Bryn Hall, Uwch Swyddog Ymgysylltu a Datblygu Cymru, sy’n egluro sut gall Clinks gefnogi mudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ym maes cyfiawnder troseddol yng Nghymru.
Ledled Cymru, mae mudiadau gwirfoddol yn gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi pobl mae’r system cyfiawnder troseddol yn effeithio arnyn nhw. O brosiectau llawr gwlad mewn cymunedau lleol i wasanaethau arbenigol sy’n gweithio gyda menywod, grwpiau hil-leiafrifiedig neu’r rhai sydd â phrofiad personol o’r system cyfiawnder troseddol – mae’r mudiadau yma’n hanfodol.
Ond nid yw’r dirwedd cyfiawnder troseddol yn un hawdd ei llywio. Gyda chyfrifoldebau wedi’u rhannu rhwng pwerau datganoledig a phwerau sydd heb eu datganoli, datblygiadau polisi newydd yn dod i’r amlwg yn rheolaidd, ac ansicrwydd parhaus ynghylch cyllid a pholisi cyfiawnder troseddol ar lefel Cymru a gwledydd Prydain, mae cael y wybodaeth ddiweddaraf a pharhau’n gysylltiedig yn bwysicach nag erioed.
PWY YW CLINKS?
Clinks yw’r mudiad seilwaith sy’n cefnogi’r sector gwirfoddol sy’n gweithio ym maes cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Rydyn ni’n hyrwyddo rôl y sector gwirfoddol – yn enwedig mudiadau bach ac arbenigol – wrth ddarparu gwasanaethau, dylanwadu ar bolisi, a chreu system decach a mwy tosturiol.
Mae gennym dros 500 o aelodau, o fudiadau mawr i grwpiau cymunedol heb staff, yn gweithio ar draws llysoedd, carchardai a’r gymuned i helpu pobl i drawsnewid eu bywydau a chefnogi teuluoedd a chysylltiadau arwyddocaol eraill. Rydyn ni wedi sefydlu cysylltiadau dibynadwy o fewn y sector gwirfoddol ac wedi cael cyswllt a dylanwad rheolaidd gydag uwch lunwyr penderfyniadau a pholisi yn llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Yng Nghymru, mae ein gwaith yn canolbwyntio ar adeiladu rhwydweithiau cryf, rhannu gwybodaeth gyfredol, a sicrhau bod gan fudiadau gwirfoddol lais wrth siapio polisïau ac arferion – yng Nghymru ac ar lefel y Deyrnas Unedig.
Diwallu anghenion ein sector am gefnogaeth seilwaith | Clinks
SUT RYDYN NI’N CEFNOGI’R SECTOR YNG NGHYMRU
Mae ein gwaith yng Nghymru yn cynnwys:
- Rhannu gwybodaeth amserol a pherthnasol, briffiau, diweddariadau polisi ac adnoddau gyda’n rhwydwaith yng Nghymru drwy negeseuon e-bost.
- Creu mannau i gysylltu, fel ein digwyddiadau grwpiau trafod a rhwydweithio ar faterion allweddol sy’n effeithio ar y gymuned a’r sector gwirfoddol.
- Cynrychioli llais y sector gwirfoddol i lunwyr penderfyniadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru, a chyrff statudol eraill.
- Cefnogi ymgysylltiad polisi mewn meysydd allweddol fel cyfiawnder ieuenctid, menywod yn y system cyfiawnder troseddol, a datganoli yn y dyfodol.
Rydyn ni’n gwybod mai mudiadau bach ac arbenigol sy’n aml agosaf at y cymunedau mae’r system yn effeithio arnyn nhw fwyaf – ond nhw hefyd yw’r rhai sy’n gallu teimlo dan bwysau ac yn fwyaf ynysig. Mae Clinks yma i’ch cefnogi, i sicrhau eich bod chi’n cael eich clywed, a helpu i hyrwyddo eich gwaith hanfodol.
CYFLEOEDD I GYMRYD RHAN
Os ydych chi’n rhan o fudiad gwirfoddol yng Nghymru – p’un a ydych chi eisoes yn gweithio ym maes cyfiawnder neu newydd ddechrau ymgysylltu – mae llawer o ffyrdd i ddod i gysylltiad â Clinks:
- Dod yn aelod o Clinks ac ymuno â’n rhwydwaith i gael newyddion a diweddariadau wedi’u teilwra.
- Dod i’n digwyddiadau a’n fforymau i glywed y datblygiadau diweddaraf a chysylltu ag eraill yn y sector.
- Cyfrannu eich profiadau i helpu i siapio ein hymatebion polisi a’n gwaith eiriolaeth.
- Defnyddio ein hadnoddau i gryfhau eich gwybodaeth, eich arferion a’ch dylanwad.
Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gysylltu â mudiadau nad ydynt efallai wedi gweithio â Clinks o’r blaen – yn enwedig y rhai sy’n cael eu harwain gan bobl sydd â phrofiad personol, y rhai sy’n gweithio gyda chymunedau hil-leiafrifiedig, gwasanaethau menywod, a’r rhai mewn rhannau gwledig o Gymru neu ardaloedd heb gynrychiolaeth ddigonol.
PAM MAE’N BWYSIG
Mae bod yn aelod o Clinks yn golygu nad ydych chi ar eich pen eich hunan. Bydd gennych fynediad at y canlynol:
- Y datblygiadau diweddaraf ym maes cyfiawnder troseddol gan gynnwys y rhai sy’n berthnasol i Gymru.
- Llais cyfunol cryfach wrth ymgysylltu â’r llywodraeth ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.
- Cyfleoedd i gydweithio a dysgu gan eraill sy’n wynebu heriau tebyg.
- Cymorth i lywio tirwedd gymhleth a newidiol cyfiawnder troseddol yng Nghymru a thu hwnt.
BETH AM GYSYLLTU
Os yw eich mudiad yn cefnogi pobl neu’n gweithio gyda phobl sydd mewn cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gallwch wneud y canlynol:
- Gweld cynnwys sy’n berthnasol i Gymru ar ein gwefan: clinks.org/our-work/wales
- Cysylltu â fi’n uniongyrchol: bryn.hall@clinks.org