Mae Sally Rees yn siarad am ei rôl yn CGGC – sydd ar agor nawr am geisiadau – a pham y mae’n gyfle gwych i rywun newydd gymryd yr awenau.
Mae CGGC yn recriwtio ar gyfer y swydd ‘Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ i gyflenwi fy secondiad i Lywodraeth Cymru. Mae’r swydd hon, fel contract cyfnod penodol neu secondiad, yn cynnig cyfle i ddatblygu gyrfa, waeth a ydych chi’n gweithio o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y sector gwirfoddol neu gyhoeddus ar hyn o bryd.
HER UNIGRYW
Mae’r swydd yn cynnig cyfle strategol unigryw a chyffrous i fod yn bwynt cyswllt a chroestoriad allweddol rhwng y sector gwirfoddol, Llywodraeth Cymru a chyrff o’r sector cyhoeddus. Bydd y rôl hon yn eich rhoi chi mewn cysylltiad ag amrywiaeth o bobl (gan gynnwys fi yn fy swydd newydd!), mudiadau a rhwydweithiau sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol.
A hoffech chi fod yn allweddol i gryfhau cysylltiadau sefydledig, datblygu rhai newydd ac i gydweithio â mudiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn y sector gwirfoddol – a chyda chyrff allweddol fel Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Gwelliant Cymru a Chomisiwn Bevan – er mwyn dylanwadu ar newidiadau cadarnhaol yn y gwaith o gyflenwi iechyd a gofal cymdeithasol?
YNGLŶN Â’R RÔL
Byddwch chi hefyd yn cynrychioli CGGC a’r sector gwirfoddol ar amrediad amrywiol o grwpiau a byrddau cenedlaethol; yn cyfnewid syniadau, gwybodaeth ac arbenigedd a safbwyntiau’r sector ar drawsnewid y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Ynghyd â hyn, byddwch chi’n gweithio gyda mudiadau sy’n cynnig gwasanaeth gofal a chymorth i’r grwpiau poblogaeth â blaenoriaeth a phobl â nodweddion gwarchodedig; plant a phobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd, gan hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, fel nad yw’r un drws i wasanaethau gofal a chymorth ar gau.
BETH SY’N GWNEUD Y SWYDD HON YN GYFFROUS?
Mae pob diwrnod yn wahanol, oherwydd yr amrywiaeth o weithgareddau y byddwch chi’n eu harwain neu’n rhan ohonynt, sy’n ei gwneud hi’n swydd gyffrous a dynamig. Bydd y rôl hefyd yn rhoi’r cyfle i chi adeiladu sylfaen dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio’n dda yn y sector gwirfoddol er mwyn cyflawni a chyfrannu at chwe ‘model gofal’ cenedlaethol newydd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu gweld yn cael eu cyflwyno ledled Cymru yn ystod y bum mlynedd nesaf.
Ni fu erioed adeg bwysicach ym maes polisi iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’r rôl y bydd gan y sector gwirfoddol o gyfrannu at y gwaith o drawsnewid a chyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac o ddylanwadu ar y gwasanaethau hyn yn gwbl hanfodol.
GWEITHIO YN CGGC
Rwyf wedi bod yn CGGC am dros bum mlynedd a gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon ei fod, ar wahân i pan oeddwn i’n Gyfarwyddwr elusen genedlaethol, wrth gwrs fy mod i’n mynd i ddweud hynny, yn un o’r mudiadau gorau rwyf wedi gweithio iddo.
Mae CGGC yn fudiad gofalgar, cefnogol sy’n darparu trefniadau gweithio hyblyg. Byddwch chi’n gweithio o fewn tîm a chyfarwyddiaeth rhagorol, ac yn allanol gyda’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol ac, er enghraifft, gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y sector gwirfoddol a chynrychiolwyr annibynnol o’r Bwrdd Iechyd a fydd yn croesawu eich rôl gefnogol.
Pob lwc ac edrychaf ymlaen at gwrdd â chi a gweithio gyda chi, yn enwedig o ran datblygu’r sylfaen dystiolaeth a mesur llwyddiant y gwaith a wneir o fewn cylch gwaith rôl y Rheolwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol.
RHAGOR O WYBODAETH AC YMGEISIO
Hyd: Cyfnod penodol – i Hydref 2024.
Oriau: 35 awr yr wythnos, yn hyblyg
Lleoliad: Hyblyg. Gweithio gartref, neu yn un o’n canolfannau swyddfa yn Abergele, Aberystwyth a Chaerdydd. Bydd angen mynychu digwyddiadau staff yn ôl yr angen.
Cyflog: £38,485 yn cynyddu i £40,537 y flwyddyn ar ôl cwblhau chwe mis o gyfnod prawf yn llwyddiannus.
Dyddiad cau: 30 Awst 2023, 10 am
Dyddiad cyfweliad dros-dro: 5 Medi 2023