Sawl llaw ar ben ei gilydd

Grym cymunedol yw’r cam cyntaf tuag at ailgodi’n gryfach

Cyhoeddwyd: 21/01/22 | Categorïau: Gwirfoddoli,Hyfforddiant a digwyddiadau, Awdur: New Local

Cyn ein digwyddiadau ‘Dulliau Grym y Gymuned yn ystod y pandemig’ gyda’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar y mis Ionawr hwn, mae New Local yn sgwrsio am y ffordd y gall cymunedau arwain yr adferiad ar ôl y pandemig.   

Roedd 2020 yn flwyddyn anodd dros ben. Dyma’r flwyddyn hefyd a dynnodd sylw at rym ac effaith anhygoel gweithredu o dan arweiniad y gymuned. Ers hynny, mae nifer cynyddol o gynghorau lleol wedi ceisio cynnwys cymunedau yn fwy uniongyrchol yn y gwaith o ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau cyhoeddus.

Rhaid i rym cymunedol fod yn sylfaen i ‘ailgodi’n well’ ar ôl pandemig COVID-19.

Y GYMUNED YN UN

Rydyn ni wedi gweld gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau yn dod at ei gilydd o’r blaen i helpu pobl yn ystod llifogydd difrifol neu eira trwm, ond erioed mewn modd mor eang a welwyd ym mis Mawrth 2020.

Pan ddaeth y cyhoeddiad am y cyfnod clo cyntaf yn ystod COVID-19, daeth cymunedau ledled gwledydd Prydain i’r adwy i ateb apeliadau am wirfoddolwyr gan y trydydd sector neu drefnu eu hunain yn grwpiau cyd-gymorth anffurfiol. Roedden nhw’n ymweld â’u cymdogion, yn sefydlu hybiau cymunedol, yn dosbarthu eitemau hanfodol at ddrysau pobl fregus a chartrefi oedd yn hunan-ynysu, ac yn gyfrifol am lawer o weithredoedd caredig a oedd yn gwneud y cyfnod heriol iawn yn haws i bobl ddygymod ag e.

Y cynghorau a ymatebodd yn fwyaf effeithiol i gyfnod clo gwanwyn 2020 oedd y rhai a alluogodd ac a gefnogodd gweithgareddau grwpiau cymunedol. Fe wnaethon nhw roi’r gorau i ffurf ynysig a biwrocrataidd o feddwl, rhoi cyllid i grwpiau cymunedol yn gyflym, a gweithio mewn partneriaeth wirioneddol â mudiadau a chymunedau lleol i gyfuno adnoddau, sgiliau a rhwydweithiau i dargedu cymorth at y bobl oedd fwyaf anghenus.

O’R ‘NORMAL NEWYDD’ I’R NORMAL ARFEROL

Os neidiwn ni ymlaen i 2022 – ac er bod y rhaglen frechu yn ein galluogi i fynd yn ôl i ryw fath o ‘normalrwydd’ cyn-bandemig – mae nifer cynyddol o gynghorau yn dewis gwrthod mynd yn ôl i weithio yn y ffordd roedden nhw’n arfer gwneud.

Yn hytrach, ar ôl myfyrio ar yr hyn weithiodd yn ystod y cyfnod clo cyntaf, maen nhw bellach yn ymgorffori dulliau o weithio sy’n fwy cynhwysol a chydweithredol ac sy’n cael eu harwain gan y gymuned. Roedd rhai cynghorau, fel Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Swydd Essex a Chyngor Wigan, wedi dechrau gweithio’n agos gyda chymunedau cyn 2020, ac maen nhw wedi parhau i ddatblygu’r perthnasoedd hynny.

Mae cyrff eraill, fel Bwrdeistref Newham yn Llundain, Cyngor Dinas Sheffield a mudiad One Stockport, wedi dweud mai’r pandemig oedd y grym y tu ôl i fentrau newydd cyfranogol ac sy’n seiliedig ar ddeialog.

Fodd bynnag, mae ardaloedd sylweddol ledled Prydain lle nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio â chymunedau yn dal i fod. Er enghraifft, yn ystod y cyfnod clo cyntaf, gwelodd rhai grwpiau cyd-gymorth eu hymdrechion i ymateb i’r pandemig yn cael eu cwtogi gan ddifaterwch neu dueddiadau eu cyngor lleol i or-reoli.

Mae’r profiad yma’n tanlinellu bod gan gyrff cyhoeddus lleol rôl ‘er gwell neu er gwaeth’ i’w chwarae yn achos grym cymunedol. Boed yn fwriadol neu’n anfwriadol, gall eu gweithredoedd ddifetha ysbryd a phenderfynoldeb cymunedau cymaint â’u meithrin.

EDRYCH Y TU HWNT I’R TYMOR BYR

Pam mae hyn o bwys? Mae gwir rym gweithredu o dan arweiniad y gymuned yn cael ei danwerthfawrogi’n fawr os yw’n cael ei ystyried fel ymateb brys, tymor byr, yn unig. Mae cymunedau yn deall eu hardaloedd lleol yn well nag unrhyw wasanaeth cyhoeddus neu frys ac yn gwybod yn reddfol beth sydd angen ei wneud, ar bwy mae angen cymorth a pha ddulliau fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl a llefydd.

Mae tystiolaeth a gasglwyd gan New Local yn dangos bod grym cymunedol yn gallu cynnig dulliau atal ac ymyrraeth gynnar i wasanaethau cyhoeddus, gwella iechyd a llesiant unigolion, a meithrin cydlyniant a gwytnwch mewn cymunedau.

Gweithredu o dan arweiniad y gymuned oedd i gyfri am yr ymatebion lleol mwyaf effeithiol i gyfnod clo cyntaf COVID-19. Er mwyn ‘ailgodi’n well’ ar ôl y pandemig, mae’n rhaid i ni ddechrau drwy osod grym cymunedol yn sylfaen i hynny. Mae New Local wedi amlinellu awgrymiadau ymarferol i gynghorau i’w helpu i ddechrau ‘gweddnewid â grym cymunedol’. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Newid diwylliant sefydliadol.
  • Cynnwys cyfranogiad cymunedol wrth wneud penderfyniadau (strategol) macro.
  • Gweddnewid y broses o wneud penderfyniadau micro.
  • Trosglwyddo arian ac asedau.
  • Llywodraethu cymunedol.

Gyda’r newidiadau hyn ar waith, byddai cynghorau – a chyrff cyhoeddus a chyrff trydydd sector eraill – yn cymryd cam sylweddol ymlaen i sicrhau bod grym cymunedol yn cynnig manteision i bobl a llefydd am oes, nid dim ond yn ystod argyfwng.

DULLIAU GRYM Y GYMUNED YN YSTOD Y PANDEMIG

Os hoffech chi archwilio ymhellach sut mae cymunedau wedi dod ynghyd gyda’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn ystod y pandemig, mae’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar ‘Ddulliau Grym y Gymuned yn ystod y pandemig’ yn ystod mis Ionawr 2022.

Cynhelir y digwyddiad agoriadol ar 24 Ionawr 2022 (10.30am-12pm), lle bydd y siaradwyr canlynol yn trafod eu profiadau o weithio ar draws sectorau ac yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.