chwarae ein rhan yn hynny – ble rydym yn canolbwyntio, sut rydym yn gweithio a sut rydym yn cefnogi’r sector i gyflawni’r effaith y mae am ei gweld.
Mae un yn gyffredin. Mae’r llall yn eiddo i ni.
Ond! Mae angen i’r ddwy eistedd ochr yn ochr â’i gilydd a gweithio gyda’i gilydd.
PAM MAE HYN YN BWYSIG NAWR
Nid yw’r heriau sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru yn rhai y gall unrhyw fudiad eu datrys ar ei ben ei hun.
Ond mae’r sector gwirfoddol bob amser wedi bod ar ei gryfaf pan fo pobl yn dod at ei gilydd – drwy bartneriaethau, ymdrech gyffredin a pharodrwydd i gamu ymlaen pan fo hynny bwysicaf.
Os ydym am adeiladu ar hynny, a mynd ymhellach, mae angen ymdeimlad cliriach o gyfeiriad arnom a ffordd gryfach o ddod â phobl gyda ni.
Dyma gyfle i wneud hynny – gyda’n gilydd.
CYMERWCH RAN
Bydd y gwaith hwn yn cael ei siapio drwy sgyrsiau ledled Cymru, wyneb yn wyneb ac ar-lein, a dros y misoedd nesaf, byddwn yn cynnal ac yn ymuno ag amrywiaeth o ddigwyddiadau a thrafodaethau, gan gynnwys:
- Fforwm Partneriaid CGGC | Ar-lein | Dydd Mercher 15 Gorffennaf
- Sioe Frenhinol Cymru | Powys | Dydd Mawrth 21 Gorffennaf
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru | Sir Benfro | Dydd Mercher 5 Awst
- Fforwm Partneriaid CGGC | Wrecsam | dyddiad i’w gadarnhau
- Fforwm Partneriaid CGGC | Canolbarth Cymru | dyddiad i’w gadarnhau
Rydym am glywed gan ystod mor eang â phosibl o leisiau – mudiadau o bob maint, cymunedau gwahanol a safbwyntiau gwahanol. Os hoffech chi gymryd rhan, gallwch hefyd gysylltu’n uniongyrchol â policy@wcva.cymru
YMDRECH GYFFREDIN
Mae hwn yn wahoddiad agored
I helpu i lunio rhywbeth sy’n wirioneddol perthyn i’r sector.
I helpu i greu Gweledigaeth y gallwn ni i gyd ei hadnabod a sefyll y tu ôl iddi.
Ac i fod yn rhan o rywbeth uchelgeisiol am ddyfodol gweithredu gwirfoddol yng Nghymru.
Er na all yr un mudiad unigol gyflawni hynny ar ei ben ei hun, gyda’n gilydd gallwn ddod yn llawer nes.