I aelodau CGGC, aiff Ifeoluwa Ishola o Gyngor Hil Cymru y tu ôl i’r llenni ar eu rhaglen ddogfen ddiweddar ar Windrush.
Helo ‘na! Ifeoluwa Ishola ydw i, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu yng Nghyngor Hil Cymru, ac rwyf wrth fy modd i rannu’r newyddion ar ein rhaglen ddogfen epig sydd newydd ei lansio, Windrush Cymru @75.
Tybed beth mae’r rhaglen ddogfen amdano meddech chi? Syml – rhannu’r storïau nas adroddwyd am y Genhedlaeth Windrush a’r Gwladolion o’r Gymanwlad a gyrhaeddodd y DU ar long yr HMT Empire ym 1948 i ‘achub y famwlad’ fel yr erfyniodd arweinwyr arnynt i’w wneud bryd hynny dros y radio ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Nawr dychmygwch hyn: llwyth o eneidiau brwdfrydig yn docio yn Tilbury ac yn cael llaw oer hiliaeth a chasineb wedi’u hestyn iddynt yn lle’r addewid o groeso cynnes. Ond wyddoch chi beth? Fe wnaethant wynebu’r sefyllfa’n benderfynol a chael eu hadnabod fel y Genhedlaeth Windrush enwog, a gwnaeth y rhaglen ddogfen hon gipio’r ffeithiau ar eu dewrder a’u gras.
DIWRNOD Y PREMIERE
Camwch ymlaen i 7 Hydref 2023, ac ar ôl yr holl waith caled yn ymweld â chartrefi’r Hynafiaid Windrush a’r Gwladolion o’r Gymanwlad dewr hyn i ffilmio, sbrintiau di-ri i’r platfform fel na fydden ni’n colli’r trên, galwadau dirifedi i sicrhau ein bod wedi cael y cyfeiriadau cywir, a Will (Ein Cyfarwyddwr) wrthi am fisoedd yn tynnu’r holl glipiau hyn ynghyd, roedd y cymyn-ddarn yn barod i’w ddangos am y tro cyntaf.
Rwy’n cofio deffro’r bore hwnnw gyda chrychguriadau sydyn yn fy nghalon a’m dwylo’n chwys stêcs am fy mod ar bigau’r drain eisiau i’r holl fyd weld y campwaith hwn a’n gyrrodd ni i mewn i fyd hanes a theimlo cymaint o gysylltiad iddo ag y teimlais pan oeddwn i’n clymu’r storïau hyn ynghyd a wyddoch chi beth? Roedd y neuadd dan ei sang! Beth? Roeddwn i wrth fy modd bod cymaint wedi dod.
GWNAETHANT CHWERTHIN A CHRIO
Roedd hi’n syfrdanol gweld pobl yn cysylltu â phob arlliw o emosiwn, o’r chwerthin i’r dagrau, ac yn cadw cilchwerthiniadau yn ôl wrth iddyn nhw wylio’r eneidiau dewr hyn yn siarad o’u calonnau, gan gynnwys y polisïau mewnfudo creulon a wnaeth lanastr o bopeth a sut mae pobl yn galw ar yr anghyfiawnderau hyn i gael eu datrys. Maen nhw’n harllwys eu te eu hunain ar yr heriau, y buddugoliaethau a phopeth yn y canol. *Gwyliwch y rhaglun a chael cipolwg ar y cymyn-rodd a grewyd.
A dyma’r darn gorau – gallwch chi binj-wylio’r holl raglen ddogfen am ddim! *Gofynnwch amdano ar ein gwefan.
DIOLCHIADAU
Diolch o galon i Hynafiaid Windrush, y Gweinidog Jane Hutt, y Prif Weinidog Mark Drakeford, Coed Cadw, Y Gymdeithas Heddlu Duon, a phawb a’n cefnogodd ni i greu’r rhaglen ddogfen epig hon a deffro’r hud i gofio 75 mlynedd ers y Genhedlaeth Windrush.
Yn fyr, mae Windrush Cymru @75 yn fwy na rhaglen ddogfen; mae’n llythyr serch i genhedlaeth a gymerodd y cyfrifoldeb am eu taith eu hunain gyda gwydnwch a dewrder. Diolch o waelod calon i’r Genhedlaeth Windrush a’r Gwadolion o’r Gymanwlad am ychwanegu egni at bob rhan o hanes Cymru.
*Darllenwch eu storïau a byddwch chi’n deall pam fy mod yn llawn balchder Windrush!
CYMRYD RHAN
Gall aelodau eraill o CGGC gymryd rhan yn ein gwaith drwy drefnu dangosiad o’r rhaglen ddogfen – *cysylltwch â ni os oes diddordeb gennych chi mewn gwneud hynny – neu i gael rhagor o wybodaeth am waith Cyngor Hil Cymru yn *racecouncilcymru.org.uk.
*Saesneg yn unig
