Hands of people drawing plans for a bike lane

Gwaddol Walter Dickie: helpu mentrau dielw i ffynnu

Cyhoeddwyd: 04/10/18 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Steve Brooks

Dyma’r bedwaredd ran a’r un olaf yn ein cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017 Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yma mae’n crynhoi’r hyn y mae wedi’i ddysgu diolch i’r bwrsari, a’r hyn a fu o gymorth iddo ar ei daith

‘Chi’n edrych yn brysur, dwi’n gweld eich bod yn recriwtio eto’.

Sylw dros ysgwydd oedd e’, a ddywedwyd wrtha’i fis diwetha’ gan gyfarwyddwr yn y diwydiant rheilffyrdd, ond fe arhosodd gyda mi. Roedd yn arwydd bod Sustrans yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

Fel y mwyafrif o elusennau, mae Sustrans wedi gorfod ailffocysu ac ailstrwythuro, i raddau helaeth oherwydd mesurau cyni. Roedd arian Ewropeaidd ac arian y loteri wedi galluogi Sustrans Cymru i ehangu cyfleusterau cerdded a beicio ledled Cymru dros sawl blwyddyn. Dwi’n falch o’n gwaith ar gynlluniau fel Pont y Ddraig yn y Rhyl, Pont y Werin rhwng Caerdydd a Phenarth, a Rhwydwaith Beicio’r Cymoedd. Roedd llawer o waith i’w wneud o hyd, ond fe wnaeth economi a oedd yn gwaethygu ac amgylchedd cyllido mwy heriol orfodi Sustrans Cymru i newid ei ffordd o weithio.

Ymunais â Sustrans Cymru fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol fis Hydref 2016. Roedd y mudiad wedi gorfod lleihau o ran maint, a thra’r oedd ein gweithrediadau yn dal i fod yn ariannol hyfyw ac o fudd cymdeithasol, roedd yna deimlad ymysg rhai fod ein dyddiau gorau y tu ôl i ni, nid o’n blaenau. Canolbwyntiais ar dair blaenoriaeth yn fy nghynllun ar gyfer fy 12 mis cyntaf:

  • Meddylfryd y mudiad – newid meddylfryd yr elusen o hiraeth i gyfleoedd
  • Codi ein proffil a’n dylanwad allanol
  • Twf

Mae pob un o’r tri yn gyd-ddibynnol, ond yn ganolog i fy syniad i o ‘arweinyddiaeth entrepreneuraidd’ – yr hyn y mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ceisio ei feithrin.

I mi, mae arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn ffordd o weithio yn gymaint ag y mae’n fath o unigolyn. Ei hanfod yw gweld angen am newid a meddwl am ffordd ymarferol o gyflawni’r newid hwnnw sy’n ariannol hyfyw ac (yn hanfodol i entrepreneuriaid cymdeithasol) yn rhoi buddion y tu hwnt i elw.

image

Fe wnes i ddau beth gyda’r bwrsari. Defnyddiais yr arian i gofrestru â rhaglen Heriau Byd-eang Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a threulio amser yn Nosbarth Meistr Copenhagenize Design Company. Rhoddodd hyn gyfle i mi edrych yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol ar sut y gallwn alluogi pobl i ddewis dulliau mwy cynaliadwy o deithio o A i B, a dwi wedi trafod y ddwy agwedd hyn yn fy mlogiau blaenorol.

Ond roedd y bwrsari hefyd yn gatalydd i wneud ychydig o waith allgyrsiol ar arweinyddiaeth. Dwi’n credu bod yr hen ystrydeb ‘mae’n bwysig treulio amser ar eich busnes yn ogystal ag yn eich busnes’ yn taro deuddeg, ac fe roddodd y bwrsari y cyfle i wneud hynny.

