aelodau panel trafod yn eistedd ar y llwyfan o flaen sgrin yn gofod3 2019

gofod3 – dod o hyd i’r gofod i fyfyrio, dysgu a chynllunio

Cyhoeddwyd: 07/06/21 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Awdur: Anna Nicholl

gofod3 – mae digwyddiad mwyaf Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol yn ôl! Dyma Anna Nicholl, o CGGC, yn esbonio pam mae’n amser bwysig i fyfyrio, dysgu a chynllunio.

Ni fu llawer i wenu amdano ers i’r pandemig daro Cymru fis Mawrth 2020, ond mae’n gysur mawr i mi i weld cydnabyddiaeth yn tyfu am waith sefydliadau gwirfoddol, yn enwedig y rhai ar y rheng flaen a fu’n cefnogi’r mwyaf bregus y flwyddyn ddiwethaf.

Dyna, yn rhannol, sydd tu ôl i benderfyniad CGGC i gynnal gofod3 eleni: mae angen i bob un ohonom gael y lle a’r amser i fynd ati o ddifri i edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, dysgu sgiliau newydd i ymdopi â’r byd ar ei newydd wedd a chynllunio at y dyfodol.

Mae’r pandemig wedi dangos pa mor hanfodol yw’r sector gwirfoddol, fel y dangoswyd eisoes gan yr ymgyrch #NawrFwyNagErioed. Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd, gynharach eleni, yn Chwefror 2021, fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd i ‘Effaith Covid-19 ar y sector gwirfoddol’, lle anogwyd Llywodraeth nesaf Cymru i gydnabod y rôl y mae’r strwythur gwirfoddol presennol wedi’i chwarae wrth wella’r ymateb i’r pandemig ac ‘‘i gynnal seilwaith presennol y trydydd sector a cheisio gwella’r strwythurau hyn a’u gwneud hyd yn oed yn fwy cadarn’’.

Yn hynny o beth, a gyda’r rhaglen frechu ar ei hanterth, mae’n angenrheidiol bod mudiadau gwirfoddol nawr mewn sefyllfa i chwarae eu rhan yn adferiad Cymru i ail-godi’n gryfach.

Wrth gwrs, yng Nghymru, mae elusennau micro a bach yn cyfrif am fwy o’r sector nag yn unlle arall yn y DU. Mae dros hanner ohonynt (53%) yn ficro-elusennau a bron un rhan o dair ohonynt (32%) yn elusennau bach[1]. Mae’n hynod bwysig i’r tîm yn CGGC i greu gofod3 sy’n rhoi cyfle i bob un sefydliad – boed yn fawr neu’n fach – i arddangos eu gwaith amhrisiadwy a datblygu eu sgiliau yn barod ar gyfer y dyfodol.

Gan fod gorfodaeth arnom i gydymffurfio â chyfyngiadau Covid eleni, mae fformat gofod3 wedi newid i fod yn ddigwyddiad ar-lein, dros gyfnod o bum niwrnod.

Gyda mwy na 60 o ddigwyddiadau ar gael, yn rhad ac am ddim, gall gofod3 fod yn gofod unigryw i bob un ymwelydd. 

Fel trefnwyr, rydym yn awyddus i greu….

…GOFOD Y FYFYRIO

Mae eleni wedi bod yn anodd i ni i gyd – i rai’n fwy nag eraill – felly mae’n bwysig i bwyso a mesur, rhannu storïau a phrofiadau o’r flwyddyn ddiwethaf a chreu lle gwaith sy’n parchu cydbwysedd iach rhwng gwaith a gartref.

…GOFOD I DDYSGU

Mae Covid-19 wedi newid ein diwrnod gwaith am byth, gan greu tirwedd weithio newydd i bob un ohonom. Rhaid i ni fod yn chwim a dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd i’n helpu i lywio’r cyfnod anghyfarwydd yma. Ewch ati felly i fwrw golwg dros ein dosbarthiadau meistr, gweithdai rhyngweithiol a thrafodaethau.

…GOFOD I GYNLLUNIO

Mae Covid-19 wedi trawsnewid bron bob agwedd ar ein byd, gan gynnwys ein cynlluniau lluniaidd. Rhaid i bob un ohonom ddechrau ar eich cynlluniau i ailgodi’n gryfach, a felly dyma gyfle yn ystod gofod3 i gael ysbrydoliaeth, cysyllu â chymheiriaid, cwrdd â mentoriaid a gofyn cwestiynau heriol.

Ymunwch yn yr hwyl.

Bydd gofod3 arlein rhwng 28 Mehefin a 2 Gorffennaf.

Gwelwch y raglen lawn yma.