Amlyga Lauren Swain, Rheolwr Datblygu Cymru ar gyfer Localgiving, rai o’r gweithgareddau codi arian y mae mudiadau yng Nghymru’n mynd ati i’w cynnal yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae cefnogaeth rhoddwyr tuag at ymgyrchoedd codi arian ar-lein yn ystod epidemig y coronafeirws wedi bod yn ddigyffelyb ac mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr i wasanaethau rheng flaen.
Beth yw Localgiving?
Cenhadaeth Mudiad Localgiving yw cryfhau’r sector gwirfoddol lleol drwy gefnogi elusennau a grwpiau cymunedol lleol i ddefnyddio technoleg i ehangu eu cyrhaeddiad a’u heffaith. Rydyn ni’n cynnal platfform codi arian ar-lein, localgiving.org, ac yn darparu hyfforddiant am ddim ar gyfer mudiadau nid-er-elw er mwyn eu galluogi i wella eu sgiliau digidol.
Mae codi arian ar-lein yn cyfeirio at yr holl roddion a gyflwynir drwy’r rhyngrwyd, fel arfer gan unigolion. Ni yw’r prif blatfform codi arian ar-lein annibynnol ac nid-er-elw a’r unig blatfform sy’n arbenigo mewn cefnogi mudiadau bach, llawr gwlad. Drwy ein platfform, rydyn ni wedi cynorthwyo dros 6,000 o elusennau a grwpiau cymunedol lleol i godi mwy na £25 miliwn. Rydyn ni wedi dosbarthu dros £5 miliwn mewn cyllid ychwanegol drwy grantiau a chyllid cyfatebol.
Rydyn ni’n rhedeg prosiectau ledled y DU sy’n darparu cymorth wedi’i deilwra, gan gynnwys hyfforddiant unigol a grŵp am ddim ar feistroli dulliau codi arian ar-lein, ynghyd â mentora parhaus. Mae’r prosiectau hyn hefyd yn darparu cyllid cyfatebol wedi’i glustnodi ar gyfer grwpiau er mwyn cefnogi eu hymdrechion codi arian ar-lein. Rydyn ni wedi bod yn cyflwyno rhaglen bwrpasol ar hyd a lled Cymru ers pedair blynedd i gefnogi elusennau a grwpiau cymunedol lleol, ac wedi cefnogi dros 350 o fudiadau ledled y 22 sir. Mae 93% o’r aelodau hyn wedi cael mwy o incwm o ganlyniad i’n cymorth. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio’n agos ag achosion lleol i gydlynu eu hymateb i’r Coronafeirws.
Sut mae grwpiau cymunedol ac elusennau llawr gwlad yn codi arian ar yr adeg hon yng Nghymru?
Rydyn ni eisoes wedi gweld cynnydd o 300% mewn rhoddion i fudiadau llawr gwlad gan ddefnyddio ein platfform. Mae’r cymorth hwn wedi dod mewn tair gwahanol ffordd:
- Diogelu gwaith ar gyfer y dyfodol
Yn gyntaf, mae rhoddion wedi’u cyflwyno i fudiadau i’w helpu i ddal ati yn ystod y cyfyngiadau symud ac i godi arian i ddychwelyd yn gryfach pan fydd modd i wasanaethau ailddechrau. Un enghraifft yw With Music in Mind, sy’n darparu grwpiau canu a chymdeithasol ar gyfer pobl hŷn i leihau unigrwydd a chynyddu llesiant. Maen nhw’n codi arian er mwyn aros ar agor a pharhau â’u gwaith cyn gynted â phosibl. - Rhoddion untro
Yn ail, mae tomenni o roddion untro wedi’u cyflwyno i fudiadau y mae’r cyhoedd yn ymwybodol iawn eu bod yn hanfodol yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn wedi’i weld yn bennaf ymhlith banciau bwyd. Mae banc bwyd Ynys Môn wedi codi dros £2,000 yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae banc bwyd Caerdydd wedi codi dros £20,000! Mae’r rhain yn wasanaethau sy’n helpu’r rheini sy’n wynebu’r realiti o fethu â bwydo eu hunain neu eu teuluoedd. Mae’r rhain yn arbennig o hanfodol i’r rheini sy’n wynebu mwy o galedi ariannol yn sgil colli gwaith, oediadau mewn talu budd-daliadau, salwch neu lai o incwm ar hyn o bryd.
- Cyllid torfol
Yn drydydd, mae nifer o fudiadau wedi lansio ymgyrchoedd cyllid torfol i sicrhau bod prosiectau sy’n cefnogi pobl agored i niwed yn gallu parhau, lansio neu addasu. Mae Localgiving eisoes yn gweithio gyda mwy na 30 o fudiadau i gyflenwi ymgyrchoedd cyllid torfol mewn ymateb i’r Coronafeirws. Mae un rhan o dair o’r mudiadau hyn yng Nghymru. Mae gwaith y rhain wedi’u canolbwyntio’n lleol, yn cyflenwi gwasanaethau i’r rheini mewn angen ar lefel llawr gwlad. Gellir gweld y rhestr gyfredol o fudiadau rydyn ni’n eu cefnogi yma: localgiving.org/campaign/covid-19.
Enghreifftiau o fudiadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yng Nghymru:
- Age Connects Castell-nedd Port Talbot – codi arian i redeg gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn ac i ddosbarthu siopa neu bresgripsiynau i bobl hŷn sy’n agored i niwed.
- Cronfa Paul Popham, Cymorth Arennol Cymru – codi arian ar gyfer gwasanaeth cwnsela dros y ffôn i gleifion arennol wedi’u hynysu yng Nghymru a dosbarthu cronfa galedi ar gyfer cleifion arennol sydd wedi colli eu swyddi, yn methu gweithio neu’n methu cael mynediad at fudd-daliadau i dalu am bethau hanfodol.
- Cymdeithas Tsieniaidd yng Nghymru – codi arian ar gyfer cyfarpar diogelu personol hanfodol i weithwyr rheng flaen mewn meddygfeydd teulu, cartrefi gofal ac ysbytai lleol, fel mygydau wyneb a menig meddygol.
Pam y gall rhodd ar-lein wneud gwahaniaeth yn gyflym
Mae arian a godir ar-lein yn incwm anghyfyngedig sy’n gallu mynd ar ei union i ble mae’r angen mwyaf. Mae Localgiving yn rhoi’r arian yng nghyfrif banc pob mudiad yn gyflym. Mae’r mwyafrif o fudiadau eisoes yn cyflwyno gwasanaethau ledled eu cymunedau lleol, a bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio ar unwaith i’w galluogi i gefnogi mwy o bobl mewn angen. Yn ôl gwaith ymchwil, mae pobl sy’n rhoi arian i ymgyrchoedd cyllid torfol yn fwy tebygol o wirfoddoli amser yn y pen draw o’u cymharu â rhoddwyr arferol.
Ewch ati i ystyried sut gallwch chi gefnogi’r grwpiau cymunedol ac elusennau lleol hanfodol hyn yn ystod y cyfnod heriol hwn!
Mae Localgiving bob amser yn fodlon helpu gyda chodi arian ar-lein, a byddwn ni’n cyhoeddi syniadau yn fuan ar sut i gynyddu eich incwm yn ystod yr adeg hon. Cysylltwch â ni os hoffech siarad am unrhyw anghenion neu syniadau drwy ffonio 0300 111 2340 neu anfon e-bost at help@localgiving.org