Mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru, yn adrodd ar lansio’r Fframwaith ar gyfer Gwirfoddoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
GWEINIDOG YN CLODFORI’R FFRAMWAITH
Mynegodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ei diolch i’r gwirfoddolwyr a gamodd i’r adwy yn ystod y pandemig. Mewn neges galonogol, y gallwch chi wrando arni , datganodd y Gweinidog fod angen adeiladu ar y momentwm a grëwyd gan ddatblygu arloesi a gwelliannau ar draws Cymru ac ailosod statws gwirfoddoli.
Gwelwyd enghreifftiau o wirfoddoli mwy ingol yn ystod y pandemig sy’n dangos, mewn ffyrdd ymarferol, y ddamcaniaeth a’r egwyddorion y mae’r Llywodraeth yn eu cefnogi yn ei rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.
Dywedodd y Gweinidog, ‘Ein nod yw gosod gwirfoddoli yn rhan annatod a gwerthfawr o’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol gan integreiddio gwirfoddoli yn rhan o wead ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol’.
Clodforodd y Fframwaith gan nodi ‘y caiff goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer CGGC ac ar gyfer yr holl fudiadau sy’n gwreiddio’r holl ddysgu’.
ADNODD AMSEROL
Wrth gyflwyno’r sesiwn, a gynhaliwyd yn ystod digwyddiad gofod3, dywedodd y Cadeirydd, Ruth Marks, fod y Fframwaith yn amserol o ran ymrwymiad Llywodraeth Cymru i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Dywedodd, ‘Mae hefyd yn amserol am nad yw gwirfoddoli byth wedi bod dan y sbotolau cymaint ag y mae wrth i ni adael yr ymateb i bandemig Covid.’
‘Mae’n rhaid i ni sicrhau bod gwirfoddoli wedi’i glymu’n rhan o’n ffyrdd o weithio wrth symud ymlaen, ar draws gofal yn y gymuned, mewn lleoliadau gofal ac ysbytai a gan effeithio ar bobl bob oedran.’
CADW’R ENILLION
Datblygwyd y Fframwaith gan Helplu Cymru, Comisiwn Bevan, Gofal Cymdeithasol Cymru, a Richard Newton Consulting, a chafodd ei ariannu gan Grant Adfer ar ôl Coronafeirws Llywodraeth Cymru ar gyfer gwirfoddoli. Mae’n ganlyniad proses ailadroddol gan gynnwys cynnal grwpiau ffocws â 169 o bobl o 89 o fudiadau, derbyn ymatebion i arolygon gan 107 o unigolion, a chynnal sgyrsiau un i un â dylanwadwyr allweddol, ac mae pob un wedi llunio cynnwys a fformat yr adnodd.
Esboniodd Fran Targett, Cadeirydd Helplu Cymru, pam bod angen y Fframwaith. ‘Mae gwirfoddoli bob amser wedi bod yn bwysig yn ein sector iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ystod pandemig Covid, newidiodd ffyrdd cyflenwi yn gyflym, datblygwyd gwasanaethau newydd, a rhoddwyd cymorth allweddol i’r bobl yr oedd ei angen arnynt – ac ymdeimlad go iawn o gymunedau’n tynnu ynghyd. Profwyd y sector preifat a’r sector cyhoeddus yn ymgysylltu â gwirfoddoli mewn ffordd wahanol, cafwyd mwy o gyd-gynhyrchu a llai o fiwrocratiaeth.’
‘Profwyd yr angen i ni gadw’r enillion a’r newidiadau hynny wrth symud i gyfnod o adfer ar ôl y pandemig’.
SUT GALL Y FFRAMWAITH FOD O GYMORTH
Mae’r Fframwaith yn adnodd PDF ar-lein rhyngweithiol a hygyrch sy’n mynd i’r afael â chwe chwestiwn craidd ynghylch gwirfoddoli. Mae’n ystyried pob cwestiwn o bedwar safbwynt gwahanol: comisiynwyr a chynllunwyr, mudiadau cyflenwi, grwpiau cymunedol, a mudiadau seilwaith/aelodaeth.
Mae’r ddogfen yn cynnwys dolenni i adroddiadau, adnoddau ac erthyglau arfer gorau sy’n rhoi gwybodaeth fwy fanwl am faterion penodol ac i astudiaethau achos fideo sy’n dangos sut mae gwirfoddoli yn cael ei gyflenwi mewn cyd-destunau gwahanol.
‘Nid yw’n rhoi atebion am fod yn rhaid i’r rhain fod yn gyd-destun benodol’, esboniodd Fran Targett ‘ond mae’n annog meddwl am sut mae gwirfoddoli yn cefnogi ac yn gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd newydd.
‘Gobeithiwn y bydd yn helpu i integreiddio gwirfoddoli yn rhan o brosesau cynllunio gwasanaethau. Mae angen rhoi ystyriaeth fwy cyson, er enghraifft, o ran gwerth unigryw gwirfoddolwyr a chostau cyflenwi a chefnogi ymdrechion gwirfoddoli.’
