An older woman reaching out and holding hands with someone out of frame.

Dysgu o wirfoddoli gyda phobl hŷn yn y maes gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd: 13/09/22 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Gwnaeth gwaith ymchwil gan Brifysgol Bryste edrych ar gyfraniad gwirfoddolwyr mewn gwahanol leoliadau gofal cymdeithasol ac amlygu rhai o’r heriau.

Gan ystyried galw cynyddol y boblogaeth a chapasiti adfydus y system ofal, mae’n amlwg bod angen modelau mwy cynaliadwy o wasanaethau cymdeithasol. Gall gwirfoddoli gynnig ffordd o harneisio ewyllys cymunedol, gan hefyd gynnig cyfleoedd i bobl gael profiad a gwneud gweithgareddau bwriadol.

Canolbwyntiodd y gwaith ymchwil ar saith mudiad gwirfoddol a oedd yn cynnwys gwirfoddolwyr. Roedd dau ohonynt yng nghefn gwlad a phump yn y ddinas. Roedd gan bob un ond un traddodiad hir o gynnwys gwirfoddolwyr.  

SUT MAE GWIRFODDOLWYR YN CAEL EU CYNNWYS?

Y saith gwasanaeth a gyflwynwyd gan wirfoddolwyr oedd:

  1. Cyfeillio, mewn pentref ymddeol
  2. Gweithgareddau cymdeithasol mewn canolfannau gofal dydd (dau brosiect – un yn rhoi gofal i bobl hŷn o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig yn benodol)
  3. Gweithgareddau ffisegol a cherddorol mewn lleoliadau gofal preswyl
  4. Ymweld â chartref gofal a gwneud gweithgareddau yno
  5. Cefnogi gwasanaeth yn y cartref ar ôl cael ei ryddhau o’r ysbyty
  6. Clwb cinio

Gwelwyd tri model cynnwys gwirfoddolwyr penodol:

Ychwanegiad i’r gwasanaeth, lle roedd gwirfoddolwyr yn cynnig rhywbeth uwchlaw’r hyn a oedd yn cael ei ddarparu gan weithwyr gofal a dalwyd.  Mae’r gwasanaeth cyfeillio o fewn y pentref ymddeol (a) a’r asiantaeth wirfoddol yn cyflwyno gweithgareddau o fewn cartrefi gofal (c) yn enghreifftiau.

Gwasanaeth ar wahân, annibynnol. Enghraifft o hyn yw’r cymorth yn y cartref, a gafodd ei drefnu a’i reoli gan elusen genedlaethol a’i gomisiynu gan y grŵp comisiynu lleol a’r awdurdod lleol (e). Yn yr un modd, y clwb cinio, a drefnwyd gan fanc amser gydag aelodau o’r gymuned leol mewn ymateb i angen a welwyd am weithgareddau ymhlith pobl hŷn (f).

Cynorthwyo aelodau staff a delir. Gwelwyd y trydydd model hwn mewn dwy ganolfan dydd (b) ac yn y cartref gofal (d). Er mai cylch gwaith cychwynnol gwirfoddolwyr oedd cymryd rhan mewn sesiynau gweithgarwch ar gyfer preswylwyr a chefnogi’r sesiynau hyn, daeth rolau’n fwy annelwig, yn enwedig ar adegau pan oedd prinder staff, gyda’r gwirfoddolwyr yn gweithio o fewn tîm, yn llenwi bylchau ac yn bwrw ati â’r hyn oedd angen ei wneud.

CYMHELLIAD MUDIADAU

Mae’r modelau hyn yn dangos cymelliadau gwahanol fudiadau dros gynnwys gwirfoddolwyr.

Tyfodd y rhaglen gyfeillio o hanes o gynnwys gwirfoddolwyr a gweledigaeth i gael gwirfoddolwyr i gyfrannu at fywyd y pentref ymddeol, mewn ffyrdd gwahanol, er mwyn cyfoethogi bywydau’r preswylwyr. Cydnabu fod ‘gwirfoddolwr yn cyflwyno rhywbeth gwahanol’.

