Ar gefn ein hadrdoddiad diweddaraf ar gyllid cynaliadwy yn y sector gwirfoddol, mae Dr Martin Price yn rhoi neges atgoffa amserol i ni am bwysigrwydd cynnwys codi arian yn eich cynlluniau cynhyrchu incwm.
Os gofynnoch chi i’r person cyffredin ar y stryd beth yw gwaith elusennau, bydd y mwyafrif ohonynt yn dechrau sôn am godi arian. Yna, byddant yn sôn am y gwaith da y mae elusennau’n ei gyflawni a byddant yn sôn am rai o’r brandiau mawr a’r elusennau lleol y mae eu gwaith yn cyffwrdd â nhw’n bersonol ond codi arian yw’r peth cyntaf ar eu meddyliau.
Ond nid yw’r mwyafrif o elusennau yng Nghymru yn codi arian gan y cyhoedd. Mae elusennau yng Nghymru’n dibynnu’n fwy ar gyllid gan y Llywodraeth nag y mae elusennau yn Lloegr a’r Alban. Golyga Brexit na fydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd sydd wedi bod yn brif gynheiliad cyllid elusennau yng Nghymru ar gael yn y dyfodol. Mae cystadleuaeth ar gyfer grantiau gan Ymddiriedolaethau Elusennol eisoes yn ddwys a bydd hi’n ddwysach byth.
CELFYDDYDAU COLL CODI ARIAN
Nawr yw’r amser i edrych ar gelfyddydau coll codi arian cyhoeddus. Mae’n bleser gennyf weld bod diweddariad 2021 Cyllid Cynaliadwy ar gyfer y Trydydd Sector CGGC yn sôn am godi arian yn fwy nag y cyfeirir ato yn fersiwn 2016. Canolbwyntiodd y Cynllun Gweithredu ar gyfer yr ail fersiwn ar gyllid grantiau ac nid oedd yn sôn yn benodol am godi arian o gwbl.
Mae angen i elusennau yng Nghymru ddychwelyd i’r hyn y mae mudiadau gwirfoddol bach wedi bod yn ei wneud sef gofyn i’r cyhoedd am arian i gefnogi eu gwaith da ond trwy ddefnyddio’r adnoddau cyfoes sydd ar gael.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn fentor ar brosiect Gwiriad Iechyd Codi Arian Sefydliad Siartredig Codi Arian Cymru a ariennir gan raglen Sgiliau’r Trydydd Sector Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gan helpu elusennau bach a chanolig i ddatblygu strategaethau codi arian.
Mae fy nghwestiynau cyntaf yn ymwneud â pha mor hawdd yw’r broses i bobl roi arian i’r elusen ac a yw’r mudiad wedi’i gofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth. Nid yw’n fy synnu bellach pan glywaf nad yw’r mwyafrif ohonynt yn gofyn am arian ar eu gwefannau ac nid ydynt yn manteisio ar roi mewn dull treth effeithlon er mwyn rhoi hwb i roddion gan y cyhoedd.
Dylai pob elusen gynnwys botwm mawr rhoi arian ar dudalen hafan ei gwefan sydd wedi’i gysylltu â phlatfform rhoi arian ar-lein sy’n hawdd ei ddefnyddio a defnyddio cyfryngau cymdeithasol a’u holl gyfathrebu â chefnogwyr i ddenu pobl i’w tudalen rhoi arian yn rheolaidd.
GWNEWCH Y BROSES RHOI ARIAN YN HAWDD
Un elfen gadarnhaol o’r ymateb i’r pandemig yw bod elusennau wedi sefydlu proses rhoi arian ar-lein er mwyn atgyweirio eu sefyllfa ariannol. Un enghraifft ardderchog o hyn yw Archesgobaeth Gatholig Caerdydd sydd bellach yn derbyn rhoddion ar-lein ar gyfer pob plwyf ar ôl i eglwysi gael eu gorfodi i gau eu drysau ac yna ailagor i gapasiti llai gan gael effaith ar blât y casgliad wythnosol.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o lawer mwy o elusennau sy’n cynyddu eu defnydd o ddyfeisiau heb arian parod i dderbyn rhoddion gan aelodau o’r cyhoedd sydd bellach yn defnyddio taliadau di-gyswllt ac nid ydynt yn cadw arian parod yn eu pocedi. Mae angen i ni wneud rhoi arian yn broses hawdd.
