Yn dilyn cyflwyniad ein gweminar ddiweddar ar strategaethau ynni cost-effeithiol, dyma Kimberley Page o Utility Aid i gyflwyno awgrymiadau arbed ynni ymarferol sy’n dda i’ch cyllideb ac yn dda i’r amgylchedd.
PAM MAE CYNALIADWYEDD YN LLEIHAU COSTAU
Pan gaiff ei wneud yn dda, mae cynaliadwyedd ac arbedion yn mynd law yn llaw yn naturiol:
- Mae adroddiadau clir yn golygu eich bod yn buddsoddi yn y mannau sy’n cyfri
- Mae monitro yn dangos gwelliannau go iawn dros amser
- Mae diwylliant a rennir yn sicrhau cefnogaeth yr holl fudiad
- Mae prynu cyfunol a gwiriadau gofalus yn cadw costau o dan reolaeth
Yn *Utility Aid, rydym ni’n credu na ddylai lleihau carbon fod yn faich. Gyda’r cymorth iawn, daw yn daith sy’n arbed arian, yn diogelu adnoddau ac yn un sy’n creu dyfodol gwell i’ch mudiad a’r blaned.
Y CAMAU CYNTAF: CAMAU GWEITHREDU YMARFEROL AC AWGRYMIADAU ARBED YNNI
Y ffordd orau o ddechrau yw trwy edrych yn ofalus ar yr ynni rydych yn ei ddefnyddio. Mae rhai pethau cyflym y gallwch chi eu gwneud i arbed ynni:
- Datgysylltu plygiau dyfeisiau ac offer nad ydynt yn cael eu defnyddio
Mae llawer o swyddfeydd yn gadael plygiau argraffwyr, monitorau, llwybryddion a gwefrwyr wedi’u cysylltu 24/7. Gall y dyfeisiau hyn ddefnyddio 5–10% o’ch trydan, hyd yn oed pan na fyddant yn cael eu defnyddio. Arbedion bras: hyd at £45 y flwyddyn ym mhob safle drwy ddatgysylltu plygiau cyfarpar nad ydynt yn cael eu defnyddio (*AP News, 2023).
- Newidiwch i oleuadau LED
Mae llawer o swyddfeydd elusennol ac adeiladau cymunedol yn parhau i ddefnyddio goleuadau halogen neu fflwroleuol. Trwy newid pob bylb i rai LED, gallech:
- Ddefnyddio hyd at 80% yn llai o ynni ar oleuadau
- Arbed rhwng £5–£13 y bylb, y flwyddyn
- Lleihau allyriadau CO₂ o 40kg y bylb, y flwyddyn
(Ffynhonnell: *Energy Saving Trust; *John Lewis & Partners)
- Trowch y thermostat i lawr 1°C
Gall gostwng eich tymheredd gwresogi o 1°C leihau eich biliau gwresogi oddeutu 10% (*Wales Online, 2022).
- Mesurau arbed drafftiau ac inswleiddio syml
Mae adeiladau hŷn (sef y math o adeilad sydd gan lawer o elusennau), yn colli llawer o wres drwy ddrysau, ffenestri a lloriau. Gall gosod mesurau atal drafftiau i rwystro bylchau diangen gostio cyn lleied â £5–£50 ond arbed £85-£95 y flwyddyn, yn enwedig ym misoedd y gaeaf. (*Energy Saving Trust)
‘Mae risgiau yn gysylltiedig â cheisio atal drafftiau mewn hen adeiladau, yn dibynnu ar y gweithgareddau y tu mewn a’r gofynion awyru. Mae angen i’r hen adeiladau hyn anadlu fel nad oes llwydni a lleithder yn cronni – felly mae’n bwysig peidio â llenwi unrhyw ran o’r dulliau awyru y mae’r adeilad yn dibynnu arno i sychu neu leihau lefel y gwlybaniaeth.
‘Ystyriwch atal drafftiau drwy ddefnyddio tâp atal drafftiau o amgylch fframiau ffenestri a drysau, stripiau brwsh neu nadroedd drws. Bydd angen datrysiad mwy parhaol ar gyfer bylchau yn yr adeiladwaith a’r estyll.’
