Mae Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, yn gofyn i ddarpar wirfoddolwyr sydd wedi cofrestru i helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws fod yn amyneddgar tra bod y sector yn chwilio’i draed yn y cyfnod rhyfedd hwn.
Mae miloedd o bobl garedig a thosturiol yn camu ymlaen i helpu eu hanwyliaid, eu cymdogion, eu cymunedau a’u hysbytai lleol. Yn fy mhymtheg mlynedd o gysylltu â phobl sydd eisiau gwirfoddoli, nid wyf erioed wedi gweld cymaint o bobl sydd eisiau ymroi i wneud gwahaniaeth.
Mae’n anhygoel ac yn gysur i wybod ein bod yn byw mewn rhan o’r byd sydd â niferoedd sylweddol o bobl garedig, sy’n dosturiol ac yn frwdfrydig i helpu. Rwy’n gwybod hyn, oherwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi bod yn cynorthwyo tîm sydd wedi derbyn nifer digyffelyb o alwadau ffôn a negeseuon e-bost gan unigolion sydd eisiau cymryd rhan.
Cymysgedd o emosiynau
Ochr yn ochr â’r brwdfrydedd a’r tosturi, rwyf hefyd yn clywed ac yn gwrando ar straeon o rwystredigaeth, dicter a dryswch. Rhwystredigaeth nad yw cynigion i helpu’n cael eu derbyn gan rywun ar ochr arall i’r ffôn neu ar ben draw e-bost. Dicter nad yw unigolion yn gallu dechrau gwirfoddoli ar unwaith a dryswch ynghylch pa wirfoddoli sydd ar gael i unigolion, lle i fynd i roi cymorth, y mathau o bethau sydd angen eu gwneud a chwestiynau ynghylch sut gall gwirfoddolwyr gadw’u hunain yn ddiogel.
Y tu ôl i’r llenni
Rwyf wedi ysgrifennu’r blog hwn i egluro rhywfaint o’r hyn sy’n digwydd ‘y tu ôl i’r llenni’ ym myd gwirfoddoli, yn y gobaith o allu lleddfu ychydig o’r rhwystredigaeth a dicter a helpu i liniaru ychydig o’r dryswch a deimlir gan y rheini sy’n awyddus i fynd ati i wneud eu rhan.
Yn gyntaf, mae unigolion a chymunedau ledled y DU eisiau eich help. Nid dim ond nawr ar yr adeg hon, ond yn yr wythnosau a misoedd heriol i ddod, ac ar ôl hyn, yn ystod y cam adfer, a thu hwnt i hyn eto, wrth i brosiectau a mudiadau barhau i gefnogi cymunedau ac amgylcheddau.
Byddwch yn garedig ac yn amyneddgar
Ar yr adeg hon, mae eich amser yn werthfawr, ond mae’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n ateb y galwadau ffôn a’r negeseuon e-bost yn brysurach nag erioed o’r blaen. Mae patrymau gweithio, y lleoedd y mae pobl yn gweithio a’r galwadau ar fywydau pobl wedi cael eu troi blith-draphlith (fel eich rhai chi). Mae rhai o’r gwirfoddolwyr a staff a fyddai wedi ateb galwadau o’r fath wedi’u rhoi ar gyfnod seibiant neu’n cydbwyso llawer o dasgau er mwyn cadw eu prosiectau a’u mudiadau ar waith. Mae’r prosiectau hyn eisiau eich amser, ond eisiau eich caredigrwydd a’ch amynedd yn gyntaf. Byddan nhw’n ymateb cyn gynted ag y gallan nhw.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru fel gwirfoddolwr, ond yn aros i fynd i’r cam nesaf, neu i ddechrau, mae’n bosibl y bydd angen i chi aros hefyd. Er bod y mudiad neu’r prosiect yn gwybod eich bod chi yno, rhaid iddyn nhw nawr wneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r cyfle cywir yn barod ar eich cyfer. Gallai hyn olygu canfod lle mae angen eich help fwyaf, cael y cyflenwadau a allai fod eu hangen arnoch yn eu lle, gweithio drwy unrhyw wiriadau neu eirdaon sydd angen eu cadarnhau cyn y gallwch ddechrau.
Eto, rhowch ychydig o amser i’r mudiad weithio drwy hyn cyn iddyn nhw ddod yn ôl atoch.
Yn y cyfamser, paratowch
Gan na fydd dod yn wirfoddolwr yn digwydd ar unwaith o bosibl, gall hwn fod yn amser defnyddiol i feddwl am rai o’r cwestiynau allweddol y dylai pobl sydd eisiau gwirfoddoli ofyn i’w hunain. Cwestiynau fel y rhain:
- Pam ydych chi eisiau gwirfoddoli? A yw dros achos arbennig, fel ymateb i effaith y coronafeirws, ydych chi’n gobeithio magu sgiliau penodol, ydych chi’n gobeithio cwrdd â phobl newydd neu gael dealltwriaeth well o sut mae gwasanaethau penodol yn gweithio?
- Pa fathau o bethau fyddech chi’n fodlon ei wneud fel gwirfoddolwr? Ydych chi’n chwilio am rywbeth sy’n ymwneud â rhyngweithio â phobl eraill, rhywbeth ar-lein neu a fyddai’n well gennych fod allan yn yr awyr agored?
- Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu brofiadau penodol yr hoffech chi eu defnyddio yn eich gwaith gwirfoddol?
- Ydych chi’n barod i ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant y gallai fod ei angen ar gyfer eich cyfle gwirfoddoli?
- Faint o amser gallwch chi ei roi? Ac ar ba adegau o’r wythnos neu ddiwrnod?
Os byddwch chi wedi meddwl am atebion i’r cwestiynau hyn, byddwch chi’n fwy parod o ran yr hyn rydych chi eisiau ei gael o’r profiad gwirfoddoli a beth allech chi fod yn fodlon ei wneud.
Pethau eraill y gallwch chi ei wneud
Rwyf hefyd yn eich argymell i ddarllen y canllawiau y mae CGGC wedi’u llunio ar sut gall gwirfoddolwyr gadw’u hunain yn ddiogel wrth wirfoddoli.
Bydd llawer o fathau o waith gwirfoddoli yn gofyn i chi ddarparu dogfennau adnabod neu ddarparu geirdaon. Gallech wneud yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth hon wrth law.
Cam arall y gallech chi ei gymryd wrth i chi baratoi i fod yn wirfoddolwr yw sicrhau eich bod yn teimlo’n iach, yn barod i roi’r gorau o’ch hunan at yr achos sy’n agos at eich calonnau. Treuliwch ychydig o amser yn bod yn garedig i chi’ch hun, eich anwyliaid a’ch cymdogion.
Nawr eisteddwch yn ôl, ceisiwch ymlacio, a gwrandewch am yr alwad neu’r e-bost sy’n dweud, rydyn ni eich angen chi nawr.
——–
Eisiau gwirfoddoli, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Ewch i www.volunteering-wales.net – gwnewch yn siŵr eich bod yn ‘YMGEISIO’ ar gyfer cyfle fel bod y prosiectau yn gwybod bod gennych chi ddiddordeb.
I gael rhagor o wybodaeth gan CGGC ynghylch argyfwng COVID-19, ewch i’n tudalennau canllawiau a gaiff eu diweddaru’n gyson, neu cofrestrwch i weld ein cylchlythyr dyddiol.