Dyn yn rhoi parsel i ddyn hŷn mewn drws

Gofalu am Gaerffili – gyda gwirfoddolwyr

Cyhoeddwyd: 23/10/24 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Lauren Hughes

Yma, mae Lauren Hughes yn disgrifio sut gwnaeth Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru helpu cynllun gwirfoddolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ‘Gofalu am Gaerffili’, i dyfu ar ôl pandemig COVID-19.

SUT DDECHREUODD PETHAU

Ar anterth y pandemig yn 2020, sefydlwyd cynllun ‘bydi’ gwirfoddol gan Dîm Caerffili i gynorthwyo pobl agored i niwed yn y gymuned â thasgau ymarferol fel siopa, casglu presgripsiynau neu alwadau ffôn cyfeillio.

Erbyn haf 2020, llaciodd y cyfyngiadau a oedd yn ymwneud â COVID-19, dychwelodd staff i’w prif swyddi a rhoddwyd y cynllun yng ngofal tîm newydd-sefydledig Gofalu am Gaerffili i’w reoli, gan gynnwys swydd Cydlynydd Gwirfoddolwyr Ymateb Cymunedol a reolwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO).

Mae wedi datblygu i fod yn gynllun cymorth cymunedol llawer ehangach ers hynny.

EHANGU’R CYNLLUN

Gyda’r gwaethaf o’r pandemig y tu cefn iddo, nid oedd y Cynllun Bydi yn addas i’r diben mwyach, gan ei fod wedi’i sefydlu i gynnig cymorth ar stepen y drws ar anterth y cyfyngiadau a oedd yn ymwneud â covid.

Ar ôl trafod, teimlai’r rheolwyr gwasanaeth y byddai’n synhwyrol dod â’r Cynllun Bydi i ben ac ailagor gwasanaeth cyfeillio a oedd wedi’i sefydlu’n flaenorol gan gynllun Gofalu am Gaerffili, yn hytrach na rhedeg dau gynllun gwirfoddolwyr ar wahân.

Cysylltwyd ag unrhyw wirfoddolwyr o’r Cynllun Bydi a oedd yn parhau i gynorthwyo pobl yn eu cymuned a chawsant eu cynnwys yn y Gwasanaeth Gwirfoddolwyr a oedd newydd ei lansio a reolwyd gan Gofalu am Gaerffili.

Mae’r cynllun presennol yn derbyn atgyfeiriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol ac unigolion nad ydynt yn gysylltiedig â gwasanaethau, ac mae’n galluogi prosesau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â rheoli gwirfoddolwyr i gyd-fynd â’i gilydd yn well.

O ganlyniad i’r ailstrwythuro, crëwyd dwy swydd cydlynydd gwirfoddolwyr. Gan gwmpasu’r holl fwrdeistref, maen nhw’n hybu’r gwasanaeth, yn recriwtio, cynefino ac yn goruchwylio’r holl wirfoddolwyr sydd wedi cofrestru ar y cynllun.

BETH MAE GWIRFODDOLWYR YN EI GYNNIG?

Mae’r gwasanaeth newydd-sefydledig yn cefnogi oedolion sy’n agored i niwed ledled y fwrdeistref, gan wella’u bywydau drwy ryngweithio cymdeithasol. Nod y gwasanaeth yw lleihau teimladau o ynysigrwydd ac unigrwydd ac annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau o’u dewis.

Caiff gwirfoddolwyr eu paru i gynnig cymorth mewn un o dair ffordd: ar sail un i un gartref neu yn y gymuned, mewn lleoliadau preswyl neu ofal dydd ac mewn clybiau cymdeithasol a arweinir gan wirfoddolwyr.

DATBLYGU A GWELLA GWASANAETHAU GYDA GRANTIAU STRATEGOL GWIRFODDOLI CYMRU (VWSG)

Bu’r flwyddyn gyntaf ar ôl agor y cynllun yn dipyn o agoriad llygad! Aethom o weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr a oedd yn gweithredu fel rhan o’r grwpiau cymunedol roeddem yn eu cynorthwyo i fod yn uniongyrchol gyfrifol am recriwtio ac, yn bwysig iawn, cadw gwirfoddolwyr mewn modd diogel.

Bu ein cais llwyddiannus i Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru yn amhrisiadwy yma, gan alluogi staff i gael hyfforddiant gan NCVO mewn Arferion Da wrth Reoli Gwirfoddolwyr (a argymhellwn yn fawr) ac ymgysylltu â’n Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) lleol i ddatblygu Polisi Gwirfoddoli newydd ar draws y cyngor.

Ar ôl 12 mis o waith allgymorth yn hysbysebu’r gwasanaeth a chyfleoedd mewn llyfrgelloedd, archfarchnadoedd a digwyddiadau cymunedol di-ri, canfuom os oedd pobl eisiau gwirfoddoli, y byddent, fel arfer, yn chwilio amdanom ni yn hytrach na chofrestru oherwydd sgwrs roeddent wedi’i chael ar hap.

I’r perwyl hwn, gwnaethom weithio ar wella ein presenoldeb ar-lein, gan ei wneud yn fwy syml a haws i ddefnyddwyr drwy dudalen lanio newydd i wirfoddolwyr ar wefan y Cyngor www.caerffili.gov.uk/services/volunteering

MAE’R DAITH YN PARHAU

Mae elfen wirfoddoli Gofalu am Gaerffili wedi tyfu ers i’r tîm ffurfio, ac yn ogystal â’r Gwasanaeth Gwirfoddolwyr (Cyfeillio), mae bellach yn cynnwys hybu a chydlynu’r Cynllun Gwirfoddoli Cyflogeion corfforaethol, hwyluso rhwydwaith mewnol o adrannau ar draws y mudiad sy’n croesawu gwirfoddolwyr a chael busnesau lleol i ymhél â gwirfoddoli er budd y fwrdeistref.

Mae’r daith hyd yma wedi dangos gwerth gwirfoddolwyr a’r cyfraniad positif y gall gwirfoddoli ei wneud at ddarparu gwasanaethau mewn awdurdodau lleol.

Mae Lauren Hughes yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cydlynu elfen wirfoddoli ‘Gofalu am Gaerffili’.