Mae Bilal Anjum yn Swyddog Cefnogi Gwirfoddolwyr gyda CCAWS (Community Care and Wellbeing Service). Mae’n disgrifio ei siwrnai bersonol fel gwirfoddolwr ac yn esbonio sut y gwnaeth ef elwa o’r profiad.
Cyn i CCAWS gael ei sefydlu, dechreuais ar fy siwrnai wirfoddoli gydag elusen iechyd meddwl oedd yn canolbwyntio ar roi cymorth i leiafrifoedd ethnig yn y gymuned.
Roeddwn i’n ddwy ar bymtheg oed ar y pryd, yn chwilio am brofiad yn y maes ac yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth gwahanol a fyddai’n fy herio y tu hwnt i fy man cysurus.
Yn anffodus, doedd fawr ddim opsiynau ar gael i mi gan nad oedd gen i unrhyw gysylltiadau proffesiynol na phrofiad o fath yn y byd. Felly, penderfynais roi cynnig ar wirfoddoli ac fe ddes i ar draws cais am eiriolwyr dwyieithog i gefnogi’r gymdeithas BAME yn yr ardal leol.
O edrych yn ôl, roedd hwn yn benderfyniad gwych ac fe gefais fudd mawr ohono, yn enwedig ar lefel bersonol.
Balch ac ostyngedig
I gychwyn, pan ddechreuais wirfoddoli, cefais dasgau i’w cyflawni nad oedden nhw’n fy niddori (tasgau gweinyddol, er enghraifft), o ganlyniad i fy oed ifanc a fy niffyg profiad.
Bu rhaid i mi brofi fy hun er mwyn cael profiad o’r hyn roeddwn i’n awyddus i’w wneud, er y gallwn fod wedi rhoi’r gorau iddi a cheisio dod o hyd i rywbeth arall. Mae profiad fel hyn yn eich gwneud yn ostynedig ac yn rhoi syniad cryfach o foeseg gwaith i chi. Os gallwch ddangos ymrwymiad ac angerdd tuag at y tasgau o dan sylw, fe ddewch yn gryfach eich cymhelliad ac yn aeddfetach fel person. Ymhen hir a hwyr, cefais gyfle i gyflawni tasgau mwy diddorol, megis darparu cefnogaeth eirioli i gleientiaid a oedd, mewn rhai achosion, yn profi trafferthion ariannol difrifol, neu gynorthwyo ffoaduriaid gyda’u hachosion llochesu. Rhoddodd y profiad hwn gyfle i mi ymwneud ag ystod amrywiol o bobl, o bob math o gefndiroedd, gan wella fy sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu yn sylweddol.
Oherwydd y profiad a’r gwersi y mae modd eu dysgu rwy’n annog myfyrwyr iau yn gryf i roi cynnig ar wirfoddoli i elusen neu fudiad nid-er-elw. Dewiswch faes sydd o ddiddordeb i chi neu y teimlwch yn angerddol yn ei gylch. Go brin y dewch o hyd i well sector er mwyn agor eich meddwl a rhoi persbectif gwahanol i chi ar fywyd.
Mae gwirfoddoli yn rhoi boddhad mawr – mae gallu gweld yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni a sut mae hynny’n gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun yn eich gwneud chi’n falch ac yn ostyngedig ar yr un pryd.
Rhan o CCAWS
Sefydlwyd CCAWS ar waddol yr elusen flaenorol, gan fod angen cyfeiriad newydd a gweithredu cliriach. Dyna pryd y gwelais gyfle, gan ymroi fy hun yn fwy gweithredol er mwyn bod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn.
Ers cychwyn yn swyddogol rhyw ddwy flynedd yn ôl, mae CCAWS wedi llwyddo i wasanaethu anghenion 1500 o gleientiaid gyda chymorth carfan o dros 50 o wirfoddolwyr sydd wedi cofrestru gyda’n mudiad.
Mae llwyddiant CCAWS hyd yma, ynghyd â’i dwf parhaus, yn ganlyniad i’r ffaith i ni greu system o gredoau ac amcanion clir yr oedd pawb yn cytuno â hwy ac yn credu ynddynt.
Fy rôl gychwynnol i oedd creu elfen frandio CCAWS a gwneud mân newidiadau i fanylion technegol, megis arferion gwaith. Defnyddiais fy mhrofiad gwirfoddoli cynnar, fy ngwybodaeth o fod wedi agor dau safle e-fasnachu ac elfennau o fy astudiaethau i ychwanegu gwerth fel gwirfoddolwr hyd nes i ni dderbyn cyllid ar gyfer swyddi cyflogedig.
Wedi i mi gael fy mhenodi yn Swyddog Cefnogi Gwirfoddolwyr, fe wnes i barhau i adeiladu ar y gwaith roeddwn eisoes yn ei wneud, ond gan wynebu’r her ychwanegol o recriwtio gwirfoddolwyr i gynorthwyo i gynnal ein gwasanaethau oedd ar eu twf.
Sgiliau trosglwyddadwy
Mae’r heriau sy’n ein hwynebu yn rhai anodd. Mae gofyn gwasanaethu yn effeithiol anghenion y cannoedd o gleientiaid sy’n dod atom, a hynny heb fawr ddim adnoddau.
Dyma pryd y defnyddiais fy ngwybodaeth ddamcaniaethol o’m cwrs MBA er mwyn creu cyfres o werthoedd a diwylliant gwaith a oedd yn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn mwynhau dod atom ac yn frwdfrydig ynghylch eu gwaith.
Yn gydnabyddiaeth am hynny, dangosodd ein gwirfoddolwyr lefelau uchel o ymroddiad a daeth mwy o wirfoddolwyr atom.
Roedd hyn oherwydd i ni gynnig profiadau un-i-un gyda chleientiaid i’n gwirfoddolwyr, yn hytrach na rhoi tasgau dibwys iddynt eu cyflawni, yn ogystal ag ychwanegu at eu datblygiad personol a phroffesiynol mewn ffyrdd eraill hefyd.
Gan i ni weithio mewn modd creadigol, meddwl y tu allan i’r bocs ac arddangos sgiliau rheoli pobl da fe lwyddwyd i greu cronfa o wirfoddolwyr triw ac effeithiol sydd bellach wedi cynorthwyo cannoedd o gleientiaid trwy gyfrwng ein gwahanol linynnau o wasanaeth.
Elwa o’r buddion
Y neges yn y fan hon yw bod gwirfoddoli wedi helpu i ddatgelu fy mhotensial – yn fwy, hyd yn oed, nag y gwnaeth fy astudiaethau academaidd – ac mae wedi dysgu gwersi gwerthfawr i mi na fyddai wedi bod yn bosibl pe byddwn wedi chwilio am brofiadau gyda busnesau yn y sector breifat.
I gloi, os ydych chi’n fyfyriwr sy’n chwilio am brofiad gwaith, da chi ewch i wirfoddoli dros achos y mae gennych ddiddordeb ynddo. Yn gydnabyddiaeth, gallaf eich sicrhau y byddwch yn elwa ar eich canfed o’r buddion niferus a ddaw o hynny.
Darllenwch erthygl am wirfoddolwyr gyda Community Care and Wellbeing Services (CCAWS)