Yr haf hwn, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad Cymru Ein Dyfodol er mwyn darganfod barn pobl ynglŷn â’r modd gorau o fynd ati i adfer o COVID-19. Mae Pennaeth Polisi CGGC, Ben Lloyd, yn edrych ar sut y gwnaethom ymgysylltu â’r sector ynglŷn â hyn ac yn amlygu’r pwyntiau allweddol yn ein hymateb.
Dros y misoedd diwethaf, mae CGGC wedi bod yn gwrando ar fudiadau’r sector gwirfoddol ynglŷn â’r modd yr effeithiodd pamdemig COVID-19 arnyn nhw. Digwyddodd y trafodaethau hyn trwy ein gwaith arferol gyda’n haelodau, ar draws rhwydweithiau’r sector gwirfoddol megis Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a Cefnogi Trydydd Sector Cymru, a thrwy siarad â’r elusennau hynny sy’n ymgeisio am gyllid ein cronfeydd argyfwng. Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau ‘Paratoi ar gyfer dyfodol gwahanol’ gyda’r sector gwirfoddol sydd, o drafod ymatebion cymunedau, economïau llesiant a llawer mwy, yn rhoi ymdeimlad o’r heriau sy’n wynebu’r sector gwirfoddol o ganlyniad i’r pandemig.
Mae’r sector gwirfoddol wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi pobl trwy’r pandemig a’r cyfyngiadau symud cychwynnol. Fe fydd hefyd yn chwarae rhan allweddol nid yn unig mewn unrhyw gyfyngiadau symud yn y dyfodol, ond wrth gefnogi adferiad Cymru o’r pandemig a’r dirwasgiad.
Bwydodd yr holl ddeunydd hyn i’n hymateb i ymgynghoriad Cymru Ein Dyfodol Llywodraeth Cymru. Ynddo, rydym yn amlinellu tri maes lle gall y sector gwirfoddol gefnogi’r adferiad hwn.
Yn gyntaf, sicrhau adferiad gwyrdd a chyfiawn. Gall y sector gwirfoddol chwarae rhan trwy gefnogi adnewyddiad economaidd a chefnogi’r gwasanaeth iechyd. Er enghraifft, rydym yn ystyried sut y gallai gwirfoddoli ieuenctid weithredu yn ystod cyfnod o ddiweithdra uchel ymysg pobl ifanc, neu sut y gall gwirfoddoli gynorthwyo i atal salwch, gan leihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.
Yn ail, grymuso cymunedau a gwirfoddolwyr. Gydol yr argyfwng, mae cymunedau a gwirfoddolwyr wedi arddangos eu gallu i gefnogi ffrindiau, cymdogion a dieithriaid. Edrychwn ar sut i gynnal y dull hwn wrth symud ymlaen, gan gynnwys cefnogi rhai cymunedau mewn ardaloedd o amddifadedd uchel.
Yn drydydd, cefnogi trydydd sector gwydn. Bu’r chwe mis diwethaf yn heriol dros ben i elusennau – mae’r galw wedi cynyddu, gorfodwyd gwasanaethau i newid, ac mae cyllid wedi gostwng. Mae’r adran hon yn archwilio sut orau i gefnogi’r sector, gyda phwyslais penodol ar wasanaethau digidol.
Mae’r adferiad yn mynd i arwain at Gymru a fydd yn wahanol i’r un a fodolai cynt, ac mae’n bosibl na fydd y gwahaniaeth hwnnw yn un cadarnhaol. Beth bynnag ddigwyddith, bydd y sector gwirfoddol yno i gefnogi pobl a chymunedau trwy gydol yr arferiad.