Mae Dr Amy Sanders o Brifysgol Aberystwyth a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar y sector gwirfoddol, gan edrych ar ei strwythurau a’i bartneriaethau, y cydberthnasau â Llywodraeth Cymru a’i waith ar gydraddoldeb, ymhlith pethau eraill.
Mae wedi cyflwyno rhai o’i chanfyddiadau mewn cyfres o fideos newydd o’r enw Mwg Ymchwil. Yma, mae’n rhoi mewnwelediad i’r hyn y maen nhw’n ymwneud ag ef.
Yr hyn yr wyf am i bobl ei wybod am y Mwg Ymchwil yw ei fod yn gyfres hawdd ei llyncu o ffilmiau byr a ddylai fod yn ddefnyddiol, waeth a ydych yn uwch-reolwr yn y sector gwirfoddol sy’n gobeithio cyflawni newid NEU’n swyddog gyda’r llywodraeth sy’n gweithio’n agos gyda’r sector.
Yn rhy aml o lawer, mae ymchwilwyr yn methu ag amgyffred yr hyn a allai fod o ddiddordeb i’r sector neu sut i gyfleu eu gwaith ymchwil mewn modd a fyddai’n cael effaith ar arferion y sector. Gan ystyried fy nghefndir, roeddwn yn benderfynol o wneud yn siŵr bod fy ngwaith ymchwil yn hygyrch ac yn ddefnyddiol i’n sector gwirfoddol anhygoel yng Nghymru ac i’r rheini sy’n ei gefnogi. Ond, roeddwn eisiau lleihau unrhyw alwadau ar weithredwyr polisi prysur. Fy nod yw galluogi pobl i edrych ar agweddau ar y gwaith ymchwil sydd o ddiddordeb iddynt. Bwriedir i bob Mwg Ymchwil fod yn ddarn o wybodaeth hawdd ei lyncu y gellir edrych arno yn ystod amser coffi, yn yr amser y mae’n ei gymryd i chi yfed paned mewn diwrnod gwaith arferol.
PAM DDYLECH CHI EU GWYLIO?
- Os ydych yn uwch-reolwr yn y sector gwirfoddol: yna gallwch ddysgu am ffyrdd llwyddiannus i ddylanwadu ar bolisi (Diwrnod 1), neu am y gwahanol strwythurau sy’n bodoli o fewn rhwydwaith y trydydd sector (Diwrnod 2).
- Os ydych yn un o swyddogion Llywodraeth Cymru: yna dewch i ddeall am bwysigrwydd y gydberthynas rhwng Llywodraeth Cymru/y Trydydd Sector (Diwrnod 1), ystyried pa newidiadau fyddai’n galluogi’r gydberthynas i ddatblygu (Day 6), neu ddysgu am yr hyn y gallwch ei wneud i wella prosesau gosod agendâu (Diwrnodau 3,4,6).
- Os yw eich bryd ar bolisïau cydraddoldeb: yna edrychwch ar yr hyn a all fygwth cynrychiolaeth gydraddoldeb (Diwrnod 3), sut i oresgyn rhwystrau wrth ddefnyddio croestoriadedd yn y broses o greu polisïau (Diwrnod 4), sut i gyflawni cyfle cyfartal yn y synnwyr strwythurol (Diwrnod 5) neu sut gall Cymru barhau i yrru’r broses o lunio polisïau cyfartaledd (Diwrnod 7).
Pethau ymarferol i wybod amdanynt wrth wylio’r fideos hyn: (a) Mae saith fideo a darn rhagarweiniol byr, a phob un gyda thema ac argymhellion eglur. Caiff pob fideo ei ryddhau ar ddiwrnodau gwaith dilynol. (b) Mae eu hansawdd fel fideos cartref gan fod y ffilmio wedi’i wneud yn fy amser rhydd yn ystod y cyfnod clo. (c) Byddem yn awgrymu ffonau clust i bobl sy’n gweithio mewn swyddfa a rennir. (d) Gellir cael briff polisi cysylltiedig yn ôl y gofyn. (e) Mae rhai prosesau wedi newid ers i mi gyflawni’r gwaith ymchwil hwn*.
Nod y Mwg Ymchwil: Cefais y syniad yn ystod y pandemig, pan sylweddolais fod llwyth gwaith pobl wedi treblu. O ganlyniad, roedd yr arwyr hyn ar y rheng flaen wirfoddol yn haeddu hoe a chyfle i fuddsoddi yn eu hunain. Ynghyd â hyn, mae’r fideos hyn yn ffordd o ddweud diolch i CGGC**, Llywodraeth Cymru a’r mudiadau cydraddoldeb a gyfrannodd at yr ymchwil hwn. Roeddwn hefyd yn awyddus i sicrhau bod y gwaith ymchwil hwn yn fuddiol i’r trydydd sector ehangach ac i gymunedau yng Nghymru. Y rhain oedd fy nodau, ond chi ddylai benderfynu a ydw i wedi llwyddo. Dyma beth mae pobl eraill wedi’i ddweud:
‘Llongyfarchiadau mawr i chi ar y gwaith ymchwil hwn a’r ffordd rydych chi wedi’i becynnu,’ meddai un uwch-reolwr o’r sector gwirfoddol. ‘Mae fel chwa o awyr iach. Rwy’n dwli ar y ffordd rydych chi wedi defnyddio’r hyn y gwnaethoch chi ei ddysgu o’r gwaith ymchwil i lywio’r ffordd orau o’i gyflwyno fel darn bach o ddysgu y gellir ei ddefnyddio gan bobl brysur yn y sector.’
Nododd adborth gan uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru: ‘Rwy’n arbennig o ddiolchgar i chi am yr ystyriaeth a roddwyd i gyflwyno’r rhain ar fformat nad oedd yn rhoi gormod o faich ychwanegol ar y derbynyddion ac i geisio rhoi seibiant i ni o bethau eraill.’
MYNEDIAD
Dyma ddolen i’r Cyflwyniad i’r Mwg Ymchwil (Saesneg yn unig), sy’n dri munud a hanner o hyd. I weld y lleill, chwiliwch am @AmySandersA1 neu @WCVACymru ar Twitter neu cysylltwch â Dr Amy Sanders ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd fideo Mwg Ymchwil newydd yn ymddangos ar Twitter bob diwrnod gwaith rhwng 1 Tachwedd a 10 Tachwedd.
* E.e., Cynhelir etholiadau ar gyfer rôl cynrychiolaeth y TSPC bob pum mlynedd bellach. Fel arfer, dim ond un cyfarfod cynllunio a gynhelir nawr ar gyfer pob cyfarfod gweinidogol ffurfiol, ac mae CGGC yn defnyddio is-grwpiau gorchwyl a gorffen bellach yn lle un gweithgor TSPC i fynd i’r afael â materion penodol.
**Nid yw CGGC wedi bod yn rhan o’r gwaith o gynhyrchu’r fideos hyn a Dr Sanders ddaeth i ganfyddiadau’r gwaith ymchwil ei hun, yn gwbl annibynnol ar CGGC.