Yn ei hail flog o’r gyfres, mae Cindy Chen o Promo Cymru yn edrych ar sut mae pobl ifanc yn Singapore yn creu eu datrysiadau eu hunain a’r hyn y gallwn ni ei ddysgu o’u dull gweithredu nhw.
Fe euthum ar daith ddysgu i Singapore yn ddiweddar i edrych ar eu hymagweddau at ymgysylltu ag ieuenctid a gwaith ieuenctid, gyda chyllid gan Fwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.
Yn fy mlog cyntaf, siaradais am gysylltu â chanolfannau ieuenctid yn Singapore. Cefais hefyd gyfle i glywed yn uniongyrchol am sut mae pobl ifanc yn cael eu grymuso i greu eu datrysiadau eu hunain.
POBL IFANC YN AILWAMPIO’R RHEOLAU AR GYFER DIOGELWCH AR-LEIN
Tra bod gwasanaethau yn creu amgylcheddau ffisegol croesawgar i bobl ifanc, mae dwy fenter a arweinir gan bobl ifanc yn ymgyrchu’n galed i sicrhau mannau digidol diogel a chynhwysol i’w cymheiriaid.
Mae Project Get Flamed! Yn gynnyrch meddwl Muhammad Syazan Saad a Hannah Batrisyia, dau gefnogwr ieuenctid brwdfrydig sy’n ymrwymedig i wella iechyd meddwl a lles seiber ymhlith pobl ifanc.
Datblygodd y ddau Project Get Flamed! I fynd i’r afael â’r diwylliant gemio peryglus. Gyda’r is-bennawd ‘Creu mannau diogel, grymuso blaengarwyr’, mae’r fenter wedi cyrraedd dros 1,800 o bobl ifanc drwy raglenni ysgol, cynadleddau a digwyddiadau cyhoeddus.
Mae’r rhaglen, sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ifanc rhwng 17 a 25 oed yn cael ei chynnig am ddim i ysgolion.
Gan edrych ymlaen, mae Project Get Flamed! yn bwriadu ehangu ei gyrhaeddiad trwy lansio gweinydd Discord yn y flwyddyn i ddod, a fydd yn creu man digidol diogel i gemwyr ifanc gysylltu. ‘Rydyn ni’n aml yn gweld ymddygiad gwenwynig mewn gemau yn dod i mewn i’r byd go iawn. Rydyn ni eisiau creu man digidol lle gall pobl debyg chwarae gemau gyda’i gilydd,’ meddai Syazan.
YOUTHTECHSG

Menter arall debyg yw YouthTechSG, ymgyrch dechnoleg fwyaf Singapore a arweinir gan ieuenctid. Wedi’i sefydlu yn 2019, mae YouthTechSG yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i lywio’r byd digidol, gan fagu eu hyder technolegol a’u llythrennedd, a meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr digidol.
Ymhlith y gwirfoddolwyr ymroddgar sy’n hybu’r genhadaeth hon mae’r myfyrwyr cyfraith, Beatrice Tan a Zoe Toh. Mae eu heiriolaeth wedi cyrraedd platfformau cenedlaethol a hyd yn oed y llwyfan byd-eang, gyda Beatrice yn siarad mewn cyfarfod y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd. ‘Hoffem weld mwy o gorfforaethau a phobl broffesiynol yn ymddiried ynom fel pobl ifanc i wneud penderfyniadau a gwrando’n go iawn ar ein lleisiau,’ meddai Beatrice.
Rhannodd Zoe bwysigrwydd gwneud y rhyngrwyd yn fwy diogel a chyfartal, ‘Os ydyn ni’n defnyddio’r un mannau, dylen ni gael gwybod am yr un pethau.’ Mae eu gwaith nhw’n dangos sut mae pobl ifanc nid yn unig yn addasu i newid digidol, ond yn mynd ati i’w arwain.
CEFNOGAETH LYWODRAETHOL GREF DROS DDATBLYGU IEUENCTID
Nid pobl ifanc yn unig sy’n dadlau dros arferion digidol mwy diogel; mae llywodraeth Singapore yr un mor ymroddedig i’r achos pwysig hwn.
Yn 60fed Rali Dydd Cenedlaethol Singapore, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Lawrence Wong, ymdrechion parhaus y llywodraeth i reoleiddio mynediad plant at gyfryngau cymdeithasol, gyda’r nod o’u cadw’n ddiogel ar-lein a pharhau i ganiatáu iddynt fwynhau buddion adnoddau digidol. Mae’r cydbwysedd hwn o ddiogelu a grymuso yn adlewyrchu strategaeth ddigidol ystyriol.
Un peth a wnaeth fy nharo i yn Singapore oedd pa mor ddifrifol y mae’n buddsoddi mewn pobl ifanc. Dim cyllid yn unig mohono; mae’n gred clir fod pobl ifanc yn bwysig ac y dylid mynd ati’n weithredol i’w cynnwys wrth gynllunio eu dyfodol.

