Mae grŵp o weithwyr codi arian proffesiynol yn cyfarfod am y cyntaf fel rhan o ddigwyddiad rhwydweithio

Fy addunedau codi arian ar gyfer y flwyddyn newydd

Cyhoeddwyd: 15/01/25 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Owen Thomas

Yma, mae Owen Thomas, Cadeirydd Sefydliad Siartredig Codi Arian Cymru, yn siarad am sut gallai codwyr arian ddechrau’r flwyddyn newydd gydag egni a phositifrwydd newydd.

Wrth i ni droedio i 2025, d’oes dim amheuaeth fod codwyr arian wedi’i chael hi’n anodd yn ystod y misoedd diwethaf. Yn wir, nid yw pethau wedi teimlo mor sefydlog a phositif â hynny ers pandemig COVID.

Ni fu grantiau ac incwm ymddiriedolaethau erioed mor gystadleuol ac anodd cael gafael arnynt. Mae rhoddion gan unigolion yn parhau i fod yn heriol wrth i bobl geisio ymgodymu â’r costau byw. Mae digwyddiadau wedi dychwelyd, ond mae gwaith i’w wneud o hyd i ailennill y tir a gollwyd ers 2020. Nid yw hyd yn oed y cymynroddion yn bopeth roedd llawer o elusennau yn gobeithio amdano, gydag incwm yn anodd ei ragweld o un flwyddyn i’r llall.

DEWIS BOD YN OPTIMISTAIDD

Efallai mai’r tir sigledig hwn yw’r rheswm pam mae llawer o bobl, yn ôl pob golwg, wedi bod yn gadael y sector yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwyf i hyd yn oed wedi meddwl weithiau sut fyddai hi y tu allan i’r swigen elusennol.

Gwnaeth pethau fel saga Captain Tom y llynedd fy ngwneud i’n drist a chrac iawn. Y storïau negyddol hyn sydd bob amser yn cipio’r penawdau, ac rydym yn gwybod y byddant yn niweidio’r ymddiriedaeth mewn elusennau am flynyddoedd i ddod, ymddiriedaeth sydd wedi bod yn dychwelyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ond un o’r rhesymau pam rydw i’n dal ati yw am fy mod yn dwli ar yr hyn rydw i’n ei wneud, rwy’n CREDU yn yr hyn rydw i’n ei wneud, ac rwy’n gwybod mod i’n gwneud gwahaniaeth. Rwy’n dewis bod yn optimistaidd, ac yn edrych ymlaen at 2025 fel blwyddyn codi arian.

BETH AM FY ADDUNEDAU?

Wel eleni, rwy’n mynd i wneud ymdrech go iawn i wneud ychydig o bethau newydd. Mae hwn yn teimlo fel amser gwych i godwyr arian brofi a dysgu. Gwn, gallaf eich clywed chi’n dweud, ‘gall fod yn anodd dod o hyd i fuddsoddiad mewn codi arian’, ond mae bob amser ffyrdd o amgylch hyn. Dyma rai pethau sydd gennyf ar fy rhestr o bethau i’w gwneud eleni:

  • Dod yn gysurus â deallusrwydd artiffisial (AI)

Mae’n siŵr ei bod hi’n deg dweud ‘mod i ychydig yn hen ffasiwn pan ddaw hi i dechnoleg, ac fel mileniad cadarn, rwy’n teimlo fy mod ar ei hôl hi’n fawr gyda’r holl ddatblygiadau newydd sydd i weld yn digwydd ar garlam. Wedi dweud hynny, fe lwyddais i symud o Facebook i Instagram, felly pwy a ŵyr?

Eleni, rwy’n mynd i weld sut gall AI fy ngwneud i’n fwy effeithlon, ac arbed amser i mi gyda gwaith gweinyddol a thasgau eraill sy’n mynd â llawer o adnoddau ac sydd (o bryd i’w gilydd!) yn ddiflas tu hwnt. Gobeithio bydd hyn yn rhyddhau amser i …

  • Gymryd rhai risgiau pwrpasol ac arloesi

Rwyf wedi teimlo ers cryn amser bod y sector codi arian i elusennau ychydig yn geidwadol yn ei ffyrdd. Mae’n teimlo fel petai arloesedd codi arian yn cael ei roi i’r elusennau mwy o faint chwarae ag ef a dangos y ffordd, ond pam ddylen nhw gael yr hwyl i gyd!? Rwy’n credu bod cyfleoedd i arloesi yma yng Nghymru hefyd, felly pam nad ydyn ni’n gwneud mwy ohono?

