External shot of signage for a polling station

Etholiadau’r Senedd 2026: datblygiadau a themâu allweddol

Cyhoeddwyd: 27/04/26 | Categorïau: Dylanwadu,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Shaun Bendle

Gydag etholiadau’r Senedd yn agosáu, ein Swyddog Polisi a Mewnwelediadau, Shaun Bendle, sy’n rhoi trosolwg o ddatblygiadau a themâu ar gyfer y sector gwirfoddol.

Gydag wythnosau yn unig i fynd tan etholiad y Senedd 2026, mae’n ymddangos y bydd yn un o’r etholiadau mwyaf cystadleuol a dramatig yn hanes gwleidyddol Cymru. Gall fod yn anodd deall beth sy’n digwydd ac i ba gyfeiriad yr ydym ni’n mynd.

CYHOEDDI YMGEISWYR

Mae cyfanswm o 675 o ymgeiswyr wedi’u cadarnhau fel rhai sy’n sefyll yn yr etholiad sydd ar ddod, cyfartaledd o 42 o ymgeiswyr ym mhob etholaeth. Bydd y seddi hyn yn cael eu hethol gan ddefnyddio system rhestr gyfrannol gaeedig newydd pan fydd pleidleiswyr yn dewis rhestr o ymgeiswyr a bennwyd ymlaen llaw o’r pleidiau gwleidyddol.

Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod o’r Senedd, ar draws 16 etholaeth, sy’n cyfateb i gyfanswm o 96 o Aelodau yn y Senedd estynedig. Gallwch ganfod mwy am y system bleidleisio newydd, neu pwy yw eich ymgeiswyr lleol, ar wefan newydd bwrwpleidlais.cymru y Comisiwn Etholiadol a Ffiniau.

PLEIDIAU GWLEIDYDDOL YN LANSIO EU MANIFFESTOS

Mae’r rhan fwyaf o’r pleidiau bellach wedi lansio eu maniffestos, sy’n nodi’r hyn y byddent yn ceisio ei gyflawni pe baent yn rhan o Lywodraeth nesaf Cymru. Mae polau piniwn wedi rhagweld yn gyson y bydd chwe phlaid yn ennill o leiaf un sedd yn yr etholiad sydd ar ddod. Yn ein digwyddiad hustyngau ym mis Mawrth ac ar draws ein gwaith ymgysylltu cyn yr etholiad, mae’r chwech wedi ailadrodd pwysigrwydd y sector ac wedi addo gweithio gyda ni yn nhymor y Senedd newydd. Gallwch ddarllen eu maniffestos ar eu gwefannau:

Mae sawl thema berthnasol wedi dod i’r amlwg ar draws y maniffestos, a amlinellir isod.

PERCHNOGAETH GYMUNEDOL

Mae Llafur Cymru, Plaid Cymru, Plaid Werdd Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno ‘hawl y gymuned i brynu’, gan fodloni cais hirsefydlog gan y sector. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i ‘hawl y gymuned i wneud cynnig’, gyda chefnogaeth y gronfa perchnogaeth gymunedol.

Mae’r mwyafrif o faniffestos hefyd yn cynnwys addewidion i annog creu mentrau cymdeithasol.

GOFAL IECHYD ATALIOL

Mae pob maniffesto yn canolbwyntio ar ofal iechyd ataliol. Mae hyn yn amrywio o ddeietau iachach a hyrwyddo ymarfer corff, i fanteision aer glanach, cartrefi cynhesach, a rôl diwylliant a chwaraeon wrth gefnogi llesiant. Mae hyn yn cyd-fynd yn gryf â galwad y CGGC i flaenoriaethu atal, gyda llawer o bleidiau yn cydnabod y rôl hanfodol y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae yn y maes hwn.

LLEOLIADAU CHWARAEON A DIWYLLIANT AR LAWR GWLAD

Mae’r chwe phlaid wedi addo cefnogaeth i leoliadau chwaraeon a diwylliannol cymunedol. Mae Reform UK yn canolbwyntio ar lesiant ieuenctid, gan addo buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon. Mae Llafur Cymru hefyd wedi addo buddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad a chefnogaeth i leoliadau cerddoriaeth. Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig rhyddhad ardrethi busnes i leoliadau celfyddydol a diwylliannol ar lawr gwlad. Yn yr un modd, byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cefnogi’r lleoliadau hyn wrth ddarparu cymorthdaliadau trafnidiaeth i wella mynediad mewn cymunedau gwledig.

Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar ddiogelu lleoliadau cymunedol a chynyddu mynediad i bobl leol. Mae Plaid Werdd Cymru wedi ymrwymo i wella mynediad at asedau cymunedol a diwylliannol drwy Fil Diwylliant a fyddai’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiogelu’r mannau hyn.

Mae llawer o fudiadau gwirfoddol yn dibynnu ar leoliadau cymunedol ar gyfer eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae’r amddiffyniad a’r buddsoddiad ynddynt yn cyd-fynd yn agos â maniffesto CGGC sy’n gofyn am well mynediad i fannau a rennir sy’n dod â phobl at ei gilydd.

Mae’r themâu hyn yn dangos bod tir cyffredin nid yn unig rhwng y pleidiau gwleidyddol, ond hefyd rhwng pob un ohonynt a’r sector gwirfoddol, gan ddarparu sylfaen i’r sector weithio’n adeiladol gydag unrhyw Lywodraeth Cymru a ddaw i mewn.

ANGEN MWY O WAITH

Mae’n siomedig gweld nad oes unrhyw addewidion newydd, penodol i sicrhau cyllid hirdymor i’r sector. Er bod rhai o’r pleidiau yn addo cyllid amlflwyddyn i awdurdodau lleol ac mae Llafur Cymru wedi addo parhau i hyrwyddo’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector, bydd angen gwneud mwy i roi sicrwydd i’r mudiadau gwirfoddol. Mae data Baromedr Cymru wedi dangos yn gyson fod y sector yn poeni am gynhyrchu incwm, gydag 81% o fudiadau yn nodi mai dyma’r brif broblem.

Mae Dyletswydd Cyllido Teg yn un o bum elfen ein cais am Ddeddf Partneriaeth y Sector Gwirfoddol. Er nad yw’n ymddangos ym maniffestos y pleidiau, fe wnaethom sicrhau cefnogaeth ffurfiol Plaid Werdd Cymru, tra bod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru, Llafur Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi y byddent yn barod i archwilio’r syniad.

SICRHEWCH EICH BOD YN GWYBOD Y DIWEDDARAF

Nid diwrnod yr etholiad fydd diwedd y broses. Mae polau piniwn yn awgrymu y gallai fod angen i bleidiau weithio gyda’i gilydd a chreu cytundebau cyn iddyn nhw allu cyflwyno rhaglen lywodraethu.

Bydd CGGC yn parhau i gynrychioli’r sector drwy gydol y broses hon ac yn eich rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau allweddol. Mae ein tudalen we etholiad y Senedd 2026 yn cynnwys gwybodaeth allweddol, dyddiadau a chanllawiau ar gyfer elusennau cyn yr etholiad.

Gallwch hefyd ymuno â’n rhwydwaith polisi, sy’n dod â phartneriaid o bob rhan o’r sector ynghyd i rannu mewnwelediadau polisi. Anfonwch e-bost i policy@wcva.cymru er mwyn cofrestru.