Ceri ar lawr ffatri ailosod dodrefn yr MTIB (Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful), rhan o’u prosiect Cynhwysiant Gweithredol

Ffarwel o Dîm Ewropeaidd y Trydydd Sector

Cyhoeddwyd: 30/06/23 | Categorïau: Cyllid,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Lilla Farkas

Mae Lilla Farkas o Dîm Ewropeaidd y Trydydd Sector (3-SET) yn edrych yn ôl ar 22 mlynedd o gefnogi’r sector gwirfoddol i gael mynediad i gyllid Ewropeaidd.

Mae’n ddiwedd cyfnod i CGGC wrth i Dîm Ewropeaidd y Trydydd Sector (3-SET) ffarwelio â ni’r haf hwn. Mae gwaith y tîm 3-SET presennol wedi’i adeiladu ar lwyddiant ei ddau brosiect rhagflaenol sy’n dyddio’n ôl i 2001, a gyllidwyd yn llwyr gan y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cymorth sydd wedi’i roi dros yr 20 mlynedd ddiwethaf a mwy wedi galluogi’r sector gwirfoddol yng Nghymru i elwa ar gyllid Ewropeaidd mewn ffordd unigryw o’i gymharu â gwledydd eraill. Mae’r cyllid hwn wedi cefnogi mudiadau, cymunedau ac yn bwysicach oll, pobl, a allai fod wedi ei chael hi’n anodd cael gafael ar ddarpariaeth prif ffrwd arall.

Rydym wedi rhoi llais i’r sector o ran cael rhywfaint o reolaeth dros sut mae’r rhaglenni cyllido wedi’u dylunio a’u cyflwyno. Mae wedi helpu mudiadau i ddatblygu ac adeiladu ar eu gwybodaeth a’u sgiliau o ran rheoli a darparu ffrydiau cyllido cymhleth ac wedi rhoi lle i ddatblygu cydberthnasau cydweithredol ar draws sefydliadau a sectorau, yma yng Nghymru ac o fewn yr UE.

Er mai’r un nodau a gweithgareddau cyffredinol roedd y prosiectau hyn yn eu dilyn dros y blynyddoedd, bu modd i’r sector ddylanwadu a chanolbwyntio’r gweithgarwch i fynd i’r afael â’r anghenion penodol roedd mudiadau a chymunedau yn eu hwynebu ym mhob cyfnod cyllido.

UNED CYMORTH Y SECTOR GWIRFODDOL

Dechreuodd y cwbl gyda lansiad Uned Cymorth y Sector Gwirfoddol (VSSU) yn 2001, a ddyluniwyd i helpu’r sector gwirfoddol i fod yn rhan o’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd o dan gyfnod cyllido 2000-2006. Yn ogystal â rhoi cymorth ymarferol i fudiadau, gwnaeth y prosiect hefyd alluogi CGGC i ehangu a chryfhau rôl y sector yn llywodraethiant a throsolwg strategol y Cronfeydd Strwythurol, trwy gynrychiolaeth ar grwpiau llywio a phartneriaethau fel y Pwyllgor Monitro Rhaglenni.

3-SET YNG NGHYFNOD CYLLIDO 2007-2013

Gan adeiladu ar brofiad a llwyddiant prosiect VSSU, lansiodd CGGC brosiect Tîm Ewropeaidd y Trydydd Sector (3-SET) yn 2008. Yn ystod cyfnod cyllido 2007-2013, gwelwyd dull mwy strategol yn cael ei gyflwyno o ran sut roedd cyllid yn cael ei ddyrannu yng Nghymru. Gwnaeth hyn olygu bod cyllid yn mynd i lai o brosiectau, ac i brosiectau mwy, gan gyflwyno her fawr i’r sector wrth geisio cael gafael ar y cymorth hanfodol hwn.

Symudodd 3-SET i roi ffocws strategol ar ei gymorth er mwyn sicrhau bod y sector yn cael eu cynorthwyo yn y modd mwyaf priodol. Gwnaethant hwyluso rhwydweithio rhwng mudiadau a oedd yn elwa ar Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, a chynrychioli’r sector mewn trafodaethau ar lefel strategol. Ynghyd â hyn, roedd 3-SET hefyd yn gweithio fel rhan o rwydwaith ehangach y Timau Ewropeaidd Gofodol (SET) (a enwyd yn rhwydwaith Timau Ewropeaidd Arbenigol yn ddiweddarach), gan ategu gwaith y pedwar SET rhanbarthol a arweiniwyd gan awdurdodau lleol.