Gwnaeth y cynllun ganiatáu i’r pentref ymateb i unigrwydd ac ynysigrwydd mewn modd a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, a oedd yn seiliedig ar rannu diddordebau. Yn yr un modd, roedd gwirfoddolwyr a oedd yn cyflwyno sesiynau ymarfer corff a cherddorol mewn cartrefi gofal yn rhan o fudiad sydd wedi’i arwain gan wirfoddolwyr ers tro byd, sy’n hybu’r gymuned i gymryd rhan drwy wirfoddoli a gweithredu cymdeithasol.

Yn yr un modd, mae’r lleoliadau lle y darparodd gwirfoddolwyr wasanaeth ar wahân (e ac f) yn adlewyrchu diwylliant sy’n cynnwys gwirfoddoli fel un o egwyddorion craidd y mudiad.

I’r gwrthwyneb, roedd yr adegau hynny lle roedd gwirfoddolwyr yn ‘cynorthwyo staff a dalwyd’ neu’n llenwi bylchau yn y ddarpariaeth, yn amlwg yn cael eu cymell gan resymau mwy ariannol:

‘mae diwrnodau lle byddwn wedi gorfod cau’r gwasanaeth oni bai am wirfoddolwyr.’

Nododd yr ymchwil heriau penodol sy’n debyg i brofiadau mannau eraill. Mae’r un gyntaf yn ymwneud â recriwtio.

YR HER RECRIWTIO

Yn wahanol i’r hyn y mae rhai yn ei gredu (gan gynnwys gweinidogion y llywodraeth), nid oes ‘byddin’ o wirfoddolwyr yn aros i gael eu recriwtio er mwyn cryfhau’r maes gofal cymdeithasol. Canfu’r astudiaeth fod anawsterau recriwtio yn gyffredin ar draws y saith mudiad.

Gallai’r rhesymau dros hyn gynnwys mwy o ofal rhyng-genhedlaeth (gofalu am wyrion ac wyresau neu am rieni), newid y ddeddfwriaeth bensiwn a heriau sy’n ymwneud â lleoliadau penodol. (Gallwn ychwanegu pryderon parhaus rhai pobl i ddychwelyd i wirfoddoli ar ôl COVID-19 a’r argyfwng costau byw at y rhestr hon).

Er mwyn llwyddo i recriwtio gwirfoddolwyr, rhaid i’r ‘cynnig’ fod yn ddigon deniadol. Gellir ei deilwra i ddiwallu anghenion a dyheadau grwpiau penodol o’r boblogaeth a’i farchnata yn unol â hynny.

HYFFORDDIANT – CAEL Y CYDBWYSEDD IAWN

Yn aml, cymerir yn ganiataol bod hyfforddiant yn un o ‘fuddion’ deniadol gwirfoddoli, ond yn yr astudiaeth hon, roedd y mwyafrif o’r bobl wedi ymddeol, felly ni ddywedodd unrhyw un fod hyfforddiant yn gymhelliant i wirfoddoli.

Yn y ddau brosiect a ddisgrifiwyd fel ‘ychwanegiad gwasanaeth’ (a ac c uchod), datblygwyd rhaglen hyfforddi benodol a gorfodol i wirfoddolwyr ac roeddent yn hapus i’w dilyn. Yn achos dosbarthiadau ymarfer corff (c), roedd hyn yn cynnwys asesu’r gwirfoddolwr wrth iddo gynnal dosbarth i’w gyfoedion.

Pan oedd gwirfoddolwyr yn ‘staff cynorthwyol a dalwyd’ (b a d), ychydig iawn o hyfforddiant ffurfiol oedd yn gysylltiedig ac roedd agweddau staff at hyn yn gymysg. Nododd un rheolwr canolfan ddydd:

‘Hoffwn i weld pecyn hyfforddiant bach cyn iddyn nhw wirfoddoli’n go iawn … maen nhw’n mynd i wirfoddoli ar unwaith ac wedyn yn gyndyn i gamu’n ôl a dysgu unrhyw beth.’

Eglurodd rheolwr cartref gofal nad oedd hi wedi nodi unrhyw hyfforddiant ffurfiol ar gyfer gwirfoddolwyr oherwydd ‘mae gan yr unigolion hyn sgiliau bywyd … y maen nhw’n eu cyflwyno i ni.’

