Dyn yn dal llaw allan fel bod delwedd o hofran crys uwchben

gofod3 – cymryd rhan

Cyhoeddwyd: 22/06/21 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Awdur: Garry Dalton

Wrth i gofod3 2021 agosáu, mae Garry Dalton, Swyddog Gweithredol Cyfrif ym Mroceriaid Yswiriant Keegan & Pennykid, yn rhannu ei farn ar gefndir eu cysylltiad â nid yn unig CGGC, ond hefyd â’r trydydd sector yng Nghymru, ac yn egluro pam mae cymryd rhan yn gofod3 yn gwbl addas.

Ar hyd a lled Cymru, mae’r trydydd sector yn cael ei yrru gan y bobl fwyaf dynamig sy’n gwneud eu gorau glas i wella bywydau’r nifer di-ri o bobl sydd angen eu help a’u cefnogaeth, yn ogystal â dod â chymunedau ynghyd. Gyda mwy na phedwar degawd o brofiad o helpu elusennau, rydyn ni’n gwybod ac yn deall yr amrywiaeth o weithgareddau y mae’r trydydd sector yn ymwneud â nhw, gan gynnwys yr heriau a wynebir bob dydd wrth ddarparu amrywiaeth mor eang o wasanaethau.

ARWAIN TRWY ESIAMPL

Yn ddiamau, rydyn ni’n ymfalchïo yn ein statws fel un o brif froceriaid yswiriant y DU ar gyfer y Trydydd Sector. Rydym bob amser yn ymrwymedig, p’un a yw eich anghenion yswiriant yn amrywiol iawn a/neu’n gymhleth neu, os mai dim ond yswiriant tymor byr sydd ei angen arnoch ar gyfer digwyddiad untro, yna gallwn ni helpu.

Mae cydberthnasau’n hollbwysig o fewn ein proffesiwn a, chan ystyried hynny, mae gennym fynediad at nifer o yswirwyr gorau’r farchnad sy’n cynnig amrediad o gynnyrch yswiriant sy’n addas i fudiadau’r trydydd sector. Cafodd ein polisi ein hunain, ‘Encompass’, ei greu gyda’r sector mewn golwg ac mae’n darparu yswiriant eang, o ddiogelu asedau traddodiadol a rhwymedigaethau cyffredinol i’r risgiau mwy diweddar sy’n ymddangos o ran bygythiadau seiber, sydd nid yn unig yn digwydd yn fwyfwy aml, ond sydd hefyd yn llawer mwy soffistigedig.

Y PRIF DDIGWYDDIAD

I ddod yn ôl at gofod3 ei hun, ac er ei fod yn cael ei gynnal yn ddigidol eleni, mae’n gwneud synnwyr llwyr i ni fod yn rhan ohono. Yn wir, roeddem ni yno ar gyfer y gofod3 cyntaf a gafodd ei gynnal yn 2017 ac rydyn ni wedi bod yno byth wedyn i gefnogi aelodau CGGC ac i hefyd gynnig help ac arweiniad i’r rheini sy’n mynychu’r digwyddiadau. Eleni, rydyn ni’n falch iawn o fod yn brif noddwr, sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol hefyd â’n penodiad diweddar fel cyflenwr dibynadwy CGGC.

Rydyn ni’n cynnal pedair sesiwn eleni sy’n ymdrin ag amrediad o bynciau wedi’u dylunio i gynnig help a chefnogaeth i’r rheini a allai fod mewn rôl newydd â chyfrifoldeb yswiriant newydd neu hyd yn oed i helpu i roi tawelwch meddwl i’r rheini sydd wedi bod mewn cysylltiad â ni am beth amser bod yr hyn y maen nhw’n ei wneud yn iawn.

BETH YDYM NI’N EI WNEUD

Nid yw gwasanaethau brocera yswiriant yn dechrau a diwedd gyda chael yswiriant. Mae’n ymwneud â llawer mwy na hyn, a dyma pam mae ein dull seiliedig ar gyngor yn allweddol i sicrhau bod yr yswiriant a drefnir ar gyfer ein cleientiaid yn addas ac yn ddigonol i gynnig y lefel uchaf o ddiogelwch, ar bremiymau cystadleuol. Mae pob aelod o’n staff yn weithwyr proffesiynol profiadol tu hwnt sydd wedi gweithio yn y diwydiant am flynyddoedd maith.

YSWIRIANT

Gall sicrhau bod gennych chi yswiriant a fydd yn eich diogelu rhag yr holl risgiau y gallech chi eu hwynebu deimlo’n frawychus ar adegau: mwy fyth felly ar adeg pan rydyn ni’n ail-addasu ein bywydau’n raddol ac yn dechrau gwneud mwy wrth i’r cyfyngiadau symud lacio. Gwnewch yn siŵr bod eich yswiriant yn parhau i fod yn briodol i anghenion cyfredol ac arfaethedig eich mudiad. Mae hyn yn arbennig o bwysig os cafodd gweithgareddau eich mudiad eu stopio dros dro yn ystod y cyfnod clo a lle y gallai eich yswiriant fod wedi’i atal dros dro.

Mae pob un ohonom wedi cael ein heffeithio mewn rhyw fodd neu’i gilydd yn ystod y pandemig, a bydd y cyfrifoldebau’n parhau i fod arnom i sicrhau ein bod ni, ein cydweithwyr a’r cymunedau rydyn ni’n byw ynddyn nhw’n cael eu cadw mor ddiogel â phosibl rhag bygythiad COVID-19.

Keegan & Pennykid yw un o’r prif froceriaid yswiriant arbenigol ar gyfer y trydydd sector, ac maen nhw wedi bod yn gweithio gyda CGGC a sector gwirfoddol Cymru ers 1998.

I gael cymorth a chyngor arbenigol, cysylltwch â’n tîm elusennau ar 0800 731 8030 (opsiwn 2) neu anfonwch e-bost at enquiries@keegan-pennykid.com.

Gwefan: www.keegan-pennykid.com