3-SET YNG NGHYFNOD CYLLIDO 2014-2020

Yn 2014, cyhoeddwyd y gwerthusiad terfynol o 3-SET. Gwnaeth yr adroddiad hwn amlygu llwyddiant y prosiect a’r galw sylweddol am ei wasanaethau. Yn sgil hyn, dangosodd bod angen i’w wasanaethau barhau yn y rhaglen gyllido nesaf, ac argymhellwyd hyn yn ddiweddarach.

Daw hyn â ni i 2015, pan lansiwyd y gweithrediad cymorth technegol presennol, gan ddefnyddio dull deubig y tro hwn. Golygai hyn y byddai CGGC, ynghyd â darparu 3-SET, yn Gorff Cyfryngol hefyd, gan ei alluogi i ddosbarthu cronfeydd Ewropeaidd ar ran Llywodraeth Cymru. Corff Cyfryngol CGGC yw’r unig gorff sector gwirfoddol o’i fath yn y DU, a gwnaeth sefydlu hyn gydnabod pa mor effeithiol a llwyddiannus oedd cysylltiad y sector gwirfoddol yn y rhaglenni cyllido hyd yma.

Y REFFERENDWM

Daeth y foment ddiffiniol ar gyfer 3-SET lai na blwyddyn i mewn i’r prosiect: gwnaeth canlyniad refferendwm Brexit ychwanegu ffrwd waith newydd at raglen waith 3-SET. Nid oedd hyn wedi’i ragweld pan ddechreuodd y prosiect, ond diolch i ddyluniad hyblyg y gweithrediad, bu modd i 3-SET ymateb yn gyflym. Cafodd y tîm ei osod mewn sefyllfa unigryw i roi cymorth a chyfeiriad strategol i’r sector gwirfoddol ar adeg ansicr tu hwnt. Gwnaeth yr heriau ddwysau gyda phandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Y flaenoriaeth nawr oedd canolbwyntio ar ddiogelu etifeddiaeth cyllid Ewropeaidd a helpu’r sector i bontio i’r dirwedd gyllido newydd a chymharol anhysbys hon.

Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n ceisio disodli’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd gyda Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, symudodd 3-SET yn gyflym i ddeall, llywio a dylanwadu ar ei datblygiad. Dros y blynyddoedd, mae’r tîm wedi ymhél ag ystod eang o randdeiliaid a gweithredwyr gwleidyddol, gan gynrychioli sefyllfa ehangach y sector gwirfoddol ynghylch sut y mae angen i drefniadau cyllido’r dyfodol weithio i’n cymunedau ni ledled Cymru.

EDRYCH YN ÔL AC YMLAEN

Gyda 3-SET ar fin dod i ben, mae nawr yn amser da i edrych yn ôl ar y ddau ddegawd diwethaf o gymorth cyllido, ac i edrych ymlaen at y dyfodol. Wrth edrych yn ôl, mae cyllid yr UE wedi chwarae rhan fawr mewn gwella bywydau llawer o bobl yng Nghymru, fel yr amlygwyd yn ddiweddar yn ein hadroddiad effaith – ac mae CGGC yn falch o fod wedi helpu i gyflawni hyn.

Wrth edrych ymlaen, mae’n amlwg fod llawer o gwestiynau heb eu hateb o hyd a chyfleoedd i wella darpariaeth y ffrydiau cyllido sydd wedi disodli’r cyllid Ewropeaidd. Mae marc cwestiwn o hyd o ran o ble y bydd y capasiti a’r cymorth yn dod ar gyfer y gwaith hwn.

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cydweithio, cefnogi a gweithio ochr yn ochr gyda mwy o bobl a mudiadau na allwn ni eu henwi, ond hoffwn ddiolch i bob yr un ohonoch chi am ddod ar y daith hon gyda ni. Efallai nad yw’r bennod nesaf yn glir eto, ond rydyn ni’n ffyddiog y bydd y sector yn parhau i wneud effaith bositif ar ein cymunedau yng Nghymru!