Mae Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru gan CGGC wedi galluogi Innovate Trust i lansio platfform gwirfoddoli digidol hygyrch newydd ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Dyma Zoe Mouti o Innovate i ddweud mwy wrthym ni.
Yn *Innovate Trust, rydyn ni’n ymdrin â gofal mewn modd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydyn ni’n ceisio cael unigolion i fyw mor annibynnol â phosibl drwy gynnig amrediad eang o ofal, gwasanaethau cymorth a gweithgareddau. Mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn ymwneud â chynorthwyo a pharchu penderfyniadau’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
LANSIO’R HYB GWIRFODDOLI
Gwefan yw’r Hyb Gwirfoddoli a fydd yn lansio ar ddiwedd mis Medi. Mae wedi’i hanelu at oedolion ag anableddau dysgu i’w cynorthwyo i ddarganfod gwirfoddoli mewn modd hygyrch. Bydd yn rhan o ap *Insight Innovate a bydd ganddo ei gyfeiriad gwe ei hun.
Mae prosiect yr Hyb Gwirfoddoli wedi’i hyrwyddo’n eang i sicrhau bod amrywiaeth o wirfoddolwyr ag anableddau dysgu yn gallu cymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu cynnwys ar ei gyfer.
CREU GYDA GWIRFODDOLWYR
Mae’n amlwg bod gwneud cyd-gynhyrchu cynnwys ar gyfer y wefan yn rôl wirfoddoli, a elwir yn Wirfoddolwyr Creu, wedi cael effaith bositif aruthrol ar yr unigolion sydd ynghlwm â’r rôl.
Maen nhw wedi cael y cyfle i gael eu cynnwys mewn darn newydd, arloesol o waith, i ymarfer lliaws o sgiliau a chael profiad mewn pynciau na fyddent fel arall wedi cael cyfle i ddysgu amdanyn nhw.
YMDEIMLAD NEWYDD O DDIBEN I SCOTT
Dyn ag anabledd dysgu yw Scott yr oeddem yn ei adnabod o brosiect cadwraeth gwirfoddol â chymorth a oedd yn anffodus wedi dod i ben. Roedd Scott yn cael trafferth ymdopi â’r newid hwn. Fodd bynnag, ers i’r prosiect hwn ddechrau, mae wedi mynd ati’n anhygoel o dda i gymryd rhan ac wedi darganfod ymdeimlad newydd o ddiben.
Yn wir, roedd Scott yn gwneud mor dda gyda’r Hyb fel ein bod wedi gofyn iddo ymuno â ni ar ein stondin yn gofod3! Teimlai’n ddigon hyderus i dderbyn yr her hon a bu’n ffantastig ar y diwrnod. Gweithiodd yn dda gyda gwirfoddolwyr eraill a staff a rhoddodd rai atebion rhagorol i gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd.
OWEN YN SYMUD ALLAN O’I FAN CYSURUS
Mae Owen yn gyfranogwr arall sydd wedi datblygu’n fawr yn ystod y broses hon, gan ddysgu i symud allan o’i fan cysurus yn ein sesiynau Creu misol.
Mewn un sesiwn, roeddem ni eisiau pennu’r ffordd orau o wneud cais am gyfleoedd gwirfoddoli drwy’r Hyb, a oedd yn cynnwys treialu negeseuon e-bost a galwadau ffôn. Gwirfoddolodd Owen i ddefnyddio’r ffôn i ffonio cydweithiwr a ffugio gofyn am rôl wirfoddoli (ymarferiad chwarae rôl). Roedd hwn yn gam enfawr iddo ef oherwydd nid yw’n gwneud galwadau ffôn yn annibynnol.
Mae Owen wedi dangos llawer o hyblygrwydd drwy gymryd rhan yn y tasgau amrywiol hyn. Mae rôl y Gwirfoddolwr Creu wedi profi i fod yn hygyrch i unigolion fel Owen ac wedi cael effaith fawr ar wella eu sgiliau.
LLAWN NODWEDDION
Yn dilyn mewnbwn gan y Gwirfoddolwyr Creu, mae gan yr Hyb Gwirfoddoli nifer o nodweddion fel:
- Gwybodaeth hygyrch am beth mae gwirfoddoli yn ei olygu fel bod gan oedolion ag anableddau dysgu fwy o ddealltwriaeth o beth yw gwirfoddoli a beth a ddisgwylir oddi wrthyn nhw.
- Gwybodaeth hygyrch am pam mae gwirfoddoli’n dda a sut i fod y gwirfoddolwr gorau. Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd gan ein gwirfoddolwyr ag anableddau dysgu a greodd yr ap ddiddordeb mawr ynddo.
- Storïau gwirfoddoli a rennir gan oedolion ag anableddau dysgu i ysbrydoli ac ysgogi pobl eraill i roi cynnig ar gyfleoedd newydd.
- Cyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon sy’n addas i oedolion ag anableddau dysgu.
Gellir defnyddio’r wefan ochr yn ochr â Gwirfoddoli Cymru i sicrhau bod unigolion yn defnyddio’r platfform sy’n iawn iddyn nhw, gan helpu pawb i ymhél yn fwy â gwirfoddoli.
DATBLYGU STRATEGAETH
Rydyn ni hefyd wedi cwrdd â chyfoeth o fudiadau i hyrwyddo’r Hyb a chasglu syniadau yn barod ar gyfer creu adnoddau newydd.
Rydyn ni wedi cael ymateb positif ganddyn nhw, ac mae llawer wedi rhannu’r rhwystrau y maen nhw wedi’u hwynebu wrth ymhél ag oedolion ag anableddau dysgu. Rydyn ni’n gweithio nawr ar sut gallwn ni oresgyn y rhain gyda’n hadnoddau ni.
Zoe Mouti yw’r Rheolwr Prosiect Sgiliau a Lles yn Innovate Trust.
Os hoffech ganfod mwy am brosiect yr Hyb Gwirfoddoli, cysylltwch â Libby Ball yn Innovate Trust ar libby.ball@innovate-trust.org.uk
RHAGOR AM GRANTIAU STRATEGOL GWIRFODDOLI CYMRU
Wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru, mae Cynllun Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru wedi bod yn cefnogi prosiectau arloesol sy’n edrych ar wirfoddoli yn yr hirdymor a sut gallwn ni ddatgloi ei botensial.
Mae’r rheini sydd wedi derbyn grant wedi dangos sut gall meddwl yn strategol am wirfoddoli fod yn anferthol o fuddiol i gyflawni nodau eich mudiad. Dyma rai adnoddau sydd wedi’u cynhyrchu:
- Pecyn Cymorth Foothold: Cynllun Gwirfoddoli Cyflogeion
- Gwirfoddoli Ieuenctid: Pecyn Cymorth ar gyfer y Trydydd Sector
- Volunteens: Be Heard. Be Helpful.
- Fframwaith Gwirfoddoli yn Gymraeg
- Adroddiad Prosiect Gwasanaethau Gwirfoddoli Integredig
*Saesneg yn unig