Wrth gwrs, gall fod yn heriol os ydych chi’n profi faint o risg gall eich elusen ei goddef, ond rwy’n credu gyda chynllunio gofalus, bod profi rhai syniadau codi arian newydd yma yng Nghymru yn gwbl bosibl. Wedi hynny, byddaf hefyd yn …

  • Meddwl am sut i fanteisio i’r eithaf ar godi arian yn ddigidol

Mae codi arian yn ddigidol yn dal i deimlo ychydig fel un o’r galaethau hynny yn Star Trek nad anturiodd neb iddi. Efallai ein bod ni wedi’i mapio ac wedi gwneud llawer o’r gwaith paratoadol, ond i lwyr feistroli’r gelfyddyd ddu, rhaid i ni lwyr ddeall eu potensial.

Nid dim ond Google Adwords mo hyn. Mae gan lawer o fusnesau strategaethau digidol hynod soffistigedig. Eleni, rwy’n mynd i edrych ar sut gall codi arian yn ddigidol ddod yn ffrwd incwm gwbl ffurfiedig a thrawsnewidiol. Mae’n bosibl y bydd arnaf angen ychydig o gymorth gan fy ffrindiau, felly i wneud hynny, byddaf yn …

  • Pwyso ar fy rhwydwaith o gydweithwyr ac yn ei ehangu

Ar ôl gweithio yn y maes codi arian am fwy na 16 o flynyddoedd, mae’n deg dweud fy mod wedi cwrdd â chryn dipyn o bobl dros y blynyddoedd, a choeliech chi byth, ond maen nhw’n bobl hyfryd! Rwyf hefyd yn falch o fod yn Gadeirydd y Sefydliad Siartredig Codi Arian (CIOF) yng Nghymru.

Pan ymunais â’r pwyllgor yn gyntaf yn ôl yn 2014, roedd yr aelodau trawiadol, uchel eu bri yn ddigon i godi ofn arnaf. Mae pobl wedi mynd a dod o’r pwyllgor dros y blynyddoedd, ond mae’n parhau i fod yn lle i wneud ychydig o hud (a drygioni!).

PŴER CYSYLLTIAD

Un peth rwyf wedi’i gael o gymryd rhan weithredol yn y sector codi arian yw amrywiaeth o gydweithwyr o bob cefndir a phob rhan o’r sector. Rydyn ni’n bobl amrywiol. Y cysylltiadau hyn rwyf wedi dechrau eu gwerthfawrogi’n go iawn yn ddiweddar, a byddaf yn manteisio i’r eithaf ar y rhain y flwyddyn hon.

I unrhyw un sy’n dechrau yn y sector, neu hyd yn oed rywun sydd wedi bod yma ers tro byd, fydden i’n dweud mai dyma’r un peth sy’n rhaid i chi ei gael. Rydyn ni’n siarad llawer am wydnwch yn y byd codi arian, a daw llawer o’m gwydnwch i o’r ffrindiau rwyf wedi’u gwneud yn y sector.

CANOLBWYNTIWCH AR EHANGU EICH RHWYDWAITH YN 2025

Os ydych chi’n chwilio am adduned Blwyddyn Newydd yn 2025 felly, beth am ehangu eich rhwydwaith? Mae gennym ni rai digwyddiadau newydd gwych ar droed, felly edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol, neu anfonwch neges atom ni os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu eich digwyddiad codi arian eich hun yma yng Nghymru.

I ddwyn is-bennawd tîm pêl-droed Cymru, Gorau Chwarae Cyd Chwarae.  Ymlaen Cymru!

Cadwch mewn cysylltiad â ni ar LinkedIn, neu anfonwch e-bost i Cymru@ciof.org.uk.

I gael gwybod sut i ddod yn aelod o CIOF ewch i ciof.org.uk/membership (Saesneg yn unig).