Mae llaw person yn gosod papur pleidleisio mewn blwch pleidleisio

Elusennau a gweithgareddau gwleidyddol: trosolwg o etholiad cyffredinol 2024

Cyhoeddwyd: 14/06/24 | Categorïau: Dylanwadu,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Bethan Walsh

Yma, mae Bethan Walsh, Pennaeth Elusennau yn Geldards LLP, yn rhoi trosolwg i ni o’r gweithgareddau gwleidyddol y gall ac na all elusennau eu gwneud wrth ddynesu at etholiad cyffredinol 2024.

Mae elusennau yn chwarae rôl bwysig mewn dadlau dros newid polisi ar ran buddiolwyr, a gall etholiadau fod yn gyfle allweddol i ddatblygu eich nodau elusennol ac ymgyrchu. Wrth i ni ddynesu at Etholiad Cyffredinol nesaf y DU ar 4 Gorffennaf 2024, gall elusennau fod yn cynllunio sut i sicrhau bod eu pryderon ar agendâu ymgeiswyr ac unrhyw lywodraeth i ddod.

A all elusennau ymgyrchu wrth ddynesu at etholiad? Gallant yn bendant. Ond gwyddom fod llawer o elusennau yn pryderu ynghylch risgiau posibl ymgyrchu gwleidyddol, y rhai cyfreithiol a’r risgiau i’w henw da.

Yn y blog hwn, rydym wedi amlygu’r prif faterion allweddol i elusennau feddwl amdanynt.

BETH YDYM YN EI OLYGU WRTH ‘YMGYRCHU’ A ‘GWEITHGAREDDAU GWLEIDYDDOL’?

Yn gyffredinol, mae ymgyrchu yn cyfeirio at y ffyrdd y mae elusennau a mudiadau eraill yn cyflawni eu nodau drwy ddylanwadu ar gynulleidfaoedd arbennig. Yn yr achos hwn, rydym yn cyfeirio’n benodol at ‘weithgareddau gwleidyddol’ a ddiffinnir gan y Comisiwn Elusennau fel:

‘… gweithgarwch gan elusen sydd â’r nod o sicrhau, neu wrthwynebu, unrhyw newid yn y gyfraith neu ym mholisïau neu benderfyniadau’r llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill, boed hynny yn y wlad hon neu dramor.’

Mae gweithgareddau gwleidyddol yn cael eu hystyried yn risg uwch i elusennau nag, er enghraifft, ymgyrchu dros newid agweddau’r cyhoedd. Oherwydd hyn, mae gan ymgyrchu gwleidyddol reolau penodol y mae’n rhaid i elusennau eu dilyn.

Mae ymgyrchu yn weithgarwch dilys i elusennau, ac mae’r un peth yn wir yn ystod etholiadau. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i elusennau fod yn annibynnol o wleidyddiaeth plaid. Golyga hyn na allant gefnogi, na chyllido, pleidiau nac ymgeiswyr gwleidyddol.

A ALL ELUSENNAU GEFNOGI NEU WRTHWYNEBU POLISÏAU GWLEIDYDDOL?

Gallant yn bendant. Gall elusennau gefnogi a gwrthwynebu polisïau pleidiau gwleidyddol. Ond dylai ymddiriedolwyr ystyried sut gallai hyn effeithio ar farn y cyhoedd ar annibyniaeth eich elusen. Gan hynny, rhaid bod yn ofalus iawn sut y caiff unrhyw ddatganiad sy’n mynegi cefnogaeth neu wrthwynebiad i unrhyw bolisi ei eirio. Dylai elusennau sicrhau bod unrhyw gefnogaeth neu wrthwynebiad o’r fath yn berthnasol i’w dibenion elusennol.

CYFRAITH ETHOLIADOL

Caiff cyfraith etholiadol ei goruchwylio gan y Comisiwn Etholiadol. Nhw sy’n gosod y rheolau ar faint o amser y gallwch ei dreulio ar fathau arbennig o weithgareddau ymgyrchu.

Ni fydd y mwyafrif o elusennau yn cynnal digon o weithgareddau a reoleiddir i gyrraedd y trothwy ar gyfer cofrestru fel ymgyrchydd di-blaid. Ond, gall elusennau gofrestru os yw eu gweithgareddau ymgyrchu arfaethedig yn cyrraedd y trothwy hwn.

Os ydych chi’n gwario £10,000 ar weithgareddau a reoleiddir ledled y DU, bydd angen i chi gofrestru fel ymgyrchydd di-blaid gyda’r Comisiwn Etholiadol. Os byddwch yn gwario £20,000 yn Lloegr, neu £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, bydd angen i chi adrodd gwariant a rhoddion sy’n ymwneud â’ch gwariant a reoleiddir.

Gweler canllawiau’r Comisiwn Etholiadol am wybodaeth fwy manwl.

PETHAU Y GALL AC NA ALL ELUSENNAU EU GWNEUD

Gall elusennau:

  • Ymgyrchu wrth ddynesu at etholiad
  • Cyhoeddi eu maniffestos eu hunain, yn amlinellu newidiadau polisi sy’n fuddiol i’w buddiolwyr ac yn cyd-fynd â’u hamcanion
  • Trefnu a chymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus

Ni all elusennau:

  • Gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth plaid
  • Derbyn cais gan blaid wleidyddol i ymddangos yn eu maniffesto
  • Mynd ati’n benodol i gymharu eu safbwyntiau nhw â safbwyntiau ymgeisydd neu blaid arbennig

YSTYRIAETHAU YMARFEROL I ELUSENNAU

Cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgyrchu neu wleidyddol, dylai ymddiriedolwyr wirio dogfen lywodraethu’r elusen am unrhyw gyfeiriad at y maes hwn. Dylent hefyd asesu’r risgiau, gan gynnwys y risgiau i’w henw da a’u hannibyniaeth. Mae gan Geldards restr wirio ddefnyddiol i gynorthwyo elusennau sy’n meddwl am gymryd rhan mewn gweithgareddau neu ymgyrchoedd gwleidyddol.

RHAGOR O WYBODAETH

Neu cysylltwch â Geldards am gopi o’n rhestr wirio drwy anfon e-bost at bethan.walsh@geldards.com

 

*Saesneg yn unig