Teimlai rhai gweithwyr gofal bod angen hyfforddiant ar wirfoddolwyr i ddeall protocolau a ffiniau:

‘Nid yw gwirfoddolwyr yn deall bod ffyrdd penodol o wneud pethau.’

Darlun cymysg a gafwyd o ran y gwasanaethau ar wahân, annibynnol (e ac f). Gallai gwirfoddolwyr fod yn feirniadol o’r hyfforddiant cynefino dwys cychwynnol a oedd yn eu dal yn ôl o allu dechrau gwirfoddoli i gynorthwyo pobl yn eu cartrefi. Nododd rhai gwirfoddolwyr hyfforddiant parhaus, gorfodol fel rheswm am adael y mudiad:

‘…roedden nhw’n cael digon, ac yn gadael.’

Nid yw dod o hyd i’r cydbwysedd iawn rhwng darparu hyfforddiant hanfodol a gorlwytho gwirfoddolwyr yn hawdd, ond mae’n hanfodol i lwyddiant gwasanaethau gwirfoddol.

GWIRFODDOLI YNG NGHYD-DESTUN TORIADAU

Mae’r argyfwng yn y sector gofal a’r hinsawdd doriadau yn effeithio’n negyddol ar brofiad gwirfoddolwyr.

Ym mhob lleoliad a astudiwyd, gwnaeth y rheini a oedd yn gyfrifol am wirfoddolwyr sôn am yr angen i amddiffyn cyfraniad gwirfoddolwyr:

‘Dylai’r hyn y mae pobl yn ei gynnig gael ei barchu’n fawr, oherwydd mae’r hyn y maen nhw’n ei wneud yn wych. Peidiwch â’u tanbrisio drwy ddweud “Gallwch chi fynd i wneud y llungopïo”.’

Roedd yr her hon yn anoddach ei rheoli mewn lleoliadau lle nad oedd y ffiniau rhwng cyfraniad gwirfoddolwyr a gwaith staff a dalwyd mor eglur. Mae ffurfiau traddodiadol o ofal dydd, fel canolfannau dydd, wedi’u bwrw’n arbennig o galed gan gyni ac roedd tueddiad i wirfoddolwyr gael eu tynnu i mewn i waith gofal uniongyrchol, yn aml oherwydd prinder o staff a dalwyd.

Nid yw gwasanaeth o dan bwysau yn debygol o roi profiad positif i wirfoddolwyr. Fel nododd un rheolwr:

‘Pan fydd gennych chi wasanaeth sydd o dan bwysau a dan straen, nid yw rhywle ble mae pawb yn rhuthro o gwmpas, yn ceisio cynnig gofal am swm amhosibl o arian yn lle da i wirfoddolwr.’

CASGLIAD

Mae’r astudiaeth yn amlygu dysgu sy’n berthnasol o fewn y maes gofal cymdeithasol yn fwy cyffredinol

  • Mae angen recriwtio mewn modd penodol, realistig wedi’i dargedu a chyflwyno cynnig sy’n ddeniadol i wirfoddolwyr
  • Mae’r maint cywir o hyfforddiant, wedi’i gyflwyno yn y ffordd gywir, yn hanfodol – ac mae’n bur debyg y bydd angen adolygu hwn yn rheolaidd
  • Mae gwirfoddolwyr yn ffynnu mewn amgylchedd diwylliannol iach lle y caiff eu cyfraniad unigryw ei ddeall, ei werthfawrogi, ei gefnogi a’i ddiogelu
  • Mae’n well datblygu gwirfoddoli fel gwasanaeth penodol – naill ai fel ychwanegiad at ddarpariaeth ofal neu fel gweithrediad ar wahân, annibynnol. Pan fydd gwirfoddolwyr yno i gynorthwyo staff, heb rolau eglur, ceir y perygl mwyaf i ysbryd gwirfoddoli a cham-fanteisio ar wirfoddolwyr.

Daw’r gwaith ymchwil hwn o The contribution of volunteers in social care services for older people, gan Cameron, A, Johnson, E.K, Lloyd, L., Willis, P a Smith, R – Adolygiad o’r Sector Gwirfoddol, 2021.

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.