Gorsaf bleidleisio

Etholiadau 2022: Sut i gynnal hustyngau

Cyhoeddwyd: 02/03/22 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur: David Cook

Mae etholiadau’r llywodraeth leol ar fin digwydd, sy’n golygu y gallai eich mudiad fod yn ystyried cynnal hustyngau. Yma, mae David Cook, Swyddog Polisi CGGC, yn edrych ar sut gallwch chi wneud yn siŵr bod eich hustyngau yn cael eu cynnal yn ddiffwdan.

Mae etholiadau’r llywodraeth leol yn cael eu cynnal Mai yma ar hyd a lled Cymru a gweddill y DU.

Gallai hyn olygu bod eich mudiad yn ystyried cynnal digwyddiad hustyngau. Mae Hustyngau yn gyfle i chi a’ch aelodau, cefnogwyr neu bobl leol gwestiynu ymgeiswyr etholiadol ar y pynciau sy’n bwysig i chi a’ch cymuned.

Ond mae rhai pethau y dylech chi eu hystyried.

  • Yr ymgeiswyr: Bydd angen i chi ddarganfod pwy yw eich ymgeiswyr lleol. Gallai’r manylion hyn fod yn eich swyddfa gyngor leol neu ar wefan eich awdurdod lleol.
  • Gweithio mewn partneriaeth: Efallai y byddai’n werth ystyried a allwch chi gynnal hustyngau mewn partneriaeth â mudiadau eraill, efallai’r rheini â blaenoriaethau gwahanol i’ch rhai chi, er mwyn denu mwy o amrywiaeth o fynychwyr a chan hynny, eu gwneud yn fwy deniadol i ymgeiswyr etholiadol.
  • Y cadeirydd: Ni chaiff cadeirydd eich digwyddiad fod yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau’r Comisiwn Etholiadol – mwy ar y rheini’n ddiweddarach.
  • Trefnu: Sicrhewch nad oes digwyddiadau tebyg eraill yn cael eu cynnal yn eich ardal ar yr un dyddiad ac amser.
  • Gosod thema: Nid oes yn rhaid i’ch digwyddiad gael thema, ond fe allai thema helpu i roi ffocws – efallai y byddwch chi eisiau edrych ar sut gall eich ardal fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, neu rôl gwirfoddolwyr yn eich cymunedau.
  • Briffio: Efallai y byddwch chi eisiau rhoi ychydig o wybodaeth ychwanegol i ymgeiswyr i’w helpu i baratoi, yn enwedig os yw eich hustyngau’n canolbwyntio ar bwnc penodol. Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru hefyd wedi cynhyrchu ychydig o wybodaeth gyffredinol y gallech chi fod eisiau ei defnyddio.
  • Stiwardio: Mae cael stiwardiaid â meicroffonau wrth law bob amser yn ddefnyddiol mewn digwyddiadau o’r fath.
  • Fformat: A fydd gofyn i siaradwyr roi datganiadau agoriadol? A fydd cwestiynau yn cael eu derbyn ymlaen llaw? A fydd amser penodol yn cael ei neilltuo ar gyfer pob cwestiwn? A fydd ymgeiswyr yn ymateb i bob cwestiwn yn yr un drefn? Cofiwch, mae’n arfer da i gylchdroi pa siaradwyr fydd yn ateb pob cwestiwn yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd. Mae’n werth ystyried yr holl bwyntiau hyn ymhell cyn eich digwyddiad er mwyn sicrhau ei fod yn mynd yn llyfn.
  • Cyhoeddusrwydd: Sicrhewch fod eich digwyddiad yn cael ei rannu ymlaen llaw ar gyfryngau cymdeithasol, yn y wasg leol, drwy daflenni mewn canolfannau cymunedol neu feddygfeydd ac ati. Hefyd, sicrhewch fod lluniau o’r digwyddiad yn cael eu rhannu wedyn, eto drwy gyfryngau cymdeithasol a’r wasg leol.

Rheoliadau

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn monitro gweithgareddau ymgyrchu gwleidyddol am gyfnod cyn yr etholiadau. Mae hyn yn golygu na all eich digwyddiad ffafrio unrhyw blaid benodol, ac ni ddylai gael ei dehongli felly.

Wrth gynnal hustyngau, y ffordd orau o osgoi cyhuddiadau o ffafriaeth yw drwy sicrhau bod pob ymgeisydd yn eich ardal yn cael gwahoddiad i fynychu. Fodd bynnag, os oes amgylchiadau sy’n eich rhwystro rhag gwneud hyn, rhaid i chi allu rhoi rhesymau diduedd pam na chafodd rhai ymgeiswyr eu gwahodd, a rhaid i aelodau’r gynulleidfa gael gwybod pwy na chafodd ei wahodd a pham. Yn olaf, rhaid i’r ymgeiswyr a wahoddir gynrychioli amrywiaeth o sylwadau o wahanol feysydd o’r sbectrwm gwleidyddol a rhaid i bob un ohonynt gael cyfle teg i siarad ac ymateb i gwestiynau.

Mae’r Comisiwn Etholiadol hefyd yn monitro gwariant ar ymgyrchu yn ystod cyfnodau etholiadol. Er nad yw un digwyddiad hustyngau yn debygol o fynd y tu hwnt i’r terfynau gwario hyn, os yw’n rhan o becyn ymgyrchu y gallai eich mudiad fod yn ei wneud yn ystod cyfnod cyn-etholiadol y llywodraeth leol, mae’n hanfodol eich bod yn cadw llygad ar eich costau cyffredinol. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler ganllawiau’r Comisiwn Etholiadol neu anfonwch e-bost i infowales@electoralcommission.org.uk.

 

Os ydych chi’n bwriadu trefnu digwyddiad hustyngau, rydyn ni’n gobeithio y bydd yn llwyddiannus. Cysylltwch â policy@wcva.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.