Cafodd tri llyfr ddylanwad ar fy ffordd o feddwl (dau ohonynt yn llyfrau yr oeddwn wedi’u darllen o’r blaen). Mae ‘You’re in Charge, now what’ gan Neff & Citrin yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol rhagorol ar arweinyddiaeth strategol; ac mae Alistair Campbell yn ‘Winners: And how they succeed’ yn dadansoddi strategaeth, arweinyddiaeth, tîmyddiaeth (teamship) a’r meddylfryd eich bod am ennill. Cyflwynodd cadeirydd WCVA Peter Davies fi i ‘How to Change the World, the essential guide for social sector leaders’ gan Craig Dearden-Phillips sy’n cynnwys cyfweliadau ag arweinwyr elusennau a mentrau cymdeithasol.

Roedd araith Laura McAllister yn CCB WCVA yn 2017 hefyd wedi taro tant clir â mi, yn enwedig pan alwodd ar i arweinwyr yng Nghymru fod yn llai swil. Ac fe rannodd Sue Essex, cyn-weinidog yn llywodraeth Rhodri Morgan, ei phrofiad treiddgar â mi mewn digwyddiad a gyflwynais yn gynharach eleni gyda Capital Law o’r enw ‘Heads Up’.

Mae sawl ffordd o dorri’r gacen hon, ond i mi hanfod hyn oll yw’r 11 wers ganlynol:

