Gwasanaethau bancio – mudiadau gwirfoddol yn galw am newid

Gwasanaethau bancio – mudiadau gwirfoddol yn galw am newid

Cyhoeddwyd: 01/06/22 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Ben Lloyd

Mae Ben Lloyd, Pennaeth Polisi CGGC, yn archwilio canfyddiadau arolwg ledled y DU ar wasanaethau bancio i elusennau.

Mae’r sylw diweddar yn y wasg i benderfyniad HSBC i osod ffioedd ar gyfrifon sydd gan elusennau wedi dangos yr agendor cynyddol rhwng y gwasanaethau bancio ar gael i elusennau a’r gwasanaethau y mae elusennau yn teimlo bod arnyn nhw eu hangen.

Yn dilyn nifer o gofidiau sydd wedi’u codi gennym ni a chyda rhai o’n cymheiriaid ledled y DU, yn ddiweddar gwnaeth CGGC lansio arolwg bancio i’w aelodau.

Er i ni dderbyn nifer o sylwadau cadarnhaol ynghylch staff neu wasanaethau bancio unigol, awgryma’r darlun cyffredinol fod gwasanaethau bancio’n dod yn fwyfwy annigonol i’r sector gwirfoddol.

Dywedodd nifer bychan o fudiadau wrthym ni fod eu gwasanaethau wedi gwella yn ystod y ddegawd ddiwethaf, ond roedd fwy o lawer o fudiadau yn teimlo i’r gwrthwyneb. Fel pob arolwg arall, mae’r sampl hwn yn hunan-ddewisol, ond mae’r sylwadau hyn yn adlewyrchu’r hyn rydyn ni wedi’i glywed gan ein haelodau.

MAE DARPARIAETH BANC YN NEWID

Mae gwasanaethau bancio ledled Cymru wedi newid. Mae canghennau wedi bod yn cau, gan adael llawer o drefi heb fanciau, a llawer o ddinasyddion yn gorfod gwneud teithiau hir i gyrraedd banc go iawn. Ar yr un pryd, mae’r nifer sy’n gwneud eu bancio ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol.

Dangosodd ein harolwg fod llawer o fudiadau’r sector gwirfoddol yn teimlo wedi’u siomi gyda’r ddarpariaeth newidiol hwn. Er enghraifft, dywedodd un mudiad:

‘Dim gwasanaeth cownter yn [cangen Gogledd Cymru] nawr ei bod hi’n gangen ‘ddigidol’. Mae rhai staff yn gymwynasgar, ond eraill yn dda i ddim a heb unrhyw syniad o sut mae mudiadau elusennol yn gweithio’.

Dywedodd rhywun arall,

‘Bancio dros y ffôn rydyn ni’n ei wneud yn bennaf yn hytrach nag ar-lein, ac yn aml, mae’n rhaid i ni aros un i ddau awr i’r alwad cael ei hateb.

Gwnaeth hyn hefyd gyflwyno heriau sylweddol wrth i elusennau geisio cydymffurfio â rheoliadau, a dywedodd un ymatebydd wrthym

‘Maen nhw eisiau gwthio pawb i wneud bancio ar-lein, ond nid yw hyn yn bosibl pan mae’n rhaid cael dau lofnodwr, i gydymffurfio â rheolau’r mudiad a’r Comisiwn Elusennau ac ati’.

GOSTYNGIAD YN Y GWASANAETH I GWSMERIAID

Cawson ni hefyd lawer o ymatebwyr yn beirniadu ansawdd gwael y gwasanaethau cwsmeriaid ar-lein a thros y ffôn, a’r ffaith eu bod yn gorfod aros yn hir cyn siarad â staff (os oedd hyn hyd yn oed yn bosibl).

D’oes dim dwywaith mai’r farn ymhlith ymatebwyr ein harolwg yw bod gwasanaethau bancio o ansawdd gwaeth, bod staff yn ddatgysylltiedig o gymunedau a bod cau canghennau banc wedi lleihau hyder pobl mewn gallu banciau i wasanaethu elusennau’n effeithlon. Dywedodd fwy nag 80% o’r ymatebwyr fod eu darpariaeth banc wedi gwaethygu neu waethygu’n sylweddol yn ystod y ddegawd ddiwethaf.  Clywsom gan ddwsinau o fudiadau a oedd yn teimlo nad oedd banciau yn gallu cynorthwyo mudiadau’r sector gwirfoddol yn ddigonol.

Mae HSBC wedi’i feirniadu’n llym iawn yn ein harolwg. Roedd 42% o ymatebwyr yn bancio gydag HSBC a llawer ohonyn nhw’n grac â phenderfyniad HSBC i gyflwyno ffioedd i fudiadau’r sector gwirfoddol. Mae hyn yn gysylltiedig iawn â’r farn bod gwasanaethau mewn cangen HSBC wedi dirywio o ran ansawdd. Mae CGGC wedi ysgrifennu at HSBC i godi’r materion hyn ac yn aros am ateb.

