Balwn porffor yn hedfan mewn seremoni gwobrwyo gyda logo Chwarae Teg

Ffyrdd newydd o weithio i Chwarae Teg

Cyhoeddwyd: 09/06/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Hayley Dunne

Mae Hayley Dunne, Cyfarwyddwr Cyflenwi i elusen cydraddoldeb rhywiol Chwarae Teg, yn ysgrifennu am sut maent wedi newid eu gwasanaethau i gyd-fynd â ‘normal newydd’ y pandemig coronafeirws.

Arddangos anghydraddoldeb

Yn allweddol, fel elusen cydraddoldeb rhywiol blaenllaw Cymru, rydym yn rhoi ein traed ar y blaen wrth dynnu sylw at yr effaith niweidiol y mae Covid19 yn ei chael ar fenywod.

Drwy ymchwil, erthyglau yn y cyfryngau a gweithio gyda Llywodraeth Cymru rydym yn coladu ac yn cyhoeddi tystiolaeth sy’n dangos yr anghydraddoldeb sydd wedi ymwreiddio a danlinellwyd gan y pandemig.

Symud arlein

Yn fewnol mae Chwarae Teg wedi croesawu gweithio ystwyth ers rhai blynyddoedd felly rydym yn ffodus i fod yn barod ar gyfer gweithio o gartref.

Fodd bynnag, wrth gwrs rydym yn awr yn cyfathrebu’n amlach ac mewn ffyrdd ehangach gyda staff a phartneriaid i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael trafferth neu’n teimlo’n arunig.

Darparu gwasanaethau

Mae ein timau hefyd wedi bod yn gyflym i symud cyflenwi llawer o’n rhaglenni, prosiectau a digwyddiadau i lwyfannau ar-lein.

Drwy addasu ein darpariaeth rydym yn helpu menywod sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen datblygu gyrfa i sicrhau eu bod yn cwblhau eu cyrsiau drwy ddatblygu a chyflwyno cyfres o weminarau, ochr yn ochr â chymorth personol parhaus.

I’r rheini sy’n cychwyn allan ar eu taith datblygu gyrfa gyda Chwarae Teg, mae ein timau menywod ac ymgysylltu wedi bod yn cydweithio i ddatblygu ffyrdd y cynigir ein sesiynau hyfforddi a ‘dod i adnabod chi’ – gan ddefnyddio systemau newydd a ffyrdd o gyfarfod, gan gynnwys ar draws Teams, Skype a WhatsApp.

Gan symud ymlaen i’r cam nesaf o gyflwyno i grŵpiau, rydym wedi symud ein cyrsiau i fenywod ymlaen o fis Gorffennaf i nawr ddechrau ym mis Medi, ac rydym yn cynllunio ymlaen llaw i gyflawni hyn yn cwbl rithwir yn y dyfodol os yw ymbellhau cymdeithasol yn dal yn ei le.

Rydyn ni hefyd wedi bod yn brysur yn cefnogi sefydliadau a busnesau drwy gyflwyno gweminarau perthnasol a rhoi cymorth i’w helpu i ddiwallu eu hanghenion trawsnewid.

Gwneud iddo digwydd

Yn wir, pan ddaw i fusnes, mae menter newydd ein hunain – ‘GWNEUD IDDO DDIGWYDD’ -ar y cyd â NatWest a Simply Do Ideas, am cymryd y ffurf o ddigwyddiadau ar-lein yn hytrach na rhai gwirioneddol fyw.

Nod y cynllun yw annog 100oedd o fenywod o bob cefndir sydd â syniad busnes llosg i fod yn rhan o’r cam cyntaf tuag at ei wireddu – ac rydym yn gobeithio y bydd darparu’r digwyddiadau ar-lein yn galluogi hyd yn oed mwy o fenywod i gyfranogi.

Byddem yn hoffi clywed sut mae’ch mudiad yn addasu i’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan y pandemig coronafirws. Cysylltwch â’r tîm i drafod.