  1. Llunio gweledigaeth ac adrodd stori. Darluniwch weledigaeth o’r dyfodol. Diffiniwch y weledigaeth honno, sicrhewch mai chi sy’n berchen arni ac ailadroddwch hi, yn ddiddiwedd. Os nad ydych chi’n adrodd eich stori, bydd rhywun arall yn ei hadrodd, a fwy na thebyg nid dyna’r stori yr hoffech iddi gael ei hadrodd.
  2. Llunio uwchgynllun personol. Nid strategaeth eich mudiad yw hwn. Nid eich amcanion personol yw e’ hyd yn oed. Mae’n fynegiad o’ch agenda hirdymor chi. Yr hyn yr ydych chi am ei gyflawni yn eich rôl. Does neb yn dechrau swydd yn siarad am yr amser pan fyddant yn gadael, ond amser cyfyngedig sydd gan arweinwyr. Dylech werthfawrogi faint o amser sydd gennych, gwybod yr hyn yr ydych am ei wneud, a phryd y mae’r gwaith ar ben ac yn amser trosglwyddo i rywun arall.
  3. Byw’ch steil o arwain. Ni fyddai elusen dibyniaeth ar alcohol yn cynnal derbyniad diodydd mewn cynhadledd wleidyddol i drafod gosod isafswm pris ar alcohol, gan ei fod yn amlwg yn tanseilio ei chenhadaeth. Dylai’ch ymddygiad fel arweinydd fod yn gyson â’ch uwchgynllun personol. Eisiau arwain elusen sy’n rhoi’r egwyddor o gynnwys buddiolwyr wrth wraidd ei gwaith? Peidiwch â bod yn unben â drws eich swyddfa ynghau. Nid hanfod arweinyddiaeth go iawn yw bod yn chi’ch hun, heb ystyried neb arall. Ei hanfon yw bod y chi y mae pobl eraill o’ch cwmpas angen i chi fod. Byddwch yn barod i newid a gweithio y tu allan i’ch cynefin, gan arwain drwy esiampl.
  4. Creu lle i feddwl. Nid peth moethus yw hyn – mae’n hanfodol. Dyw’r arweinydd elusen sy’n ymffrostio wrth gwyno ‘Dwi’n rhy brysur’ ddim yn gwneud ei waith yn iawn. Eich cyfrifoldeb chi yw gweld safbwyntiau eraill, siarad â’ch buddiolwyr, gofyn cwestiynau, herio rhagdybiaethau, cwestiynu tystiolaeth, deall eich cyllidwyr, meddwl am y dyfodol. Gall byrddau cynghori ac ymddiriedolwyr eich cefnogi a’ch herio – ond dyw hynny ddim yn disodli creu’ch lle eich hun i feddwl.
  5. Gwahodd her – gwers gan Rhodri Morgan. Dylech fynd ati i annog y rheini o’ch cwmpas i’ch herio. Roedd y cyn-brif weinidog yn chwilio’n benodol am bobl a fyddai’n ei herio, yn ei wrthwynebu, yn dadlau ag ef. Mae’n ehangu’ch meddwl ac yn miniogi’ch dadl. Cofiwch ei bod yn bosib na chafodd staff eu hannog i wneud hyn o’r blaen, felly cefnogwch bobl i’ch herio.
  6. Cydweithio. Ond cydweithiwch yn dda. Dyw paned a chlonc ag elusen arall y mae ei chenhadaeth yn gorgyffwrdd yn fras ag un chi ddim yn cyfrif fel cydweithio. Cymerwch yr awenau a dod o hyd i bobl yr hoffech gydweithio â nhw. Ar ôl diffinio’ch gweledigaeth, gofynnwch i chi’ch hun pwy rydych ei angen i’ch helpu i’w gwireddu? Pwy sy’n rhannu’ch gweledigaeth? Dewch o hyd iddyn nhw, gweithiwch gyda nhw, ond parchwch nhw – peidiwch â’u defnyddio. Dylech dal brynu paned iddyn nhw.
  7. Adeiladu’ch tîm a thrin pobl â pharch. Peidiwch ag ymhel mewn mân-ryfela, na gwleidyddiaeth swyddfa. Peidiwch â gwneud pethau’n bersonol. Dylech feithrin eich tîm a’r bobl yr hoffech weithio gyda nhw. Datblygwch nhw. Cefnogwch nhw. Treuliwch amser gyda nhw. Rhaid cydnabod eich bod angen pobl ddawnus a chefnogaeth gan y rheini yr ydych yn eu harwain. Ond cofiwch mai’ch cyfrifoldeb chi yw delio gyda phobl na all wneud y gwaith neu sy’n gwrthod gwneud y gwaith. Derbyniwch hynny – dyna pam rydym ar gyflog uwch.
  8. Darllen. A darllen mwy. Ac yna darllen mwy fyth. Mae llyfr nodiadau yn llawn syniadau yn well na mewnflwch sydd wedi’i wagio o bob ebost. Yn Oxfam, roedd y cyfarwyddwyr gweithredol yn cael wythnos astudio gyda’i gilydd bob blwyddyn. Mae angen deall y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae angen i chi ei wybod, a’r hyn nad oes angen i chi ei wybod. Ni ellir ennill gwybodaeth a dod yn wybodus drwy dorri corneli.
  9. Deall eich cyd-destun. Meddyliwch am eich amgylchedd gweithredu allanol. Meddyliwch am fygythiadau a chyfleoedd. Dadansoddwch. Ni allwch ddarogan dyfodol eich mudiad, ond gallwch gynllunio ato.
  10. Peidio byth â chymryd dim byd yn ganiataol. Os oes gan eich elusen genhadaeth yn seiliedig ar eiriolaeth neu ymgyrch, peidiwch byth â chymryd yn ganiataol eich bod wedi ennill. Atgyfnerthwch eich safle yn gyson ac, ar yr un pryd, gwthiwch yr agenda ymhellach ymlaen. Cadarnhau’r hyn yr ydych eisoes wedi’i gyflawni yn ogystal â gwneud cynnydd pellach.
  11. Peidio byth ag anwybyddu’r manylion. Treuliwch amser ar y lefel gywir (gweledigaeth, strategaeth, tîm, proffil, arloesedd) a pheidiwch â chael eich sugno i mewn i’r mân bethau. Ond peidiwch byth bythoedd ag esgeuluso cydymffurfiaeth a’r gwaith beunyddiol allweddol. Y pethau bach a aiff o chwith y mae pobl yn sylwi arnynt ac a all eich brathu. Os arweinydd ydych chi ac nid rheolwr, sicrhewch fod gennych reolwyr da o’ch cwmpas.