Llun agos o liniadur gyda chwyddwydr arno

Gallai eich mewnwelediad helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 09/06/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth,Hyfforddiant a digwyddiadau, Awdur: Michelle Moris

Mae Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW), yn esbonio pam mae mwy o ymgysylltu â mudiadau gwirfoddol yn hanfodol i helpu PSOW i wneud y gorau o’i bwerau a gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

PAM MAE PARTNERIAETH YN BWYSIG

Bob dydd, mae mudiadau gwirfoddol ledled Cymru yn cefnogi pobl sydd wedi cael problemau gyda gwasanaethau cyhoeddus.

Rydych chi’n helpu pobl i lywio sefyllfaoedd anodd ac eirioli drostynt. O ganlyniad, rydych chi’n aml yn gweld materion sy’n dod i’r amlwg a phryderon cyson cyn iddynt gyrraedd prosesau cwyno ffurfiol.

Yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW), gwyddom nad yw pob pryder yn ein cyrraedd. Mae rhai pobl yn anymwybodol o’n gwasanaeth, tra bod eraill yn wynebu rhwystrau i gael mynediad at brosesau cwyno. Mewn rhai achosion, gallai mudiadau fel eich un chi fod yn ymwybodol o batrymau sy’n effeithio ar nifer o bobl, ond nad oes un cwyn yn datgelu’r darlun llawn.

Dyna pam mae cydberthnasau cryf â’r sector gwirfoddol mor bwysig. Mae eich mewnwelediad yn ein helpu i ddeall sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio – a gweld lle nad ydynt yn gweithio o bosibl.

EDRYCH Y TU HWNT I GWYNION UNIGOL

Mae llawer o bobl yn ein hadnabod fel y mudiad sy’n ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hynny’n parhau i fod yn rhan greiddiol o’n rôl.

Rydyn ni’n ystyried cwynion am wasanaethau gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, tai cymdeithasol a llywodraeth leol. Pan fyddwn ni’n gweld bod rhywbeth wedi mynd o’i le, rydyn ni’n argymell camau gweithredu i wneud pethau’n iawn.

Mae’n 20 mlynedd ers sefydlu PSOW eleni. Mae’n gyfle i fyfyrio ar sut mae ein rôl wedi datblygu a’r effaith rydyn ni wedi’i chael, wrth edrych ymlaen at y dyfodol.

Mae rhan sylweddol o’r datblygiad hwn wedi dod drwy Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, a gyflwynodd bwerau newydd sy’n caniatáu i ni fynd ati mewn modd mwy rhagweithiol a system gyfan.

Ochr yn ochr â’n gwaith cwynion, mae gennym bellach dair swyddogaeth allweddol:

  • Ymchwiliadau ar ein Liwt ein Hunain, sy’n caniatáu i ni edrych ar faterion systemig sy’n effeithio ar grwpiau o bobl, hyd yn oed pan nad oes cwyn unigol wedi’i gwneud
  • Yr Awdurdod Safonau Cwynion (CSA), sy’n cynorthwyo cyrff cyhoeddus i wella sut maen nhw’n ymdrin â chwynion
  • Gallu derbyn Cwynion ar lafar, gan ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad i’n gwasanaeth

Gyda’i gilydd, mae’r pwerau hyn yn golygu y gallwn wneud mwy nag ymateb i gwynion unigol – gallwn ni weithredu’n gynt, nodi problemau ehangach, a chefnogi gwelliant ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Ond does dim o hyn yn digwydd ar wahân. Er mwyn defnyddio’r pwerau hyn yn effeithiol, mae angen i ni glywed gan y bobl a’r mudiadau sydd agosaf at gymunedau.

PAM MAE EICH MEWNWELEDIAD YN BWYSIG

Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer Ymchwiliadau ar ein Liwt ein Hunain.

Mae mudiadau gwirfoddol yn aml mewn sefyllfa unigryw i weld sut mae gwasanaethau yn gweithio’n ymarferol. Gall eich mewnwelediad chi ein helpu i:

  • nodi problemau cyson yn gynt
  • deall lle gall problemau fod yn fwy eang
  • tynnu sylw at bryderon na allai fod yn ein cyrraedd ar hyn o bryd
  • a hysbysu meysydd lle gallai ymchwiliad ehangach wneud gwahaniaeth

Po fwyaf fyddwn ni’n ei ddeall am brofiadau pobl, gorau oll fydd ein sefyllfa i weithredu yn y mannau pwysicaf.

