Wrth i CGGC geisio recriwtio Cadeirydd newydd, edrycha Peter Davies yn ôl ar ei brofiad, gan roi rhai ystyriaethau allweddol ar gyfer dyfodol y sector
Rwy’n camu i lawr fel cadeirydd CGGC y flwyddyn nesaf ar ôl 11 mlynedd ar y Bwrdd ac wyth mlynedd fel cadeirydd. Rydyn ni eisoes wedi dechrau ar y broses recriwtio er mwyn sicrhau bod cyfnod pontio llyfn rhwng arweinwyr y Bwrdd.
Felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n amserol ac yn ddefnyddiol i rannu rhai sylwadau ar y profiad ar gyfer darpar ymgeiswyr.
EDRYCH YN ÔL I EDRYCH YMLAEN
Yn gyntaf oll, mae wedi bod yn brofiad braf iawn a byddaf yn colli gweithio gyda Ruth, y tîm staff a’r Bwrdd Ymddiriedolwr yn arw. Mae’n dîm staff a Bwrdd ymddiriedolwyr gwych, sy’n gyfrifol am fudiad sy’n chwarae rôl genedlaethol bwysig dros ben mewn sicrhau bod grwpiau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn ffynnu ledled Cymru.
Mae CGGC wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd ers i mi ddychwelyd adref i Gymru yn 2005. Roeddwn wedi bod yn ymddiriedolwr gydag NCVO (y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol) tra oeddwn yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn Busnes yn y Gymuned, felly arweiniodd cyflwyniad i Graham Benfield gan Stuart Etherington at adolygiad ‘pro bono’ fel fy “swydd” gyntaf yn ôl yng Nghymru. Dilynwyd hyn gan waith cydlynu Tasglu Datblygu’r Mileniwm a ymgasglwyd gan CGGC, a sefydlodd gynllun Cyswllt Cymunedol Cymru-Affrica (sydd bellach yn rhan o Gymru ac Affrica) a Maint Cymru. Cefais wedyn fy nghyfethol i’r Bwrdd yn 2011 – dechrau taith lywodraethu 11 mlynedd o hyd.
Dechreuodd gyda Bwrdd o 35 o bobl a gynlluniwyd i gynrychioli’r sector gyda phwyllgor Cadeirydd i oruchwylio’r manylion i gyd o dan arweiniad arbenigol Win Griffiths y Cadeirydd. Gwnaeth ymddeoliad Win arwain at fy mhenodiad fel Cadeirydd a dechrau proses newid gydag ymddeoliad Graham fel Prif Swyddog Gweithredol ynghyd â thri uwch-reolwr arall yr oeddwn i’n gweithio gyda nhw – tîm a oedd wedi arwain y mudiad ers 25 o flynyddoedd neu fwy.
Rhan gyntaf a phwysicaf y newid oedd penodi Ruth Marks fel y Prif Swyddog Gweithredol. Bydd gan y sawl a fydd yn cymryd fy lle Brif Swyddog Gweithredol profiadol, cysylltiedig a mawr ei pharch, sy’n bleser llwyr i weithio gyda fel Cadeirydd. Ail ran y newid oedd cwblhau adolygiad a oedd yn canolbwyntio ar y Bwrdd a’i lywodraethiant, yn hytrach na’i swyddogaeth gynrychiadol. Mae gennym ni nawr Fwrdd o 12, wedi’u hethol gan aelodau CGGC a chyda’r opsiwn o benodi pedwar arall. Mae’r broses ddemocrataidd yn arwain at atebolrwydd, yn cyflwyno safbwyntiau newydd, ond hefyd weithiau’n golygu ein bod ni’n colli ymddiriedolwyr gwych cyn eu hamser. Bydd gan y sawl a fydd yn cymryd fy lle Fwrdd ymddiriedolwyr rhagorol, sydd wedi gweithio’n dda fel tîm, gan ddod â hwyl i’r cyfrifoldebau llywodraethu.