Dylai gofyn am arian gan y cyhoedd fod yn amlwg i unrhyw elusen yng Nghymru ond rwyf wedi gweithio gyda nifer o elusennau ieuenctid yng Ngorllewin Cymru a oedd yn dibynnu ar grantiau ond nid oeddent wedi ystyried gofyn i’r gymuned leol roi arian i gefnogi’r bobl ifanc; dyfodol eu tref. Mae angen i elusennau lleol wneud y mwyaf o’r ewyllys da yn eu hardaloedd ac i beidio â bod ofn gofyn am gymorth cadarn.
CODI ARIAN DRWY RODDION
Pan siaradaf ag elusennau am godi arian trwy roddion mawr, mae eu llygaid yn pylu. ‘Nid oes unrhyw un cyfoethog yn byw yma’. Oes, mae pobl gyfoethog yn byw yma. Mae pobl gyfoethog yn byw ledled Cymru, pobl gyfoethog a chanddynt ddiddordeb yng Nghymru, pobl gyfoethog a chanddynt ddiddordeb yn eich achos chi. Mae angen i chi ddechrau chwilio amdanyn nhw.
Yn ddiweddar, anogais aelodau mudiad treftadaeth yng Nghymru i feddwl am eu cysylltiadau a phenderfynodd y Cadeirydd ysgrifennu at rywun a oedd wedi eistedd wrth ei ymyl yn ystod rhyw ginio fisoedd yn ôl. Cyrhaeddodd siec am swm sylweddol drwy’r post gan unigolyn nad oeddwn wedi clywed amdano ond gwelais ei enw yn Sunday Times Rich List yr wythnos ganlynol.
CODI ARIAN DRWY GYMYNRODDION
Codi arian drwy gymynroddion yw un o’r meysydd mwyaf proffidiol ar gyfer yr elusennau mawr yn y Deyrnas Unedig ac mae hyn yn cynyddu yng Nghymru. Dylai elusennau bach yng Nghymru feddu ar dudalen ar eu gwefannau sy’n esbonio pa mor hawdd ydyw i adael arian i elusen, y buddion treth, a’r geiriau i’w defnyddio mewn ewyllys.
Dylid adeiladu ar hyn trwy gynnwys paragraff byr ym mhob gohebiaeth â chefnogwyr gan gynnwys dolen a dylai pob elusen leol sicrhau bod gan bob cyfreithiwr yn y dref ddigon o daflenni am eich gwaith da. Dyma enghraifft o ddull codi arian sy’n gost isel ond sydd, o bosib, yn wobrwyol iawn.
CODI ARIAN YN DDA
Mae codi arian yn ymwneud â bod yn ddigon dewr i ofyn am arian a gwneud y broses o roi arian yn un hawdd. Mae meddu ar agwedd broffesiynol a hyfforddiant a chyngor da yn fuddiol a gall adnoddau a rhaglenni hyfforddiant y Sefydliad Siartredig Codi Arian a Chefnogi Trydydd Sector Cymru gynorthwyo â hyn.
Sicrhewch fod eich dulliau codi arian yn gyfreithiol ac yn foesegol. Darllenwch a chyfeiriwch at y Côd Ymarfer Codi Arian a gynhelir gan y Rheoleiddiwr Codi Arian.
Gall elusennau yng Nghymru oresgyn effeithiau Brexit a phandemig Covid-19 drwy ddychwelyd i’w gwreiddiau codi arian.
Mae Dr Martin Price yn bartner yn Consultancy.coop LLP, mae’n Gymrawd y Sefydliad Siartredig Codi Arian ac yn aelod o Fwrdd Rheoleiddio Codi Arian Cymru. Mae’n ysgrifennu ar sail bersonol.