GWELLA MYNEDIAD I’N GWASANAETH

Rydyn ni hefyd yn ymrwymedig i wneud ein gwasanaeth mor hygyrch â phosibl, ac un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol a gyflwynwyd o dan Ddeddf 2019 oedd lansio ein Gwasanaeth Cwynion Llafar.

Rydyn ni’n gwybod y gall prosesau ysgrifenedig fod yn rhwystr i rai pobl. Mae cwynion llafar yn ei gwneud hi’n haws i bobl rannu eu profiadau.

Er mwyn cefnogi hyn, rydyn ni wedi cyflwyno capasiti pwrpasol o fewn ein tîm, gan ein galluogi i gymryd mwy o gwynion llafar a chynnig cymorth wedi’i deilwra pan fo angen. Mae hyn yn creu llwybr mwy hyblyg a hygyrch i’n gwasanaeth, i unigolion ac i’r mudiadau sy’n eu cefnogi.

Ochr yn ochr â’r gwasanaeth hwn, rydyn ni’n parhau i roi arweiniad, hyfforddiant ac adnoddau ymarferol i helpu mudiadau i ymhél yn hyderus â ni a chefnogi’r bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw’n effeithiol.

Mae gwneud ein gwasanaeth yn haws ei gyrchu’n bwysig. Ond mae’r un mor bwysig bod cwynion yn cael eu trafod yn dda ble bynnag y maen nhw’n codi.

CEFNOGI PROSESAU GWELL O YMDRIN Â CHWYNION

Mae ein rôl fel yr Awdurdod Safonau Cwynion yn rhan arall bwysig o sut rydym yn gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Trwy’r gwaith hwn, rydyn ni’n cefnogi cyrff cyhoeddus i wella’r ffordd yr ymdrinnir â chwynion – gan hybu cysondeb, tryloywder a chanlyniadau gwell.

Gall ymdrin â chwynion yn effeithiol ac yn gynnar atal problem rhag gwaethygu, lleihau’r angen am ymchwiliad ffurfiol a helpu gwasanaethau i ddysgu o adborth.

Mae’r darlun ehangach hwn o fynediad, mewnwelediad a dysgu yn hanfodol i sut rydyn ni’n defnyddio ein pwerau’n effeithiol.

Ac mae hynny’n dod â mi yn ôl at rôl y sector gwirfoddol. Er mwyn cryfhau’r gwaith hwn, mae arnom ni angen gwell dealltwriaeth o sut mae mudiadau yn ymgysylltu â ni ar hyn o bryd a ble allwn ni wella.

HELPU I LUNIO EIN GWAITH YN Y DYFODOL

Rydyn ni wedi lansio arolwg byr i ddeall eich ymwybyddiaeth o’n rôl ni’n well, eich profiad o ymhél â ni a sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd yn fwy effeithiol.

Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed am:

  • rwystrau i ymgysylltu
  • sut gellir rhannu mewnwelediad yn fwy effeithiol
  • sut gallwn ni wella cyfathrebu a chefnogaeth
  • a sut gallwn ni wneud y defnydd gorau o’n pwerau

Bydd eich adborth yn helpu i lunio ein hymgysylltiad â’r sector yn y dyfodol.

PARHAU Â’R SGWRS YN GOFOD3

Rydyn ni’n falch o fod yn noddi gofod3 eleni ac yn edrych ymlaen at gysylltu â mudiadau o bob cwr o Gymru.

Gallwch ddod o hyd i ni ar stondin 4 yn y Farchnad, lle bydd ein tîm ar gael drwy gydol y dydd.

P’un a ydych chi eisiau trafod materion rydych chi’n eu gweld, dysgu mwy am ein pwerau, neu edrych ar gyfleoedd i weithio gyda’n gilydd, byddem yn falch o siarad â chi.

GWEITHIO GYDA’N GILYDD I WELLA GWASANAETHAU

Mae mudiadau gwirfoddol yn chwarae rhan hanfodol i’n helpu ni i ddeall profiadau pobl o wasanaethau cyhoeddus.

Drwy rannu mewnwelediad a gweithio gyda’n gilydd, gallwn nodi problemau yn gynt, cymryd camau lle mae’n bwysig a gwella canlyniadau i bobl ledled Cymru.

Wrth i PSOW ddathlu ei ugeinfed flwyddyn, credaf fod y partneriaethau hyn yn bwysicach nag erioed. Edrychaf ymlaen at glywed eich barn yn gofod3, trwy ein harolwg ac mewn sgyrsiau yn y dyfodol wrth i ni barhau i gryfhau ein gwaith gyda’r sector.

RHAGOR O WYBODAETH

Darganfyddwch fwy am Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

I archebu eich lle am ddim yn gofod3 ewch i: gofod3.cymru.