Pob chwarter, byddwn yn tynnu sylw at y gwaith rhagorol y mae aelodau CGGC yn ei wneud. Yn y blog hwn, mae Jamie-Lee Cole o’r Wallich yn disgrifio sut maen nhw wedi datblygu eu gwasanaethau trwy gydol y pandemig, ac yn gofyn i mudiadau eraill ymuno â hwy yn y frwydr yn erbyn digartrefedd.
Fel elusen digartrefedd a chysgu allan, rydym yn gwybod bod diogelu pobl rhag digartrefedd yn fwy na rhoi to dros ben rhywun. Ni fu ymateb i COVID-19 yn ddim gwahanol, a chyda gwytnwch, penderfyniad a hyblygrwydd staff The Wallich a mudiadau eraill, rydym i gyd wedi gweithio gyda’n gilydd i gadw pobl yn ddiogel yn ystod y pandemig.
Yn The Wallich, dyma fu ein nodau allweddol yn ystod y pandemig:
- Cadw pobl yn ddiogel.
- Oedi trosglwyddo COVID-19 yng nghymunedau The Wallich.
- Tawelu meddwl ein staff a’n cleientiaid.
- Parhau â’n gwasanaethau critigol, addasu ac ymateb yn ôl yr angen fel bod y grwpiau mwyaf agored i niwed yn parhau i gael help.
- Adfer ein holl brosiectau a gwasanaethau yn unol â newidiadau i gyfyngiadau symud.
Felly sut ydyn ni wedi bod yn cefnogi pobl? Diolch i help Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol CGGC, rydym wedi gallu ymateb yn effeithiol i COVID-19 gan sicrhau bod pobl ddigartref yn parhau i gael help.
EIN HEFFAITH
- Roedd y Wallich yn cynnal gwasanaethau rheng flaen trwy gydol y pandemig; darparu cefnogaeth a chadw mwy na 4,723 o bobl yn ddiogel.
- Fe wnaethom gyflenwi mwy na 200,000 o eitemau PPE i 350 o staff rheng flaen i dawelu eu meddyliau, cadw pobl yn ddiogel a chyfyngu ar drosglwyddo COVID-19.
- Gwnaethom addasiadau i’n hamgylcheddau prosiect i hwyluso ailagor 68 gwasanaeth yn ddiogel ledled Cymru.
- Gwnaethom ddosbarthu 3,458 o brydau poeth i 184 o bobl mewn llety dros dro.
- Fe wnaethom sicrhau bod gan fwy na 1,000 o bobl fynediad at fwyd yn ystod cyfnodau y cyfyngiadau symud ac arwahanrwydd a thros gyfnod y Nadolig.
- Fe wnaethom ddarparu 54 sesiwn gwnsela i bobl oedd yn gweld dirywiad yn eu hiechyd meddwl o ganlyniad i’r mesurau cyfyngiadau symud parhaus.
- Fe wnaethom ddarparu gliniaduron a thabledi i fynd i’r afael ag allgáu digidol a helpu defnyddwyr gwasanaeth i ymgysylltu â’n gwasanaethau cymorth a chymryd rhan ar-lein.
GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH
Ni allem gyflawni ein strategaeth COVID ar ein pen ein hunain. Trwy saernïo digartrefedd fel mater iechyd cyhoeddus, bu rhai enghreifftiau arbennig iawn o gydweithio ag asiantaethau eraill – y mae llawer ohonynt hefyd yn aelodau o CGGC – i helpu pobl sy’n profi digartrefedd trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.
Ym mis Mawrth 2020, daeth The Wallich, Cyngor Abertawe a Pobl a Goleudy (Caer Las gynt) ynghyd i lansio hostel newydd sbon mewn dim ond chwe wythnos ar gyfer y digartref.
Yn ogystal â lle i aros yn ystod y cyfyngiadau symud, darparodd hostel Tŷ Tom Jones gefnogaeth arbenigol i’r preswylwyr, gan gynnwys mynediad at ofal meddygol, cymorth lleihau niwed, cwnsela, cymorth gydag arian, cyngor gyda lles meddyliol a chorfforol a gweithgareddau dargyfeiriol fel y celfyddydau a chrefftau.
Wrth i’r pandemig barhau, mae Tŷ Tom Jones wedi bod o help rhagorol.
Mewn man arall yng Nghymru, mae’r Wallich wedi bod yn gweithio gyda Kaleidoscope, elusen cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl, i ddarparu allgymorth ar sail trawma ar ein Cerbyd Lles symudol. Mae’r bartneriaeth yn rhoi cymorth iechyd a digartrefedd i bobl ar eu telerau eu hunain.
Yna aethom â’n partneriaeth ymhellach i ymuno ag asiantaethau eraill, megis Cymorth Cymru, i alw ar Lywodraeth Cymru am fynediad â blaenoriaeth i’r rhaglen frechu genedlaethol ar gyfer pobl digartref yng Nghymru, ac i weithio gyda’r trydydd sector i ddosbarthu brechlynnau i grwpiau anodd eu cyrraedd. Trwy harneisio ein dylanwad ar y cyd, cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai pobl ddigartref yn cael eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth brechu 6, ac y dylai byrddau iechyd fod yn lleihau’r risg o drosglwyddo ymhlith y bobl rydyn ni’n eu cefnogi.
Er mwyn creu newid gwirioneddol, mae’n cymryd ymdrechion cydweithredol ar draws y sectorau tai, iechyd a chyfiawnder troseddol i helpu pobl oddi ar y strydoedd.
CYDWEITHIO I DDOD Â DIGARTREFEDD I BEN YN Y DYFODOL
Y gwir amdani yw, er bod y pandemig wedi bod yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i helpu pobl oddi ar y strydoedd, mae’n rhaid i’n ffocws droi yn awr at sicrhau atebion hirdymor i sicrhau nad ydym yn dychwelyd i lefelau digartrefedd cyn-COVID.
Yn The Wallich, byddwn yn parhau i roi pwysau ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i newid polisïau sy’n rhoi pobl mewn perygl o fod yn ddigartref. Er enghraifft, y rhwystr y mae Dim Hawl i Gronfeydd Cyhoeddus yn ei achosi a phan mae pobl yn cael eu rhyddhau o’r carchar neu o mudiadau eraill i ddigartrefedd. Rydym hefyd yn ymuno â Tai Pawb, Shelter Cymru, CIH Cymru ac eraill i alw ar y Llywodraeth i wneud yr hawl sydd gan bobl i dai yn hawl ddynol.
Os ydych chi yn mudiad sy’n credu y byddem yn gryfach yn gweithio gyda’n gilydd i greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl, mae ein drws ar agor led y pen.
Cysylltwch â: communications@thewallich.net