Eglura Russell Todd, Cydgysylltydd Caerdydd ar gyfer Benthyg Cymru, pam y byddant yn annog pobl i feddwl am ‘enydau’ ac nid ‘pethau’ y Nadolig hwn.
Dylai’r Nadolig fod yn hudolus on’d dylai? Dyna beth rydyn ni i gyd ei eisiau.
Rydyn ni eisiau iddo fod yn berffaith: bwyd blasus, gosodiadau bwrdd ysblennydd a’r tŷ yn llawn addurniadau chwaethus a goleuadau bach disglair. Y wisg berffaith ar gyfer y diwrnod mawr, y noson allan gyda gwaith, y cyfarfod blynyddol â ffrindiau, diwrnod siwmper Nadolig ac ati. Y goeden berffaith, yr anrhegion perffaith, a Bing Crosby yn suo ganu yn y cefndir wrth i’r teulu eistedd gyda’i gilydd yn agor anrhegion, chwerthin ac yn gwirioni ar bopeth y byddant yn eu cael.
Ond fel rydyn ni i gyd yn gwybod, nid felly mo’r Nadolig go iawn. Gyda llawer o deuluoedd yn cael anhawster gyda’r argyfwng costau byw parhaus, gellir dadlau bod mwy o angen nag erioed eleni i ni chwilio am ffyrdd eraill yn lle cael ein dal yn y panig gwyllt i brynu, brynu, BRYNU!
RHOWCH Y GORAU I BOENI AM Y NADOLIG PERFFAITH
Yn amlach na heb, mae perygl o anghofio gwir ystyr y Nadolig wrth geisio creu’r Nadolig perffaith. Rydyn ni’n siarad am bwysigrwydd y dathliadau fel amser am heddwch, undod, caredigrwydd, ac i dreulio amser gyda’r rheini rydyn ni’n eu caru.
Pan fyddwn ni’n gweithio, yn gwario ac yn poeni am y Nadolig ‘perffaith’, gallem ni golli’r ‘diwrnod perffaith’ hwnnw o dan yr holl bwysau i gystadlu â’n cymdogion.
Felly eleni, mae Benthyg Cymru yn galw ar bobl i gydnabod pwysigrwydd ‘enydau’ yn lle ‘pethau’ gyda’n hymgyrch, Tydy enydau euraidd ddim yn costio’r ddaear. Amser hamddenol, hapus a hwyl gyda’r teulu yn creu atgofion yn hytrach na chronni pethau, a dyled. Dilynwch yr hashnodau #GwariwchAmserNidArian | #SpendTimeNotMoney ar gyfryngau cymdeithasol a rhannwch eich syniadau â ni am Nadolig rhatach i’w gofio.
BENTHYG YN LLE PRYNU
Ein nod yng nghwmni Benthyg yw rhannu adnoddau, ac ar hyd a lled Cymru, mae gennym ni 20 o lyfrgelloedd o bethau o fewn ein rhwydwaith sydd ag eitemau y gallwch chi eu benthyg i’ch helpu i greu’r enydau euraidd hynny gyda’ch anwyliaid.
O offer gwneud popgorn ac uwch-daflunwyr i gynnal nosweithiau Ffilm Nadolig mawr, i beiriannau karaoke ar gyfer y noson staff – o hambyrddau pobi a thorwyr bisgedi i gynnal sesiynau coginio gyda’r plant, i wisgoedd ffansi.
Trwy fenthyg, rydyn ni’n arbed arian, yn lleihau gwastraff ac yn lleihau carbon. Mae’r gost o fenthyg o’r Llyfrgell Pethau yn llawer llai na phrynu’n ail law – heb sôn am brynu o’r newydd – mae’n golygu y gallwn ni’r Nadolig hwn fenthyg yn lle prynu, treulio amser yn lle gwario arian a chael enydau euraidd nad ydynt yn costio’r ddaear.
SUT I GYMRYD RHAN
Gallwch chi ddod o hyd i’ch llyfrgell pethau Benthyg agosaf yma a gallwch chi gofrestru fel aelod a dechrau benthyg mewn dim o dro. Os oes diddordeb gennych chi mewn cael sgwrs â ni am eich helpu i ddechrau Llyfrgell Pethau yn eich cymuned, ewch i’n gwefan, lle mae gennym ni becyn cymorth a all eich rhoi chi ar ben ffordd i arbed arian, arbed lle ac achub y blaned.
I ddarllenwyr yng Nghaerdydd, byddwn ni hefyd, gyda chymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn cynnal llyfrgell dros dro wythnosol bob dydd Mawrth ym mis Rhagfyr rhwng nawr a’r Nadolig (5, 12, 19 Rhagfyr) rhwng 10am a 12.30pm yn Hyb Ystum Taf a Gabalfa.