nenlinell Singapore

Edrych ar waith ieuenctid yn Singapore

Cyhoeddwyd: 10/04/26 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Cindy Chen

Yn y gyntaf o ddau flog, mae Cindy Chen o Promo Cymru yn siarad am ymweld â chanolfannau ieuenctid yn Singapore fel rhan o daith ddiweddar a gyllidwyd drwy ein bwrsari arweinyddiaeth.

Fel derbynnydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn 2024, dechreuais ar daith ddysgu i Singapore yn 2025 i edrych ar eu hymagweddau at ymgysylltu ag ieuenctid a gwaith ieuenctid. Cysylltais â chanolfannau ieuenctid, darparwyr gwasanaethau ac arweinwyr ifanc brwdfrydig sy’n llywio dyfodol ymgysylltu ag ieuenctid mewn byd sy’n prysur fynd yn ddigidol.

DARGANFOD RHAI O GANOLFANNAU IEUENCTID SINGAPORE

Dechreuais fy ymweliad astudio drwy gwrdd â’r Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid, Joel Goh a’r Uwch Weithiwr Ieuenctid, Charis Lim, yng Ngwasanaethau Ieuenctid Care Corner (Woodlands), lle maen nhw’n gweithio.

Mae’r ganolfan, sydd ar ystâd dai a drws nesaf i ysgol, yn cael ei chyllido i gefnogi pobl ifanc sydd wedi cyflawni mân droseddau (e.e. fandaliaeth, lladrata) trwy raglen wrthdyniadol. Ei nod yw rhoi sgiliau bywyd a hunanreolaeth i’r ieuenctid, annog penderfyniadau cyfrifol a helpu i reoli dylanwadau negyddol eu cyfoedion. Mae’r gweithwyr ieuenctid yn darparu cymorth holistaidd ac yn cynnwys teuluoedd, ysgolion a chyflogwyr er mwyn atal pobl ifanc rhag troseddu eto.

Ynghyd â hyn, mae Gwasanaethau Ieuenctid Care Corner hefyd yn darparu gwaith ieuenctid ar y stryd i bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio o systemau fel teulu neu ysgol. Mae gweithwyr ieuenctid yn ymhél â nhw yn yr amgylcheddau sy’n well ganddynt er mwyn deall eu hanghenion a’u harwain tuag at nodau addysg a chyflogaeth.

NEWID CYFEIRIAD BYWYD RHYWUN IFANC

Wrth rannu’r profiad hwn, cynigiodd Joel fewnwelediad pwerus, ‘i fod yn weithiwr ieuenctid, mae’n rhaid i chi fod yn greadigol. Mae cael cyfle i newid cyfeiriad bywyd rhywun ifanc yn anhygoel.’

Eglurodd Joel fod rhaglenni ieuenctid Singapore yn wahanol i rai Cymru; yma, mae canolfannau ieuenctid galw heibio yn gyffredin, ond mae’r rhai yn Singapore yn cael eu gyrru’n bennaf gan broblemau neu’n seiliedig ar brosiect, a’r prif fodd o ymgysylltu yw gwaith ieuenctid datgysylltiedig.

Wedi dweud hynny, mae canolfannau ieuenctid galw heibio yn bodoli yn Singapore. Yn wir, mae un o’r canolfannau mwyaf, sydd â’r adnoddau gorau ac sy’n cael ei chefnogi gan gyllid y llywodraeth, wedi’i leoli yng nghanol y ddinas.

*SCAPE

Mae *SCAPE yn ofod a sefydlwyd i bobl ifanc yn ardal fanwerthu fywiog Orchard Road bron dau ddegawd yn ôl. Ym Mawrth 2005, gwnaeth y Gweinidog Datblygu Cymunedol, Ieuenctid a Chwaraeon ar y pryd, Dr. Vivian Balakrishnan, gyhoeddi cynlluniau i drawsnewid 1.2 hectar o eiddo tirol poblogaidd yn ofod pwrpasol i bobl ifanc. Gwnaed y penderfyniad mewn ymateb i alwadau cynyddol gan bobl ifanc Singapore i gael rhywle penodol iddyn nhw – ar gyfer hamdden, hunanfynegiant a chymuned.

Dechreuodd gyda pharc sglefrio, ond nawr, mae’n adeilad pum llawr trawiadol i ddiwallu anghenion datblygol pobl ifanc. Mae mannau agored eang i bobl ifanc fod yng nghwmni eu ffrindiau, stiwdios a theatr i’w llogi a byrddau i ddarllen a gweithio. Mae digwyddiadau wedi’u targedu at ieuenctid yn cael eu cynnal bob wythnos.

SIOP UN STOP

Dywedodd Vincent Loh, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cynorthwyol yn *SCAPE, ‘Mae *SCAPE yn cynnig mynediad agored i bob person ifanc yn Singapore, waeth beth yw eu galluoedd academaidd.’

