Dwylo'r person ar fwrdd gyda graffiau ac arian

Dylanwadu ar raglenni ariannu y dyfodol

Cyhoeddwyd: 28/02/22 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Jessica Williams

Rydym yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith o amgylch y tirlun cyllido yng Nghymru a’r DU yn y dyfodol.

Mae’r sector gwirfoddol wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno’r rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru. Gwnaeth y sector ddefnyddio’r cyllid i ddylunio gwasanaethau arloesol a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer rhai o unigolion a chymunedau mwyaf anghenus Cymru. Mae gan CGGC hefyd ei hanes ei hun â’r rhaglenni Ewropeaidd. Rydyn ni wedi cyflwyno llawer o brosiectau yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf, ac yn 2014, cawsom ein gwneud yn Gorff Cyfryngol – gan ein galluogi i ddosbarthu mwy na £48 miliwn mewn grantiau maint hygyrch i rai o’r grwpiau gwirfoddol lleiaf, yr holl ffordd i elusennau mawr rhyngwladol.

Nid ydym eisiau i gyflawniadau’r sector ddiflannu gyda’r rhaglenni Ewropeaidd. Dyna pam rydym yn gwthio, ar bob cam, i’r sector gwirfoddol fod yn rhan o unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud am ffrydiau cyllido newydd Llywodraeth y DU – gan amlygu’r hyn y gall y sector ei gyfrannu a’i chyflawni os cawn y cysylltiad a’r adnoddau priodol.

NEWID CYFEIRIAD

Mae llawer o hyn yn newydd i ni a’r sector. Yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf a rhagor, Llywodraeth Cymru sydd wedi bod wrth y llyw gyda chyllid Ewropeaidd yng Nghymru ac, er eu bod yn parhau i fod yn gynghreiriaid a phartneriaid allweddol, mae’n rhain i ni gryfhau ein cysylltiadau â Llywodraeth y DU. Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhan o’r sgyrsiau sy’n cyfri gyda’r rheini sy’n gwneud y penderfyniadau – yn mynd i gyfarfodydd ymgysylltu, mawr a bach, ysgrifennu at y rheini mewn swyddi dylanwadol ac yn ymateb i ymgynghoriadau a cheisiadau am dystiolaeth. Rydym yn gwneud hyn mewn partneriaeth â mudiadau eraill ledled Cymru a’r DU, lle bynnag y bo’n bosibl, gan gynnwys ein chwaer-gynghorau.

DYLANWADU – BETH RYDYM WEDI BOD YN EI WNEUD

Dyma gipolwg ar rai o’r pethau rydym wedi eu gwneud yn ddiweddar ar ddylanwadu yn y maes hwn. Rydym wedi:

  • Ffurfio partneriaethau gydag amrediad o fudiadau gwirfoddol y DU i anfon llythyr ar y cyd at Weinidogion ac Aelodau Seneddol Llywodraeth y DU, yn dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar cyn lansio’r UKSPF – rhoddwyd sylw i hyn yn ‘Cymdeithas Sifil’.
  • Dod yn rhan o weithgor Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) y sector gwirfoddol er mwyn helpu i wthio’r safbwynt datganoledig yn y trafodaethau hyn.
  • Cynnal sesiwn wybodaeth ar gyfer tîm Dinasoedd a Lleol Llywodraeth Cymru a oedd yn canolbwyntio ar dirwedd gyllido gyfredol Cymru, yr hyn a gyflawnodd y sector gwirfoddol gyda chyllid yr UE a’r effaith a gafodd yn sgil y cyllid hwn.
  • Ysgrifennu at Neil O’Brien (yr Is-ysgrifennydd Seneddol ar gyfer Codi’r Gwastad, Yr Undeb a’r Cyfansoddiad), gan agor y llinellau cyfathrebu rhwng ei adran ef a’r sector yng Nghymru.
  • Ysgrifennu at Neil Kinnock AS yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol (APPG) ar gyllid ôl-Brexit ynghylch yr effaith y mae colli cyllid yr UE yn ei chael ar Gymru, y sector a’r bobl sy’n byw a gweithio yng Nghymru.
  • Ymgynghori â mudiadau gwirfoddol yng Nghymru ar y Gronfa Adfywio Cymunedol. Lluniodd yr adborth a’r argymhellion bapur a anfonwyd at yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
  • Cyhoeddi datganiad mewn partneriaeth â’n chwaer-gynghorau yn amlinellu’r prif egwyddorion y mae’r mwyafrif o fudiadau gwirfoddol eisiau eu gweld wedi’u hadlewyrchu yn y cronfeydd newydd, gan gynnwys Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
  • Mynd i nifer o gyfarfodydd ynghylch ffrydiau cyllido newydd Llywodraeth y DU, gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Attended several meetings about the new UK Government funding streams, with the Department for Work and Pensions (DWP), yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC).
  • Ysgrifennu llythyr ar y cyd at Weinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru, yn amlinellu rhai o bryderon y sector o ran yr UKSPF a’r effaith uniongyrchol y bydd colli cyllid yr UE yn ei chael – o ganlyniad i hyn, crybwyllwyd CGGC a’r sector yn natganiad Economïau Rhanbarthol Cryfach Gweinidog yr Economi.
  • Ysgrifennu ac ymgysylltu â chydweithwyr yn y llywodraeth leol yn cynnig argymhellion ar sut gall y llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod ffrydiau cyllido i ddod yn cael eu dyrannu’n effeithiol ac yn gynhwysol yng Nghymru. Mae hyn i gydnabod y rôl allweddol y mae awdurdodau lleol wedi’i chael ac y byddant yn parhau i’w chael yn y rhaglenni cyllido newydd (gan gynnwys yr UKSPF).