GWRANDO AR LEISIAU POBL IFANC SINGAPORE
Wrth sgwrsio â mi dros goffi yn ei swyddfa, eglurodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu ag Ieuenctid y Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol (NYC), Haslizah Ahmad, fod yr NYC wedi’i sefydlu gan lywodraeth Singapore ym 1989 fel yr asiantaeth genedlaethol benodol ar gyfer datblygu ac ymgysylltu â phobl ifanc. Mae’n gwneud gwaith ymchwil ac ymgynghoriadau rheolaidd â phobl ifanc ac yn eu cynnwys wrth lunio polisïau.
Y llynedd, fe drefnodd y Fforwm Polisi Ieuenctid cyntaf a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda trawiadol Marina Bay Sands. Daeth mwy na 1,000 o bobl ifanc i’r fforwm i wrando ar argymhellion polisi a gyflwynwyd gan eu cymheiriaid a chyfrannu at yr argymhellion hyn.
Eleni, un o brif flaenoriaethau’r NYC yw trefnu cyfres flwyddyn gyfan o ddigwyddiadau ymgysylltu er mwyn clywed lleisiau pobl ifanc Singapore a llunio argymhellion y gellir eu gweithredu yn y Cynllun Ieuenctid SG ar sut gellir eu cynorthwyo i fod y fersiynau gorau o’u hunain.
BETH ALLWN NI EI DDYSGU GAN SINGAPORE YMA YNG NGHYMRU?

Mae hon wedi bod yn daith mor addysgiadol i Singapore. Gwelais arweinwyr ifanc yn paratoi’r ffordd, yn hybu’r sgyrsiau ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i feddwl am ddatrysiadau go iawn. Gwelais wasanaethau ieuenctid yn cael cefnogaeth i wneud gwahaniaeth go iawn i’r rheini sydd ei angen mwyaf. Gwelais ymrwymiad a buddsoddiad gan y llywodraeth i gynnwys pobl ifanc wrth lunio polisïau. Gwelais bobl ifanc yn cael eu grymuso i fynegi eu hunain, magu hyder a datblygu sgiliau gwerthfawr.
Mae’r llywodraeth, grwpiau cymunedol a phobl ifanc ar draws pob lefel yn ymuno i wireddu eu gweledigaeth am y dyfodol. Mae’r gwersi gan Singapore yn ail-bwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn pobl ifanc fel partneriaid mewn newid.
Mae pethau gwych ar droed yma yng Nghymru hefyd. Ond gallwn wneud mwy trwy fuddsoddi mwy a’i gwneud hi’n beth arferol i bobl ifanc gael pŵer go iawn mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
RHAGOR O WYBODAETH
Mae ProMo Cymru yn arbenigo mewn gwaith ieuenctid, dylunio gwasanaethau a chyd-gynhyrchu. Rydyn ni’n canolbwyntio ar wella bywydau a phrofiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Os hoffech chi wybod sut gallwn ni eich helpu i wneud hyn, siaradwch â ni: cindy@promo.cymru.
Mwy am hyn: https://wcva.cymru/cy/views/edrych-ar-waith-ieuenctid-yn-singapore
