Mae hi’n Wythnos Elusennau Bach yr wythnos hon, wythnos i ddathlu gwaith rhagorol elusennau bach. Mae pandemig diweddar y coronafeirws wedi dangos pa mor hanfodol yw’r gwaith hwn, fel y dangoswyd gan yr ymgyrch #NawrFwyNagErioed. Dyma myfyrdodau ein Prif Weithredwr Ruth Marks.
Mae’r sector gwirfoddol yn amrywio’n fawr, o grwpiau cymunedol bach i gwmnïau rhyngwladol elusennol, gyda’r holl fudiadau nid yn unig yn chwarae rhan unigryw wrth wasanaethu eu defnyddwyr, ond hefyd yn unigryw o ran eu maint a’u cyfraniadau. Mae CGGC yn gweithio i gefnogi’r holl fudiadau amrywiol hyn er mwyn gwneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
Yma yng Nghymru, mae elusennau micro a bach yn cyfrif am fwy o’r sector nag yn unlle arall yn y DU. Mae dros hanner ohonynt (53%) yn ficro-elusennau a bron un rhan o dair ohonynt (32%) yn elusennau bach[1]. Mae hyn yn golygu bod llawer iawn o’r gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud gan y sector gwirfoddol yn cael ei gyflenwi drwy fudiadau llai o faint.
Y glud sy’n glynu ni at ein gilydd
Ond gall bod yn fach fod yn fanteisiol tu hwnt yn yr amgylchiadau cywir. Mae llawer o nodweddion unigryw mudiadau llai o faint yn deillio o’u maint a’u graddfa, fel y nodwyd gan Sefydliad Lloyd’s Bank (un o brif gyllidwyr elusennau bach a chanolig). Maen nhw’n dadlau eu bod yn gallu ymateb yn well i anghenion lleol, cael gwell cynrychiolaeth o’r gymuned leol ac yn gallu gwneud penderfyniadau’n gyflymach, sy’n golygu mai’r mudiadau hyn, yn aml, yw’r ‘glud sy’n glynu gwasanaethau a chymunedau i’w gilydd’.
Enghraifft wych o hyn yw Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens and George Centenary, ym Merthyr Tudful, a gafodd ei lansio gyda’r nod o fuddsoddi mewn addysg pobl ifanc – mewn ymateb i’r lefel isel o lythrennedd yn yr ardal.
O’i hadeilad newydd, Canolfan Gymunedol Dowlais, mae’n cynnig mwy na 50 o ddosbarthiadau, gan gynnwys saethyddiaeth a dawnsio salsa er mwyn denu pobl i wneud pethau yn y gymuned. Mae hefyd yn cynnig stiwdio gerddoriaeth, campfa, caffi cymunedol a phrosiect garddio.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i addasu i achos y coronafeirws; mae 47 o wirfoddolwyr newydd wedi ymuno ac maen nhw wedi cludo 900 o becynnau addysg i bobl ifanc ledled y fwrdeistref, wedi darparu dros 3,500 o barseli bwyd am ddim ar gyfer teuluoedd ac wedi symud rhai o’u gweithgareddau ar-lein – gan gynnwys celf, hanes a gwyddbwyll.
Yn darparu cyllid i elusennau llai
Mae argyfwng Covid-19 wedi cael effaith ddistrywiol ar wydnwch ariannol y sector gwirfoddol, yn enwedig elusennau llai o faint sy’n llai tebygol o fod ag arian wrth gefn. Mae llawer wedi wynebu anawsterau hefyd am fod cyllid y llywodraeth wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy’n golygu ei bod hi’n anoddach i fudiadau llai o faint wneud cais am gontractau neu grantiau. Gallai hyn, yn ei dro, olygu y bydd llai o bobl yn gallu cael eu cefnogi gan y mudiadau hyn yn y dyfodol.