Eglurodd fod y ganolfan ieuenctid yn cael ei thrydydd weddnewidiad mewn 20 mlynedd, ac mae’r *SCAPE diwygiedig yn rhan o Gynllun Ieuenctid SG, sef glasbrint pum mlynedd ar sut i gefnogi ieuenctid y wlad.

Erbyn diwedd y flwyddyn hon, bydd *SCAPE yn fwy na lle i ‘hongian allan’ yn unig. Mae’n gobeithio bod yn hyb un stop bywiog lle gall pobl ifanc feddwl am y pethau sy’n eu hysgogi, cael cymorth gyda’u lles meddyliol, cymryd rhan mewn hyfforddiant digidol ac AI a rhaglenni datblygu personol.

RHOI CYMORTH I BOBL YN EU GOFOD NHW

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae *SCAPE wedi mynd ati’n strategol i guradu ei gymysgedd o denantiaid, gan gynnwys mudiadau sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, gan atgyfnerthu ei nod o fod yn ofod un lle i ieuenctid.

Mae CHAT a grovve yn ddau wasanaeth cymorth i bobl ifanc sydd wedi dewis cael eu swyddfeydd yno. Gwasanaeth iechyd meddwl i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed yw CHAT, a sefydlwyd gan Weinyddiaeth Iechyd Singapore yn 2009. Mae’n cynnig asesiadau iechyd meddwl cyfrinachol a chymorth iechyd meddwl drwy sgwrsio ar y we a chynnal sesiynau wyneb yn wyneb.

Pan wnes i gyfarfod ag Yap Ming Hui, yr Uwch Weithiwr Cymorth Ieuenctid, dywedodd wrthyf am feddwl am CHAT fel batri ‘AAA’ Singapore ar gyfer iechyd meddwl ieuenctid. Maen nhw’n grŵp o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n helpu pobl ifanc drwy godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, hybu mynediad at adnoddau iechyd meddwl ac asesu anghenion iechyd meddwl pobl ifanc.

Mae CHAT yn swatio mewn rhan ddiymhongar o’r adeilad, sy’n helpu i greu ymdeimlad o gyfrinachedd ac anhysbysrwydd i’r rheini sy’n ymweld â’r lle. Mae’r lle’n gynnes ac yn groesawgar, gyda soffas cysurus, lluniaeth ac ystafelloedd cwnsela preifat er mwyn i bobl ifanc deimlo’n gysurus.

RHANNU YSBRYDOLIAETH O GYMRU

Yn ystod ein sgwrs, soniais fod CHAT yn fy atgoffa o Meic, sydd hefyd yn cynnig cymorth i bobl ifanc drwy sgwrsio. Rhoddais drosolwg o’r llinell gymorth genedlaethol yng Nghymru i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, a gyflwynir gan ProMo Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Synnodd glywed y gall pobl ifanc yng Nghymru gysylltu â Meic am unrhyw beth, yn wahanol i’r rhan fwyaf o linellau cymorth Singapore sy’n tueddu i ganolbwyntio ar faterion penodol.

Wedi hyn, aeth Ming Hui â mi rownd y gornel i weld grovve, y ganolfan les integredig gyntaf yn Singapore a ddyluniwyd gan bobl ifanc i bobl ifanc. Wedi’i sefydlu gan y Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol Cenedlaethol a’i bartneriaid, Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc SHINE, y Brahm Centre, Limitless a Gwasanaethau Cymunedol TOUCH, mae hwn yn ofod lle gall pobl ifanc ymlacio, dwdlo, chwarae gemau a siarad â gweithwyr ieuenctid.

Cefais fy nangos o amgylch grovve gan weithwyr ieuenctid a ddywedodd wrthyf fod y gofod hwn wedi’i greu ar ôl i bobl ifanc rannu eu bod wedi wynebu stigma o ran iechyd meddwl. Nod grovve yw helpu i chwalu’r stigma hwnnw a chreu amgylchedd mwy cefnogol. Roedden nhw eisiau lle diogel, anhysbys lle gallai pobl ifanc gael help heb ofni y byddant yn cael eu barnu. Atgoffodd fi ar unwaith am yr ‘Hangouts’ sydd gan Platfform yng Nghaerdydd a’r Barri, sy’n debyg o ran diben ac ysbryd.

RHAGOR O WYBODAETH

Mae ProMo Cymru yn arbenigo mewn gwaith ieuenctid, dylunio gwasanaethau a chyd-gynhyrchu. Rydym yn canolbwyntio ar wella bywydau a phrofiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

 

Os hoffech wybod sut gallwn ni eich helpu i wneud hyn, siaradwch â ni: cindy@promo.cymru.

 

Mwy am hyn

https://wcva.cymru/cy/views/gwaith-ieuenctid-yn-singapore-gwersi-i-gymru/