Pobl yn chwarae gyda pharasiwt

Dycnwch a chreadigedd – neu, yr hyn a oedd eu hangen arnon ni i ddal ati!

Cyhoeddwyd: 13/12/21 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Karen Chalk

Mae Karen Chalk, derbynnydd Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie 2019, yn myfyrio ar ei phrofiadau o arwain elusen gynhwysiant yn Abertawe cyn ac yn ystod y pandemig.

Yng nghanol mis Ebrill 2020, disgrifiodd ffrind y pandemig fel rhywbeth a oedd yn ‘anodd i bawb mewn ffyrdd gwahanol’. Rwyf wedi clywed fersiynau eraill o hyn ers hynny, ond yr un yw’r ystyr. Weithiau, mae’r heriau y mae pobl a mudiadau yn eu hwynebu’n amlwg, ond yr un mor aml, caiff yr heriau eu cuddio’n aml gan sgriniau a phreifatrwydd dwysach cyfnodau clo olynol.

Mae dyfalu beth y mae pobl eraill yn eu hwynebu wedi bod yn amhosibl a gall fod yn anodd dod o hyd i’r wybodaeth; os yw hyn yn wir i unigolion, efallai bod hyn yn fwy gwir fyth i fudiadau. Mae sut rydyn ni’n ymdopi a beth sy’n digwydd o’n cwmpas ni, yn bersonol ac fel mudiad, wedi amrywio cymaint o un mis i’r llall – neu hyd yn oed mewn diwrnod! Mae wedi dod mor gymhleth i lywio, cyfathrebu ac i roi a derbyn cymorth.

Ond trwy hyn i gyd, mae’r angenrheidrwydd absoliwt i wneud y pethau hynny wedi parhau. Mae’n rhaid i ni, fel mudiadau’r sector gwirfoddol, barhau i lywio oherwydd rydyn ni’n gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud am reswm. Mae angen i ni barhau i gyfathrebu neu mae perygl y byddwn ni’n methu â chynorthwyo’r bobl sydd ein hangen fwyaf.

CIRCUS ERUPTION

Yn Circus Eruption, rydyn ni’n creu cyfleoedd i bobl gymysgu â’i gilydd ar sail gyfartal, gan fynd ati’n weithredol i hybu cynhwysiant a herio gwahanu a stigma. Yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi cynnal gweithdai syrcas i blant a phobl ifanc er mwyn magu hyder, cynyddu gwydnwch ac ennyn ymdeimlad o berthyn. Mae llawer o’r rheini rydyn ni’n gweithio gyda nhw’n wynebu heriau fel datganiadau neu labeli anabledd amrywiol, profiad gofal, statws ffoadur/chwiliwr lloches neu fod yn ofalwr ifanc.

Fel pawb arall bron a bod, bu’n rhaid i ni fynd ar-lein ym mis Mawrth 2020 ac mae’r creadigedd a’r gwydnwch a ddangoswyd gan staff a gwirfoddolwyr i ddal ati ar sgriniau wedi bod yn rhyfeddol i’w weld. Roedd hyd yn oed sefydlu’r fath beth yn gofyn am set newydd sbon o hyfforddiant i’r holl staff a gwirfoddolwyr a bu’n rhaid ymchwilio i bolisi diogelu digidol, ystyried drafft ohono a’i gymeradwyo mewn llai nag wythnos.

Pwy fyddai erioed wedi meddwl y gallai gweithdai syrcas – sy’n rhyngweithiadau ffisegol, personol yn ôl eu natur, barhau’n llwyddiannus ar-lein am flwyddyn a hanner?!

OFFER AR GYFER DYCNWCH

Rhan o’r rheswm ein bod wedi llwyddo i ddal ati gystal oedd oherwydd syniadau creadigol y tîm; maen nhw’n wych am feddwl ar eu traed ‘yn yr ystafell’, felly yn ystod sesiynau zoom, aethant ati ar unwaith i ddysgu plant i jyglo gyda sanau wedi’u rholio’n beli, er enghraifft – a gafodd sylw cenedlaethol, gyda chwpwl o fideos yn cael eu dangos ar Blant mewn Angen y BBC, un o’n cyllidwyr.

Erbyn yr haf, roedd hi’n amlwg fod pethau’n mynd yn waeth na’n well, a chan deimlo na fydden ni o bosibl yn gallu gweld y bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw eto dan do nes y gwanwyn (dyna beth oedden ni’n ei ofni ar y pryd!), aethom ati i feddwl am sut gallem ni gwrdd â nhw dan do yn yr hydref.

Y fersiwn fer yw ein bod wedi llwyddo i logi pabell fawr, ysgrifennu a gweithredu asesiadau risg COVID-19 a rhoi hyfforddiant, dod o hyd i gae i osod y babell a chynnal gweithdai syrcas drwy gydol mis Hydref 2020, y tu allan a chyda’r holl brotocolau COVID a chadw pellter cymdeithasol ar waith. Roedd yn waith caled ond yn llawer o hwyl ac yn brofiad gwych i bawb – a oedd yn eithaf peth i’w gyflawni pan nad oedd llawer o hyn ar gael ar ddiwedd 2020.

SYLFEINI CRYF

Ond ni ymddangosodd y rhain yn ddisymwth. O ran y mudiad, ni allwn orbwysleisio cymaint y gwnaethon ni ddibynnu ar ein sylfeini cryf.

