Merch ifanc mewn torf yn gweiddi i megaphone

Ein llais yn San Steffan

Cyhoeddwyd: 15/03/23 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur: Ben Lloyd

Mae Ben Lloyd yn rhoi diweddariad ar waith CGGC gydag elusennau eraill ledled y DU i wneud yn siŵr bod llais y sector gwirfoddol yn cael ei glywed yn San Steffan.

CGGC yw llais sector gwirfoddol Cymru ymhlith pobl mewn pŵer. Ers 20 mlynedd a rhagor, rydyn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Senedd i wneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed ym Mae Caerdydd, sef lle y caiff llawer o’r materion sy’n achosi pryder i’n haelodau eu datganoli iddo. Fodd bynnag, mae rhannau mawr o waith ein sector yn cael eu heffeithio’n fawr gan benderfyniadau yn San Steffan; gan gynnwys polisi macroeconomaidd, cymorth ynni a’r gyfraith elusennau ei hun. Yn wahanol i’w gymheiriaid yn y tair gwlad arall, rydyn ni wastad wedi teimlo bod angen i anghenion y sector gwirfoddol a gwirfoddoli yng Nghymru gael eu clywed gan San Steffan.

GYNGHRAIR O LEISIAU

Rydyn ni wastad wedi cael cydberthynas adeiladol gyda’n tair chwaer-gyngor, ond mae fforwm eang o leisiau yn cynrychioli’r sector gwirfoddol a gwirfoddoli. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r gynghrair hon o elusennau a ddaeth ynghyd ar ddechrau’r pandemig i bledio’r achos dros fuddsoddiad gwleidyddol yn y sector gwirfoddol, ac i godi proffil gwerth y gwaith roedd y sector yn ei wneud. Cafodd y buddsoddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ei dargedu’n bennaf at Loegr, ond cafodd hyn effaith gynyddol ar gyllideb Cymru.

Roedd cael llais o Gymru – a oedd yn ymwybodol o ddatganoli a natur unigryw ein sector yng Nghymru – yn rhan werthfawr o’r drafodaeth hon.

Ymhen amser, cafodd y grŵp hwn ei adnabod fel Grŵp Cymdeithas Sifil y DU, ac ers hyn, mae wedi ymgyfuno ar nifer o faterion; gan gynnwys cynrychioli’r angen i gyllideb y DU gefnogi’r sector gwirfoddol a’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw, ynghyd â mynd i’r afael â’n heriau ynni penodol a threchu hiliaeth o fewn y sector. Mae’r rhain yn faterion sydd wedi’u deddfu ar lefel DU gyfan, ond gwyddom y bydd ein haelodau yng Nghymru eisiau bod yn rhan o’r trafodaethau hyn. Rydyn ni hefyd yn gwybod y bydd Llywodraeth y DU yn fwy ymatebol pan fydd holl sector gwirfoddol y DU yn siarad gyda’i gilydd ar y materion hyn.

Gwnaeth y cyhoeddiad ar Warant Prisiau Ynni grybwyll elusennau’n benodol mewn modd nad oedd wedi digwydd o’r blaen gan gyhoeddiadau cyllido.

BANCIO GWELL AR GYFER Y SECTOR

Yn ogystal â gweithio gyda’n cydweithwyr ar hyd a lled y DU ar faterion gwleidyddol, rydyn ni hefyd wedi chwarae rôl allweddol mewn cyfleu ein pryderon ynghylch y dirywiad mewn ansawdd gwasanaethau bancio i’r banciau eu hunain. Rydyn ni wedi dechrau prosiect gydag UK Finance i ddylunio adnoddau i wneud rhai o’r penderfyniadau bancio’n fwy tryloyw ac yn parhau i geisio cynnal sgwrs barhaus ar faterion eraill sy’n effeithio ar ein haelodau. Gyda’r rhan fwyaf o’r banciau yng Nghymru yn gweithredu ledled y DU, gwyddom fod dull cydlynol yn ei gwneud hi’n haws i ni sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed.

Mae’r Grŵp Cymdeithas Sifil wedi gweithio fel llais cyfunol effeithiol mewn trafodaethau â’r Comisiwn Elusennau. Mae cyfarfodydd rheolaidd wedi helpu i ddatblygu cydberthnasau sy’n sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’r ddwy ffordd o ran y straen a’r materion a wynebir gan y sector a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r ffyrdd gorau o sicrhau bod rheoliadau yn cyd-fynd â’r arferion cynhwysol gorau ar lawr gwlad.

Rdydyn ni’n falch o fod wedi cael cydberthynas adeiladol ag Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, o’r ddwy blaid. Ond gwyddom fod adrannau eraill yn San Steffan yn gweithio ar draws ardal ddaearyddol ehangach, a bod angen iddynt ystyried sut bydd eu polisïau yn effeithio ar fwy nag un wlad. Rydyn ni’n benderfynol o weithredu fel llais sector gwirfoddol Cymru yn y trafodaethau hyn, gan weithio gydag ystod eang o bartneriaid ar hyd a lled y DU i bledio achos y sector gwirfoddol.

Byddai’n braf iawn clywed oddi wrthych ynghylch y materion y credwch y dylem ni fod yn eu blaenoriaethu yn San Steffan. Rhowch wybod i ni drwy gysylltu â policy@wcva.cymru.