Grŵp o bobl amrywiol yn eistedd o amgylch desgiau mewn swyddfa

gofod3 – ystyriaethau gan Darwin Gray

Cyhoeddwyd: 22/06/21 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Awdur: Darwin Gray

Wrth i gofod3 agosáu, mae un o’n noddwyr, Darwin Gray, yn rhoi trosolwg i ni o sut bydd eu sesiynau yn helpu mudiadau gwirfoddol i addasu i’r gweithle ôl-Covid.

Mae pandemig Covid-19 wedi achosi’r aflonyddwch mwyaf arwyddocaol i’r gweithle mewn cenedlaethau. O weithio’n hyblyg i’r cynllun ffyrlo, mae cymaint o newidiadau pellgyrhaeddol wedi digwydd sy’n parhau i gael effaith heddiw. Mae ein harbenigwyr Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol yn deall yr her o ddilyn ac addasu i’r newidiadau hyn ac wedi bod yn ymroddedig i gyflwyno sesiynau hyfforddi ar y materion hyn i aelodau CGGC drwy gydol y pandemig.

Rydym yn falch iawn o fod yn cymryd rhan yn gofod3 eleni, ac yn cyflwyno pedair sesiwn hyfforddi sydd wedi’u dylunio i roi gwybodaeth a sgiliau angenrheidiol pellach i’r rheini sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol a fydd yn eu helpu i lywio’r gweithle yn sgil yr heriau a gyflwynwyd gan Covid-19.

DIWEDDARIAD ADNODDAU DYNOL CYFFREDINOL AR GYFER 2021

Wrth i’r rhaglen frechu barhau i gael ei chyflwyno a ninnau’n agosáu’n araf deg at fywyd normal, bydd llawer o bobl yn poeni am sut bydd y gweithle ôl-Covid yn gweithio. Bydd y cipolwg hwn ar y diweddariadau adnoddau dynol diweddaraf yn rhoi gwybodaeth am faterion allweddol fel profi am y feirws, brechu cyflogeion a’r rheolau o ran gwyliau blynyddol a chyflogeion yn teithio dramor.

Bydd hefyd yn ystyried effeithiau hirdymor posibl pandemig Covid-19, gan gynnwys y cynnydd mewn ceisiadau i weithio’n hyblyg ac ystwyth a sut gellir rhoi’r arferion hyn ar waith yn effeithiol.

DIOGELU IECHYD MEDDWL GWEITHWYR YN Y GWEITHLE

Mae’n bwysicach nag erioed bod cyflogwyr yn blaenoriaethu iechyd meddwl eu gweithlu. Wedi addasu i weithio gartref dros y cyfnod clo, bydd y syniad o ddychwelyd i’r swyddfa yn codi braw ar lawer o gyflogeion, sy’n gwbl naturiol.

Yn ystod ein sesiwn hyfforddi ar ddiogelu iechyd meddwl gweithwyr, bydd ein tîm yn edrych ar bwysigrwydd cynnal iechyd meddwl da ymhlith eich gweithwyr, yn ogystal â’r goblygiadau cyfreithiol o fethu â gwneud hynny.

Bydd hefyd yn rhoi awgrymiadau ymarferol ar sut i adnabod yr arwyddion o iechyd meddwl gwael ymhlith staff sy’n gweithio o bell neu ar absenoldeb ffyrlo a sut i gefnogi staff â’u hiechyd meddwl yn ystod y pandemig a thu hwnt.

BWLIO AC AFLONYDDU YN Y GWITHLE – PETHAU I’W GWNEUD A PHEIDIO Â’U GWNEUD

Yn sgil y cynnydd sylweddol mewn hawliadau gwahaniaethu yn ystod y pandemig, byddwn hefyd yn cyflwyno cwrs hyfforddi ar fwlio ac aflonyddu yn y gweithle.

Bydd hwn yn rhoi cipolwg ar yr egwyddorion cyfreithiol y mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle yn seiliedig arnynt ac yn dangos sut i nodi a rheoli bwlio ac aflonyddu’n effeithiol.

Trwy gyfeirio at enghreifftiau go iawn, bydd hefyd yn galluogi cyfranogwyr i ddeall sut mae’r egwyddorion cyfreithiol hynny’n cael eu rhoi ar waith ac yn rhoi’r wybodaeth iddynt i’w galluogi i gyfrannu at ddiwylliant gwaith nad yw’n gwahaniaethu.

LLYWODRAETHU DA – BETH MAE’N EI OLYGU A SUT I’W GYFLAWNI

Yn ogystal â’r sesiynau hyfforddi hyn, byddwn yn darparu sesiwn ar lywodraethu effeithiol yn y sector elusennol a sut i’w gyflawni. Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn rhoi trosolwg o ddyletswyddau a rhwymedigaethau Ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr anweithredol yn unol â’r gyfraith elusennau, ynghyd â throsolwg o sut i ddehongli a dibynnu ar ddogfennau llywodraethu’n effeithiol.

Mae’r sesiwn hon, felly, yn berffaith i Ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr anweithredol elusennau a all fod yn ansicr ynghylch cwmpas eu rôl neu sut i roi llywodraethu effeithiol ar waith yn eu helusen neu fudiad. Bydd hon hefyd o ddiddordeb i aelodau timau uwch-reolwyr o fewn elusennau, oherwydd bydd yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng dyletswyddau timau gweithredol mudiadau, gan gynnwys eu goblygiadau adrodd i’r Bwrdd, a phwysigrwydd Byrddau wrth ddiffinio a chymeradwyo strategaethau cyffredinol ar gyfer y dyfodol.

Mae ein sesiynau hyfforddi wedi’u dylunio i fod yn eglur ac yn hygyrch i’r holl gyfranogwyr a byddant bob amser yn rhoi canllawiau ymarferol ac enghreifftiau go iawn lle bynnag y bo’n bosibl. Mae ein harbenigwyr Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol cyfeillgar hefyd yn ceisio cyflwyno sesiynau hyfforddi dynamig sydd mor rhyngweithiol â phosibl, felly byddant bob amser yn croesawu cwestiynau gan gyfranogwyr.

YNGLŶN Â DARWIN GRAY

Cwmni cyfreithiol masnachol yw Darwin Gray sy’n gweithio gyda chleientiaid o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Gallwch fynd i’w gwefan yn https://www.darwingray.com/ neu eu ffonio ar +44 (0)2920 829 100