Mae Maggie Smith, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Gwirfoddolwyr CGGC yn rhannu ei myfyrdodau ar ein sesiwn yn gofod3 ar Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru.
Ar 5 Mehefin 2024, cefais y fraint o gynnal dwy sesiwn effaith yn gofod3, y digwyddiad blynyddol sy’n dwyn y sector gwirfoddol ynghyd o bob cwr o Gymru.
Roedd y sesiynau hyn yn rhan o gynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG), a’u nod oedd grymuso mudiadau sy’n gysylltiedig â gwirfoddolwyr drwy ganolbwyntio ar gyd-gynhyrchu a gweithio mewn partneriaeth.
BETH YW GRANT STRATEGOL?
Cyn edrych ar y mewnwelediadau, gadewch i ni egluro beth yw grant strategol. Yn wahanol i’ch grant cyllido arferol, nid yw’r VWSG yn cyllido prosiectau unigol nac adeiladau ffisegol. Yn hytrach, mae’n cynorthwyo mudiadau i ymchwilio i syniadau a ffyrdd o weithio newydd, i edrych arnyn nhw ac i arbrofi â nhw.
Mae’n ymwneud â dod o hyd i ddulliau gweithredu newydd neu well sy’n datgloi potensial hirdymor ar lefel strategol ac yn ymwreiddio arferion gorau mewn gwirfoddoli. Mae hefyd yn ymwneud â rhannu’r hyn a ddysgir gyda mudiadau eraill yng Nghymru sy’n cynnwys gwirfoddolwyr fel y gall pob un ohonom ni elwa ar feddwl am wirfoddoli mewn modd mwy strategol.
CYDGYNHYRCHU: MEITHRIN CYDBERTHNASAU AC ADBORTH YSTYRLON
Yn y sesiwn ar gyd-gynhyrchu, clywsom gan fudiadau fel Ymddiriedolaeth St Giles, Foothold Cymru ac *Innovate Trust. Dyma’r prif bethau a ddaeth o’r sesiwn:
- Meithrin cydberthnasau: Mae cyd-gynhyrchu yn ymwneud ag adeiladu cydberthnasau cryf a magu hyder cyfranogwyr. Pan fydd pobl yn teimlo bod eu lleisiau yn cael eu clywed, byddant yn mynd ati i gymryd rhan.
- Hyblygrwydd: Mae hyblygrwydd yn hanfodol. Mae angen i ni addasu dulliau ymgysylltu fel y bo’n addas i anghenion unigolion. Bydd rhoi hyfforddiant cychwynnol a bod yn agored i ddulliau gwahanol yn sicrhau llwyddiant.
- Adborth ystyrlon: Mae cyd-gynhyrchu yn arwain at adborth ac adnoddau mwy ystyrlon. Trwy gynnwys cyfranogwyr yn uniongyrchol, rydym yn creu systemau cymorth gwell.
- Dysgu gan bobl: Mae mudiadau yn elwa’n fawr ar ddysgu’n uniongyrchol gan y bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae hyn yn hysbysu newidiadau i bolisïau ac yn gwella ein ffyrdd o weithio.
- Cynnal ymgysylltiad: Er y gall cynnal yr ymgysylltiad dros amser fod yn heriol, bydd yn arwain at ganlyniadau ystyrlon yn y pen draw.
GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH: CRYFDER MEWN CYDWEITHIO
Roedd y sesiwn gweithio mewn partneriaeth yn cynnwys Cymdeithas Eryri, Sported Ltd a Rhwydwaith Gweithredu ar yr Hinsawdd Rhondda Cynon Taf (RCTCAN). Dyma beth y gwnaethom ni ei ddysgu:
- Gwella cryfder sefydliadol: Mae partneriaethau yn cryfhau mudiadau drwy gyflwyno arbenigwyr a hwyluso ymdrechion i rannu gwybodaeth. Gyda’n gilydd, rydym ni’n cyflawni mwy.
- Rhwydweithiau dylanwadol: Mae creu rhwydweithiau dylanwadol yn fudd allweddol. Mae mynd ati’n gyson i wella ein ffyrdd o weithio yn sicrhau canlyniadau positif.
- Rhannu dysgu: Rydym yn defnyddio dysgu a rennir i wella’n gyson. Mae dysgu o brofiadau ein gilydd yn amhrisiadwy.
- Heriau: Oes, mae yna heriau – gall trefnu cyfarfodydd gymryd llawer o amser, ac mae’n hanfodol bod disgwyliadau rôl eglur. Ond mae’r buddion yn drech na’r rhwystrau.
MEWNWELEDIADAU CYLLIDO
- Hyblygrwydd: Mae’r VWSG yn wahanol am ei fod yn blaenoriaethu hyblygrwydd dros flychau ticio. Mae’n annog arloesedd ac arbrofi.
- Cyfleoedd cyllido peilot: Byddai cyfleoedd cyllido peilot yn help mawr i fudiadau ddatblygu cynigion cryfach. Gadewch i ni edrych ar syniadau newydd cyn ymrwymo i gyllido prosiectau llawn.
- Cydnabod buddsoddiad: Mae angen i ni gydnabod y buddsoddiad sydd ei angen – mewn amser ac adnoddau – ar gyfer prosiectau sy’n seiliedig ar gyd-gynhyrchu a gweithio mewn partneriaeth.
RHANNU GWYBODAETH LEDLED CYMRU
Nid yw’r mewnwelediadau hyn ar gyfer y mudiadau a oedd yn Gofod3 yn unig. Rydym ni’n mynd ati i rannu’r wybodaeth hon ledled Cymru. Wrth i ni flaenoriaethu meysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol, addysg ac ieuenctid, yr amgylchedd, chwaraeon, y celfyddydau a chymunedau Cymraeg eu hiaith, rydym yn buddsoddi mewn ffyrdd newydd o weithio gyda gwirfoddolwyr.
Am werthusiadau, adroddiadau ac adnoddau ychwanegol, ewch i adran Adnoddau ein Hwb Gwybodaeth, ein platfform dysgu yn Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ac os hoffech ymuno â’n rhestr bostio, anfonwch e-bost ataf yn msmith@wcva.org.uk.
Dewch i ni barhau i adeiladu sector gwirfoddol cryfach a mwy cydweithredol yng Nghymru!
RHAGOR AR HYN
Gellir dysgu llawer gan y rheini sydd wedi derbyn ac wedi bod yn arwain prosiectau arloesol sy’n edrych ar wirfoddoli yn yr hirdymor a sut gallwn ni ddatgloi’r potensial hwn:
- Pobl ifanc yn arwain y ffordd – Foothold Cymru
- Gwirfoddoli ar draws partneriaid – dysgu gan Caru Eryri
Adnoddau o brosiectau’r VWSG:
- Pecyn Cymorth Cynllun Gwirfoddoli Cyflogeion Foothold
- Gwirfoddoli Ieuenctid: Pecyn cymorth i’r trydydd sector
- Volunteens: Be Heard. Be Helpful – Adnodd athrawon
- Fframwaith Gwirfoddoli yn Gymraeg
- Adroddiad Prosiect Gwasanaethau Gwirfoddolwyr Integredig
- Cymdeithas Eryri – Crynodeb Gweithredol Caru Eryri
- Gwerthusiad Ymchwilwyr Insight Innovate Trust
- Cefnogi gwirfoddolwyr â phrofiad bywyd – Ymddiriedolaeth St Giles
*Saesneg yn unig