ECOLEG GYMHLETH
Disgrifiodd Richard Newton, partner cyflenwi prosiect, ‘ecoleg gymhleth’ gwirfoddoli a nododd rai o’r heriau a leisiwyd gan y rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect.
‘Mae gwirfoddoli’n cyrraedd yn bellach nag y mae’r mwyafrif o bobl yn ei sylweddoli’, dywedodd ef. ‘Ar yr un llaw, mae gennym ni ymatebion hynod o leol sy’n seiliedig ar y gymuned gan bobl efallai nad ydynt yn cydnabod eu bod yn wirfoddolwyr. Ar y llaw arall, ceir gwasanaethau a gomisiynwyd a rhaglenni gwirfoddoli sy’n cyd-weddu neu sy’n gwella gwasanaethau cyhoeddus. Gall gwirfoddoli gael ei threfnu ar lefel y Deyrnas Unedig gyfan neu ar lefel leol iawn. Roedden ni am gynrychioli hyn oll yn y Fframwaith hwn.
HERIO A GWELLA
‘Roedd paru cyflenwad a galwad gwirfoddolwyr yn ystod y pandemig yn her, yn enwedig ar ôl yr alwad gan Lywodraeth San Steffan,’ adroddodd Richard Newton.
‘Cafwyd rhwystredigaethau yn ogystal’, dywedodd, ‘gan fudiadau, mawr a bach, nad oeddent yn gallu ymgysylltu â chyrff statudol er mwyn gallu chwarae eu rhan yn yr ymateb i bandemig Covid.’
‘Cododd ein sgyrsiau gwestiynau ynghylch effaith ac adnoddau – sut i fesur gwerth gwirfoddoli a sut i’w gynrychioli mewn trafodaethau am gynllunio. A yw comisiynwyr yn ystyried gwirfoddoli yn rhan hanfodol ac arbennig o’r cymysgedd?’
Mae’r Fframwaith yn cynnwys matrics hunan-asesu lle y gall mudiadau ddyfarnu eu sgôr eu hunain ar raddfa o 1 i 5 a gallant lenwi cynllun gweithredu ar welliannau eu mudiad. Byddai’r sgôr uchaf yn adlewyrchu sefyllfa lle y caiff gwirfoddoli ei gydnabod, yn yr hirdymor ac yn derbyn digon o adnoddau.
‘Byddai angen newidiadau strwythurol o ran polisi a deddfwriaeth er mwyn cyrraedd y sgoriau uchaf’, meddai Richard Newton, ‘Ac mae’r rhain yn seiliedig ar argymhellion yn adroddiad ein prosiect. Bydd y rhain yn gofyn am fomentwm ar y cyd a lobio’.
CYDWEITHIO
Wrth ymateb i’r Fframwaith, canmolodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, yr hyn a ddisgrifiodd yn ‘ymdrech gyd-gynhyrchiol’. ‘Mae pandemig Covid wedi adnabod ein bod ni’n dibynnu ar ein gilydd i oroesi’n dda,’ dywedodd hi. ‘Bydd y Fframwaith hwn yn cynorthwyo â hyn yn anferthol.
‘Mae angen i ni weld a oes modd gwneud llwybrau llygad lle y gallwn ni fabwysiadu arfer gorau; i atal ailddyfeisio’r olwyn ac i ddefnyddio ein hymdrechion ar y cyd i’n helpu ni i gyrraedd pen y daith yn gyflymach. Bydd cyd-fuddion gwirfoddoli – i’r gwirfoddolwr ac i’r rhai sy’n derbyn cymorth gwirfoddolwyr – yn ein helpu ni ar y daith at adfer ar ôl Covid yn llawer gyflymach. Yn wir, mae’n elfen hanfodol o adfer ar ôl Covid ac o wydnwch cymunedol ar draws Cymru.’
DEFNYDDIWCH Y FFRAMWAITH A CHADWCH MEWN CYSYLLTIAD
Mae adnodd yn defnyddiol os caiff ei ddefnyddio yn unig! Felly, hoffem eich annog chi i’w ddefnyddio, i’w rannu, ac i roi gwybod i ni am yr hyn sy’n digwydd o ganlyniad i hynny. Byddaf yn hapus i’w gefnogi yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd ac i glywed unrhyw adborth neu awgrymiadau ynghylch sut y gellir gwella fersiwn yn y dyfodol.
Anfonwch neges e-bost ataf yn fliddell@wcva.cymru
Mae’r Fframwaith ar gael ar wefan Helplu Cymru.
Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli o ran cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu cofrestrwch yma i dderbyn diweddariadau drwy e-bost (dewiswch yr opsiwn ‘Gwirfoddoli Iechyd a Gofal’).