Tŷ Brynawel, enillwyr gwobr Iechyd a Lles yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2025, yn derbyn eu gwobr ar y llwyfan

Enillwyr iechyd a lles yng Ngwobrau Elusennau Cymru!

Cyhoeddwyd: 28/11/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: David Cook

Cynhaliwyd Gwobrau Elusennau Cymru ym mis Hydref, ac mae David Cook, Swyddog Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC, yn edrych ar yr enillwyr a’r rhai a ddaeth yn agos at y brig yn y wobr iechyd a lles.

GWOBRAU ELUSENNAU CYMRU

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn arddangos effaith gadarnhaol a chyfraniadau rhagorol elusennau, mudiadau cymunedol, mudiadau nid-er-elw a gwirfoddolwyr ledled Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad eleni yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, lle dathlodd CGGC a’r sector gwirfoddol yr holl fudiadau anhygoel a gyrhaeddodd y rownd derfynol a chyhoeddi’r enillwyr ym mhob categori.

Fel Prosiect Iechyd a Gofal CGGC, roeddem am wneud amser i ddathlu’r enillydd a’r rhai a ddaeth yn agos at y brig yn y categori iechyd a lles, sy’n clodfori’r gwaith rhagorol a wneir gan fudiadau ym maes gofal iechyd, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl a thu hwnt.

ENILLYDD 2025

Tŷ Brynawel

Enillwyr haeddiannol y wobr oedd Tŷ Brynawel yn Rhondda Cynon Taf. Mae Tŷ Brynawel yn elusen arbenigol adfer dibyniaeth sy’n darparu cymorth cynhwysfawr i unigolion a theuluoedd y mae defnydd sylweddau yn effeithio arnynt. Dyma’r unig wasanaeth adsefydlu nid-er-elw yng Nghymru ar gyfer pobl sydd â Niwed i’r Ymennydd sy’n Gysylltiedig ag Alcohol, y gall 75% ohonynt wella digon i fyw’n annibynnol gyda chymorth priodol, sy’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 38-48%.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r tîm wedi gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi 190 o bobl trwy driniaeth breswyl, ôl-ofal strwythuredig, a gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gan weithio gyda’r rhai sydd ag anghenion cymhleth gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl oherwydd camddefnydd sylweddau sy’n cyd-ddigwydd a hanes trawma. Mae preswylwyr yn adrodd gwell iechyd meddwl, gwell lles corfforol, gwell hunan-barch, a pherthnasoedd teuluol cryfach.

Y RHAI A DDAETH YN AGOS AT Y BRIG YN 2025

Hoffem hefyd dynnu sylw at y ddau fudiad anhygoel a ddaeth yn agos at y brig yn y categori iechyd a lles – Area 43 a The Baxter Project.

Area 43

Wedi’i leoli yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, mae’r elusen iechyd meddwl ieuenctid ledled y DU, Area 43 yn fudiad arloesol sy’n cyflawni canlyniadau rhagorol wrth rymuso pobl ifanc gan ddefnyddio dull dan arweiniad ieuenctid yn gyfan gwbl. Mae gwaith arloesol yr elusen wedi ei gydnabod yn y blynyddoedd blaenorol, wrth i’r elusen gael ei henwebu ar gyfer gwobr mudiad y flwyddyn y llynedd.

Yn ogystal â’i wasanaethau cwnsela helaeth, mae caffi ieuenctid Area 43, Depot, yn gweithredu fel canolfan gymunedol hanfodol, lle mae dros hanner y boblogaeth yn byw mewn amddifadedd. Yn 2024 yn unig, croesawodd fwy na 10,000 o ymweliadau gan dros 3,000 o bobl ifanc, gan ddarparu man diogel am ddim, heb farnu, sy’n gweithredu chwe diwrnod yr wythnos.

The Baxter Project

Mae The Baxter Project, fel rhan o’r Grŵp Gweithgareddau Therapiwtig Cwmni Buddiant Cymunedol, yn darparu cymorth ymyrraeth gynnar rheng flaen rhagorol i wella lles emosiynol plant sy’n agored i niwed ledled Cymru. Maen nhw’n gwneud hyn trwy ddefnyddio cŵn lles a ddewiswyd yn arbennig i chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth gyda phobl ifanc sydd wedi profi galar, allgau, trawma, niwroamrywiaeth, a gwrthod mynd i’r ysgol pan fydd systemau eraill yn datgysylltu.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r tîm wedi ehangu ei gyrhaeddiad yn sylweddol, gan ymateb i argyfwng iechyd meddwl cynyddol ymhlith pobl ifanc gyda dull sy’n ystyriol o drawma, sy’n seiliedig ar berthynas sy’n gweithio. Mae hyn yn trosi i 9,000 awr o gymorth lles unigol mewn dros 30 o ysgolion a mudiadau, o ysgolion cynradd prif ffrwd i leoliadau arbenigol.

Y WOBR

Dywedodd Johanna Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC: ‘Mae’r wobr iechyd a lles yn ymwneud â chydnabod sut mae mudiadau gwirfoddol yn helpu pobl bob dydd i gyflawni lles da a bywydau iach. Roedd cymaint o enwebiadau rhagorol fel bod creu rhestr fer o dri yn unig yn eithriadol o anodd.’

‘Mae gwaith mudiadau fel Tŷ Brynawel, Area 43 a The Baxter Project yn mynd ymlaen yng nghefndir ein system iechyd a gofal cymdeithasol ac mae eu cyfraniadau yn aml yn mynd heb eu cydnabod ac yn cael eu tanbrisio. Mae’r canlyniadau maen nhw’n eu cyflawni gyda phobl a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu i gymunedau yn haeddu cydnabyddiaeth a dylent fod yn flaenllaw yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol.’

AM FWY O WYBODAETH

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am hyn? Am ragor o wybodaeth, ewch i Brosiect Iechyd a Gofal CGGC.