Dyma flog gan Alison Pritchard, Rheolwr Cyllid Cynaliadwy CGGC, ynghylch sut rydyn ni’n newid y ffordd yr ydyn ni’n cefnogi’r sector gwirfoddol gyda gwydnwch.
Ac ymlaciwch…
Ar ôl un o’r blynyddoedd rhyfeddaf a siŵr o fod prysuraf y mae CGGC wedi’i gweld yn ei 80+ o flynyddoedd, mae 2020/21 wedi dod i ben ac mae gennym ni gyfle go iawn nawr i edrych ar sut gallwn ni gefnogi ein haelodau a’r sector orau drwy 2021/22 a thu hwnt.
Mae gwydnwch wedi bod yn air poblogaidd yn y sector am sbel nawr, ond, diolch i bandemig Covid-19, mae’r gair wedi’i ddefnyddio hyd syrffed. Mae gwydnwch y sector gwirfoddol wedi’i drafod ym mhobman wrth i ni i gyd frwydro i droi, addasu, ymdopi a chynnal gwasanaethau a gweithgareddau er budd ein cymunedau. Wrth gwrs, ‘doedden ni ddim wedi eisiau gorfod bod *mor* wydn â hyn, ond dyna beth y mae llawer o flogiau eraill o’r 15 mis diwethaf wedi canolbwyntio arno.
NEWID EIN FFOCWS
Mewn ymateb i’n profiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae CGGC wedi gwneud gwydnwch yn flaenoriaeth strategol, ochr yn ochr â digidol a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI). Bydd ein gwaith yn y flwyddyn i ddod yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen a’i eisiau ar ein haelodau i’w cefnogi yn y meysydd gwaith hanfodol hyn. Rydyn ni eisoes wedi dechrau canolbwyntio ar wydnwch yn ein gwaith gydag, ac i’n, haelodau a’r sector gwirfoddol ehangach yng Nghymru (ynghyd â’r blaenoriaethau eraill, Digidol ac EDI).
EIN TÎM NEWYDD
Un o’r prif ffyrdd rydyn ni’n gwneud hyn yw trwy gyfuno ein swyddogaethau Llywodraethu a Diogelu, Cyllid Cynaliadwy (ni ddylid drysu hwn â’r timau sy’n darparu ein cynlluniau grantiau a benthyciadau) a swyddogaethau Amrywiaeth Cenedlaethol i wneud un tîm.
Rydyn ni wedi ychwanegu amrediad o rolau newydd, gan gynnwys Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Swyddog Arloesedd Digidol a Swyddog Gwydnwch dynodedig a fydd yn ein helpu ni i lunio’r ffordd rydyn ni’n cynorthwyo’r sector i oroesi a ffynnu mewn cyfnodau o newid.
Yn unol â’n diben, bydd y ‘Tîm Gwydnwch a Datblygu’ newydd yn gwneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd – gan gyfuno ein gwybodaeth a’n harbenigedd ar draws yr agweddau amrywiol ar redeg mudiadau gwirfoddol sy’n cyfrannu at wydnwch, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill:
- Cynhyrchu incwm cynaliadwy
- Tystiolaeth gref a diogelu
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Cynllunio busnes a meddwl yn strategol
- Sicrhau ansawdd
- Arloesedd
- Effaith a gwerthuso
MWY O ARWEINIAD AR GYFER EICH GWAITH
Mae’r capasiti ychwanegol o fewn y tîm yn golygu y byddwn ni’n cynhyrchu mwy o adnoddau ac yn darparu mwy o hyfforddiant yn ystod 2021/22.
Felly cadwch eich llygaid ar agor am fwy gennym ni ar wydnwch yn dod yn fuan, gan gynnwys sut rydyn ni’n ei ddiffinio’r term a rhestr ehangach o bethau sy’n cyfrannu at wydnwch mudiadau gwirfoddol.
Gallwch chi ddechrau trwy ddarganfod sut i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil rydyn ni’n ei wneud mewn partneriaeth â Chwmni Buddiannau Cymunedol ‘Grow Social Capital’ i ganfod beth sy’n bwysig er mwyn gwneud mudiad yn wydn. Yma mae Russell o Grow Social Capital CIC yn cyflwyno’r ymchwil drwy ofyn sut mae’r coronafeirws wedi effeithio ar wydnwch eich elusen?