GWASANAETHAU CYMRAEG

Mae’r newidiadau hyn hefyd yn cynrychioli argyfwng dirfodol i wasanaethau bancio trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y gorffennol, mae cymunedau Cymreig yn aml wedi gallu darparu gwasanaethau dwyieithog, ac mae llawer o’r banciau mwy o faint wedi ceisio sicrhau bod staff Cymraeg ar gael ar gyfer apwyntiadau. Fodd bynnag, mae’r ymdrech hon i wthio pawb i fancio ar-lein yn tanseilio hyn gan nad yw gwasanaethau bancio ar-lein ar gael yn Gymraeg. Mae CGGC, ynghyd â Merched y Wawr a Mentrau Iaith wedi ysgrifennu at Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ynghylch y broses effeithiol hon o dynnu gwasanaethau Cymraeg yn ôl.

HERIAU GYDA RHEOLIADAU

Yn ogystal â hyn, mae banciau wedi gorfod dilyn amrediad eang o reoliadau sy’n ymwneud â gwyngalchu arian yn y blynyddoedd diwethaf, a gaiff eu croesawu gan y sector ar y cyfan. Fodd bynnag, gwnaethom ni ganfod llawer o enghreifftiau o fudiadau sy’n teimlo’n rhwystredig gyda’r ffordd y mae banciau’n cymhwyso’r rheoliadau hyn i fudiadau’r sector gwirfoddol, gan fethu’n aml â deall eu trefniadau llywodraethu na’u hamgylcheddau rheoleiddio arbennig.

Y pethau a gafodd eu beirniadu llymaf oedd agor cyfrifon newydd a newid banciau. Dywedodd un ymatebwr wrthym ni,

‘Mae wedi cymryd 12 wythnos (hyd yma) i agor un cyfrif newydd’.

Canfu un arall,

‘Fod diweddaru mandad banc wedi cymryd tua blwyddyn [a bod] awdurdodi drwy lofnodion mandad banc yn boenus ofnadwy ac yn aml yn arwain at gyflwyniadau/drafftiau lluosog.’

Dywedodd trydydd unigolyn wrthym fod proses ddiogelu eu banciau yn ‘hunllef’

a’u bod wedi cael eu

‘cyfrif wedi’i atal dros dro deirgwaith am na wnaeth [y banc] ddweud wrthym fod angen gwybodaeth ychwanegol arnynt.’

Yn fwy gofidus fyth, nododd dau ymatebwr eu bod wedi gorfod defnyddio cyfrifon banc personol mewn rhyw fodd neu’i gilydd i ddod o gwmpas gweithdrefnau bancio gwael.

MAE’R BAICH AR FUDIADAU GWIRFODDOL

Mae hyn yn arbennig o rwystredig oherwydd yr ymateb cyffredin i gwynion am wasanaethau bancio gwael yw newid banciau. Fodd bynnag, mae’r arolwg hwn yn dangos bod hyn yn eithriadol o heriol. Nododd un ymatebwr hefyd ei fod wedi gwneud hynny ac yn parhau i dderbyn gwasanaeth gwael.

Dengys ein harolwg fod llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn teimlo bod y prosesau y mae banciau wedi’u rhoi ar waith i reoli’r rheoliadau hyn yn rhoi baich afresymol ar gyfrifon banc y sector gwirfoddol. Mae hyn yn gwneud bancio nid yn unig yn heriol, ond bron yn amhosibl i rai mudiadau.

CAMAU NESAF

Mae’n amlwg bod ymatebwyr ein harolwg yn teimlo wedi’u siomi gan wasanaethau bancio, a chaiff hyn ei rannu ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae CGGC wedi bod yn gweithio gyda chyrff aelodaeth elusennol mewn rhannau eraill o’r DU i godi’r materion gyda’r Comisiwn Elusennau a gyda chynrychiolwyr y banciau. Rydyn ni hefyd wedi ysgrifennu at HSBC a Chomisiynydd y Gymraeg.

Hoffem glywed gennych chi am y pethau a allai eich cynorthwyo chi i gael mynediad haws at wasanaethau bancio. Gwyddom y bydd bancio ar-lein yn debygol o gael ei ehangu yn y dyfodol, felly a fyddai cymorth i ennill sgiliau bancio digidol yn ddefnyddiol? Neu efallai yr hoffech chi weld y sector gwirfoddol yn ymgysylltu ag amrediad ehangach o fanciau?

Cysylltwch â policy@wcva.cymru i roi gwybod i ni beth fyddai’n eich helpu chi a’ch mudiad.