Mae CGGC wedi chwarae rhan allweddol mewn dosbarthu cyllid i helpu elusennau llai o faint, yn enwedig yn y misoedd diweddar. Rydyn ni wedi galluogi elusennau bach i gynorthwyo’u cymunedau yn dilyn effaith y llifogydd ym mis Chwefror, ac i ddarparu gwasanaethau newydd drwy bandemig y coronafeirws.
Er enghraifft, mae Toogoodtowaste yn elusen ailddefnyddio yn Rhondda Cynon Taf. Maen nhw’n casglu dodrefn, eitemau trydanol ac eitemau cartref a gaiff eu rhoi iddyn nhw gan aelodau o’r cyhoedd ac, ar ôl sicrhau ansawdd yr eitemau a’u trin, trwsio a’u glanhau, maen nhw’n eu dychwelyd i drigolion. Bu galw aruthrol am eu gwasanaethau yn sgil Storm Dennis, a gwnaeth cyllid CGGC eu galluogi i barhau â’r gwasanaeth hanfodol hwn.
Ac yn fwy diweddar, defnyddiodd y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd, elusen yn Abertawe, gyllid o Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol i geisio lleihau ynysu, gorbryder a newyn. Gwnaeth y Ganolfan ddarparu gwasanaethau wedi’u teilwra ar-lein a thros y ffôn, a darparu gweithgareddau casglu a chludo bwyd ar gyfer 200 o bobl, gan gynnwys mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n teimlo’n ynysig.
Cynhwysiant Gweithredol
Mae’n amlwg y gall elusennau llai o faint fod yn ganolog i’n hadferiad economaidd a’n hiechyd, gyda’r gefnogaeth gywir. Mae CGGC wedi bod yn cyflwyno’r rhaglen Cynhwysiant Gweithredol ers 2014, gan ddefnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i leihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd pobl dan anfantais.
Mae cyllid Cynhwysiant Gweithredol wedi’i ddyfarnu i lawer o elusennau bach er mwyn cynorthwyo pobl i gael gwaith. Mae’r mudiadau llai hyn wedi’u lleoli yn y gymuned ac yn gallu addasu, felly gallant ddarparu gwahanol fath o gymorth.
Mae Môn CF ar Ynys Môn yn enghraifft o hyn. Sefydlwyd yr elusen yn wreiddiol i gynorthwyo ardaloedd mwyaf difreintiedig yr ynys fel rhan o gynllun Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, ond ers 2012, mae wedi datblygu i fod y mudiad y mae unigolion yn mynd iddo am help i ddatblygu eu sgiliau, chwilio am waith a gwneud cynnydd yn ardal Ynys Môn.
Mae eu prosiect cyfredol a gyllidir gan Cynhwysiant Gweithredol yn cynnig cymorth ymarferol a strwythuredig i’r rheini sy’n ddi-waith, yn ogystal â chefnogaeth un i un gan fentoriaid profiadol sy’n annog cyfranogwyr i ennill sgiliau a magu hunanhyder ac yn eu helpu i chwilio am waith. Maen nhw hefyd yn cynnig cyfleoedd gwaith a gynorthwyir am gyfnod o 16 wythnos, gyda’r nod terfynol o gael swyddi parhaol i’w cyfranogwyr.
Dyfodol gwahanol
Gan edrych at y dyfodol, rydyn ni’n gobeithio y gall Cymru gefnogi mwy o fudiadau gwirfoddol bach i gyfrannu at eu cymunedau. Er enghraifft, gallai elusennau bach chwarae rhan gyffrous fel rhan o’r gofod presgripsiynu cymdeithasol ehangach – yn helpu i wella iechyd pobl drwy wasanaethau anghlinigol.
Gyda’r cymorth a’r polisi cywir yn ei le, gallai Cymru weithio i sicrhau y gall elusennau bach barhau i ddefnyddio’u nodweddion unigryw i gyflwyno buddion go iawn i gymunedau ar hyd a lled Cymru wrth i ni droedio i mewn i ddyfodol gwahanol.
[1] Mae gan ficro-elusennau drosiant o lai na £10,000, ac elusennau bach llai na £100,000.