I ddechrau, roedd ein cydberthnasau cyfredol â chyllidwyr yn dyngedfennol. Trwy ein cysylltiadau â chyllidwyr, bu modd i ni hefyd addasu cyllid cyfredol yn ogystal â chysylltu â chyllidwr newydd a oedd yn gwybod am ein gwaith er mwyn darparu’r babell fawr, ac rwy’n siŵr bod ein cysylltiadau blaenorol â chyllidwyr hefyd wedi ein helpu gyda’n cais COVID-19 brys. Rydyn ni’n gobeithio ein bod yn agored ac yn dryloyw gyda phawb, ac mae hyn yn cynnwys yn fawr iawn y rheini sy’n ein cynorthwyo ni’n ariannol.

Yn ail, rydyn ni eisoes yn cydweithio’n aml. Gwnaethon ni gyflwyno ein sesiynau ‘Big Top’ ar gae Cwmni Buddiannau Cymunedol ‘Summit Good’ yn Nyfnant – mudiad yr aethon ni ato flwyddyn neu ragor ynghynt i weld a oedd unrhyw gyfleoedd i gydweithio! Pan wnaeth ein trefniant cychwynnol i logi pabell fawr fethu, roedd rhywun yn adnabod rhywun a allai helpu.

Rydyn ni’n gweithio’n wych gyda’n gilydd hefyd fel mudiad; gan mai fy rhan i yn y jig-so hwn yw gwneud yn siŵr bod gan y mudiad fomentwm, ei fod yn glynu wrth ei ddiben a bod pawb yn barod i chwarae eu rhan, gwnes fy ngorau i gefnogi a chael fy nghefnogi. Roedd ein parodrwydd i weithio gydag eraill ac i werthfawrogi cyfraniadau ein gilydd yn gyfartal o fewn y mudiad – arferion diwylliannol a ddatblygwyd dros ddegawdau – yn fanteisiol iawn i ni.

Yn olaf, roeddem ni’n drefnus. Er nad yw ein strwythur yn hierarchaidd, rydyn ni’n gwybod ein rolau! Ychydig iawn fu’n rhaid i mi ei wneud gyda’r ddarpariaeth ddyddiol, a chanolbwyntiais ar wneud yn siŵr nad oedden ni’n syrthio’n ariannol, serch colli 100% o incwm ein gweithdy heb rybudd. Daethom drwyddi – yn bennaf drwy gyllid grant brys.

YN ÔL I EDRYCH YMLAEN

Yn ddiweddarach, bu modd i mi ganolbwyntio ar ein strategaeth a’n dyfodol – rhywbeth roeddem ni wedi bod yn eu cynllunio ar eu cyfer cyn y pandemig. Gwnaeth cydweithiwr ymchwilio i asesiadau risg a pholisïau a gweithdrefnau diogelu, eu drafftio, ysgrifennu, golygu a’u hadolygu’n barhaus (yn enwedig rhai C-19) gydag ymrwymiad a sylw i fanylder anhygoel.

Roedd lefel y protocol oedd ei hangen i gyflwyno gweithdai’n bersonol yn yr awyr agored yn ddigon i ddod â dagrau i’ch llygaid (mae cwarantinio ac yna glanhau pob darn o offer syrcas a ddefnyddir rhwng gweithdai yn llawer o waith!). Gwnaeth y tîm ddod o hyd i ffyrdd newydd o gynnal syrcas ar-lein o un wythnos i’r llall … ac, wrth gwrs, roedden ni i gyd yn wynebu ein heriau ‘anodd gwahanol’ ein hunain ar yr un pryd.

Fel y dywedais ar y dechrau, ni allwn ni weld i mewn i fudiadau ein gilydd yn hawdd iawn ac rwy’n poeni fy mod wedi gwneud iddo swnio fel petai wedi bod yn reit hawdd i ni! D’oedd hi ddim; d’yw hi ddim o hyd. Ond rydyn ni yma o hyd, yn ôl ‘yn yr ystafell’ o’r diwedd (yn ein hadeilad ein hunain o’r diwedd, ond stori arall yw honno!), gyda strategaeth newydd a gweledigaeth newydd ar gyfer y dyfodol, ac wrth gwrs, gyda gwirfoddolwyr, plant a phobl ifanc, ymddiriedolwyr a staff anhygoel.

Gwnaeth y sylfeini sydd gennym o fod yn drefnus, yn gydweithredol ac mewn cysylltiad alluogi ein creadigedd a’n dycnwch i ffynnu drwy gydol y cyfnod anhygoel o heriol hwn, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yr egwyddorion a’r arferion hyn yn parhau i’n galluogi i dyfu, newid ac i ddal ati ymhell i mewn i’r dyfodol.

BWRSARIAETH ARWEINYDDIAETH WALTER DICKIE

Derbyniodd Karen Chalk Fwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie 2019. Nod y fwrsariaeth gan CGGC yw helpu arweinwyr yn y sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth entrepreneuraidd. Mae’r dyfarniad blynyddol yn rhoi £2,500 i gefnogi unigolyn yng Nghymru i ddod yn arweinydd gwell.

Mae bwrsariaeth arweinyddiaeth 2021 ar agor nawr am geisiadau. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar Fwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Chwefror 2022.

MWY GAN KAREN CHALK

Pŵer camu nôl i symud ymlaen