FFRAMWAITH CRYF
Fel Cadeirydd, rwyf wedi benthyg y fframwaith 5 Ss in Governance (Y 5 ‘S’ mewn Llywodraethu – Saesneg yn unig) gan wneud yn siŵr ein bod yn darparu gwaith craffu effeithiol, yn sicrhau stiwardiaeth hirdymor, yn ymhél â’r gwaith o lunio strategaeth, yn cynnig cymorth i’r staff a hefyd yn gwneud yn siŵr bod y perfformiad yn cael ei ymestyn rhywfaint (mae Ruth bob amser yn dweud mai’r un olaf yw fy ffefryn i!). Mae’r ymddiriedolwyr wedi ymgysylltu drwy is-bwyllgorau, cadeirio paneli grant, arwain ar themâu blaenoriaethol ac ati, a’r cwbl yn cael eu galluogi a’u cefnogi gan Tracey Lewis – yr ysgrifennydd cwmni gorau bosibl!
Rydyn ni ar fin dechrau’r cam nesaf gyda blaenstrategaeth newydd ar gyfer y bum mlynedd nesaf, gan ystyried yr hyn a ddysgwyd o’r pandemig a thrwy ymgysylltu â’r sector ar flaenoriaethau’r dyfodol. Gwnaeth gwerthiant amserol Tŷ Baltig, adeilad a oedd angen cryn dipyn o ailwampio, nid yn unig ddiogelu buddsoddiad ar gyfer yr hirdymor, ond mae hefyd yn golygu y gallwn ni fabwysiadu trefniadau gweithio mwy hyblyg wrth i ni symud i swyddfeydd newydd, mwy addas yn Un Rhodfa’r Gamlas, ochr yn ochr ag CLlLC, Data Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
HERIAU A CHYFLEOEDD
Wrth gwrs, mae heriau o’n blaenau. Rydyn ni wedi bod yn falch iawn, fel y dylem fod, o fod yr unig gorff anllywodraethol yn y DU i gael statws Corff Cyfryngol i ddosbarthu cyllid rhaglenni’r UE, gan ddangos pa mor effeithiol ydym ni o ran rheoli’r gwaith o ddyrannu adnoddau i’r lleoedd sydd eu hangen fwyaf. Fodd bynnag, mae’r rôl hon yn dod i ben yn 2023 ac mae ansicrwydd o hyd ynghylch pa gyllid fydd yn dod i’r sector yn lle’r cyllid Ewropeaidd. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y partneriaethau agosach a ffurfiwyd gan y pandemig ar draws sectorau yn cael eu hymwreiddio nawr, gyda’r sector gwirfoddol yn bartner cyfartal. Mae’r argyfyngau hinsawdd a natur, datblygiadau digidol, anghydraddoldebau ac argyfyngau yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn mynnu ein bod yn gweithio ar raddfa a chyflymder y tu hwnt i’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma.
Mae angen i ni ddod ynghyd fel sector gwirfoddol i wneud mwy o wahaniaeth drwy gyflawni ar y raddfa a’r cyflymder hwnnw. Mae gennym ni blatfform cryf gyda’n partneriaid o Gynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghefnogi Trydydd Sector Cymru, sy’n cysylltu rhwydweithiau lleol a chenedlaethol er mwyn arwain newid ledled Cymru.
Bydd fy rôl fel Cadeirydd yn dod i ben yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) y flwyddyn nesaf, ond gyda’r broses o recriwtio cadeirydd newydd eisoes ar droed, rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’m holynydd er mwyn sicrhau ein bod mewn sefyllfa gref i ateb yr heriau hynny dros y bum mlynedd nesaf a thu hwnt.
MWY O WYBODAETH
Edrychwch ar erthygle recriwtio a fideo byr gan Peter am ei brofiad fel cadeirydd CGGC.