Ruaire Glackin, Pennaeth Sero Net yn Utility Aid
GWYBOD FAINT RYDYCH CHI’N EI DDEFNYDDIO: MONITRO PATRYMAU A DATHLU CYNNYDD
Unwaith y bydd gennych ddarlun clir o’r ynni rydych yn ei ddefnyddio, gallwch ddechrau sylwi ar batrymau. Er enghraifft, gallech sylwi ar adegau prysur pan ddefnyddir mwy o ynni na’r disgwyl neu ddod o hyd i fannau lle mae’r defnydd eisoes yn gwella.
Trwy gadw llygad, byddwch yn gallu:
- Gweld ble mae newidiadau yn arbed arian
- Dathlu’r cynnydd gyda’ch tîm
- Adeiladu momentwm i ddal ati
Nid yw mwy na hanner (53%) mentrau bach a chanolig (BBaCh) y DU yn monitro faint o ynni y maen nhw’n eu defnyddio o gwbl – ac nid yw 18% ohonynt hyd yn oed yn siŵr a ydynt wedi defnyddio llai dros y flwyddyn ddiwethaf. Eto i gyd, ymhlith y rheini sy’n monitro, mae 50% ohonynt yn adrodd arbedion o hyd at 10% (*EcoMonitor, 2023).
Mae pob cam positif, waeth pa mor fach, yn helpu eich cyllideb a’r amgylchedd.
CREU DIWYLLIANT: CAEL PAWB I GYMRYD RHAN
Nid yw newid go iawn yn dod o dechnoleg yn unig, mae’n dod o bobl. Mae canlyniadau’n gryfach ac yn para’n hirach pan fydd pawb yn teimlo’n rhan o’r daith.
Rydym ni’n aml yn helpu mudiadau i enwebu hyrwyddwyr ynni, pobl sy’n annog gweithrediadau bach bob dydd ac yn rhannu syniadau ar draws y tîm. Mae’r ymagwedd gyfunol hon yn gwneud i gynaliadwyedd deimlo’n llai fel tasg a mwy fel cyflawniad ar y cyd.
HELP I DDECHRAU AR EICH TAITH I SERO NET
Nid oes angen i chi deimlo wedi eich llethu wrth ddechrau ar eich taith i Sero Net. Os oes angen cymorth arnoch, gall Utility Aid eich arwain ar bob cam o’r ffordd. Ein rôl ni yw eich helpu i ddeall ble rydych chi nawr, pa newidiadau fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, a sut i’w cyflawni heb roi mwy o straen diangen ar eich cyllideb.
DOGFEN DDARGANFOD: EICH ARCHWILIAD YNNI ANNIBYNNOL
Byddwn ni’n creu adroddiad personol i’ch mudiad sy’n dangos faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio, ble mae’n cael ei ddefnyddio, a ble gellir gwneud arbedion. Bydd y cam syml hwn yn rhoi’r eglurder i chi wneud newidiadau realistig a fforddiadwy.
‘Mae trefnu archwiliad ynni annibynnol bob amser yn well na chael un gan gyflenwr mesurau arbed ynni. Mae’n sicrhau y byddwch yn cael y cyngor gorau i chi a’ch mudiad, nid un sydd o blaid y nwyddau sy’n cael eu cyflenwi gan yr asesydd cysylltiedig.’
Ruaire Glackin, Pennaeth Sero Net yn Utility Aid
Bydd dogfen ddarganfod yn pennu eich defnydd blynyddol, yn nodi cyfleoedd i leihau’r ynni a ddefnyddir ac yn nodi costau bras fel y gallwch wneud penderfyniadau dichonadwy ar gyfer eich mudiad.
Bydd yr holl ddogfennau wedi’u teilwra i’ch defnydd a’ch amgylchiadau chi, a bydd trafodaethau ar ôl i chi dderbyn y ddogfen i’ch helpu i greu eich strategaeth ar gyfer lleihau eich effaith ar yr amgylchedd a mynd i’r afael â deddfwriaethau i ddod.
Cysylltwch am ragor o wybodaeth.
*Saesneg yn unig