Grŵp o bobl yn eistedd mewn cynulleidfa yn gwrando ar gynhadledd

Dwy ochr y geiniog: myfyrdodau ar fy nhaith i’r Alban

Cyhoeddwyd: 10/12/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Johanna Davies

Johanna Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal CGGC, sy’n ystyried sut y gellir cymhwyso gwersi a ddysgwyd o’r Alban i’r system iechyd a gofal yng Nghymru.

Yn ddiweddar, siaradais yng Nghynhadledd Iechyd Gwirfoddol yr Alban am ein Prosiect Iechyd a Gofal a’i ran wrth ddatblygu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol. Roedd yn wych rhannu rhywfaint o arfer da o Gymru, ond hefyd dysgu gan gyfraniadau’r Alban, y mae ei llywodraeth wedi ymrwymo i ddatblygu ei Fframwaith Cenedlaethol ei hun ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol fel rhan o Fframwaith Iechyd y Boblogaeth.

MAE’N BRAF CYDWEITHIO

Cydweithio oedd thema’r gynhadledd, ac roedd rhai siaradwyr rhagorol a thrafodaethau panel am gydweithredu er mwyn newid. Gwnaeth dau siaradwr yn arbennig wneud i mi feddwl am heriau tebyg sydd gennym ni yng Nghymru, o ran gwneud iechyd a gofal yn fwy integredig gan ganolbwyntio’n fwy ar atal.

Rhoddodd yr Athro Devi Sridhar, Cadeirydd Iechyd y Cyhoedd Byd-eang, gyngor doeth ar gydweithio rhwng partneriaid â chyfrifoldebau a chylchoedd gwaith amrywiol. Yn hytrach na cheisio ymdrin â’r materion neu’r problemau yn eu cyfanrwydd, gallai partneriaid gytuno ar y tri pheth gorau i’w gwneud yn y flwyddyn nesaf gyda’i gilydd. Yng Nghymru, rwy’n credu y gallem wneud rhywfaint o waith gyda mwy o bwyslais mewn meysydd allweddol fel cymorth o’r ysbyty i’r cartref gyda chanlyniadau gwych.

Fe wnaeth yr Athro Nicola McEwen, Cyfarwyddwr y Ganolfan Polisi Cyhoeddus, ein hatgoffa o bwysigrwydd straeon pobl wrth ddeall ein systemau. Yn realistig, ni fydd cyllid ychwanegol yn dod i allu rheoli’r galw presennol, gan ar yr un pryd gynyddu ymyriadau ataliol. Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd yn yr Alban ynglŷn ag ail-flaenoriaethu buddsoddi.

Roedd y cwestiynau a’r sylwadau mewn ymateb i’r holl siaradwyr a thrafodaethau panel yn rhy gyfarwydd o lawer.

CENHADAETH AMHOSIBL?

Ar fy nhaith hir ar y trên adref, myfyriais ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer system gofal cymunedol integredig a’r nod o ddod yn Genedl Marmot. Mae newid system gyfan yn ymddangos bron yn dasg amhosibl wrth ystyried y systemau yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddynt. Mae gennym y ddeddfwriaeth, y llywodraethu a’r canllawiau i greu Cymru iachach, fwy cyfartal mewn theori – ond mae’n ymddangos ein bod yn methu â chyrraedd y nod o ran gweithredu.

Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cyfrif am dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae gofyn i fyrddau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wneud y penderfyniad anodd i ddadfuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd acíwt a gofal cymdeithasol, sydd o dan bwysau eithriadol, i flaenoriaethu atal yn afrealistig. Nid yw economeg diferu i lawr yn gweithio – felly pam rydyn ni’n credu y bydd cyllid diferu i lawr ar gyfer y gwasanaethau ataliol, trwy fudiadau sy’n canolbwyntio ar acíwt yn gweithio? Os yw Llywodraeth nesaf Cymru eisiau gwneud cynnydd o ran blaenoriaethu atal, bydd yn rhaid iddi gymryd camau mwy pendant i sicrhau ffrydiau cyllido i fudiadau sy’n gweithio ym maes atal.

DEDDF PARTNERIAETH Y SECTOR GWIRFODDOL

Dyna pam mae CGGC yn galw am Ddeddf Partneriaeth y Sector Gwirfoddol yn ei maniffesto, gyda phum dyletswydd i gefnogi ffyrdd gwell o weithio gyda’r sector gwirfoddol. Trwy greu dyletswydd cyllido teg, dyletswydd gwirfoddoli, dyletswydd cymunedau, dyletswydd partneriaeth a dyletswydd trosolwg, gallwn ddechrau ymdrin â rhai o’r problemau mwyaf ‘enbyd’ ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

  • Bydd dyletswydd cyllido teg yn golygu cyllid mwy cyson a chynaliadwy i’r sector gwirfoddol, gan sicrhau bod ein gwasanaethau hanfodol yno dros gyfnod o flynyddoedd ac nid o flwyddyn i flwyddyn yn unig.
  • Bydd dyletswydd gwirfoddoli yn creu seilwaith cadarn i gefnogi gwirfoddoli o ansawdd uchel sy’n cefnogi llesiant unigol ac yn ychwanegu gwerth at wasanaethau presennol.
  • Bydd dyletswydd cymunedau yn gwella ffocws ac yn sianelu ymdrechion atal tuag at y pethau sydd eu hangen ar gymunedau a’u bod yn eu heisiau.
  • Bydd dyletswydd partneriaeth yn gwella’n cyfranogiad mewn mannau cydweithredol ymhellach, o gysylltiadau symbolaidd i gysylltiadau mwy ystyrlon a rhagweithiol fel partneriaid cyflenwi.
  • Bydd dyletswydd trosolwg yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r sector gwirfoddol ac yn sicrhau y bydd y rhai sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf yn atebol am gydymffurfio â’r dyletswyddau.

PARTNERIAETH FWY YSTYRLON

Fe wnaeth fy ymweliad â’r Alban fy atgoffa nad yw’r heriau sy’n ein hwynebu ni yn unigryw i Gymru a’n bod wedi dod yn bell o ran ein hagwedd at bartneriaeth. Fodd bynnag, o ran cyflawni amcan Cymru iachach, credaf mai dim ond gyda phartneriaeth fwy ystyrlon â’r sector gwirfoddol y gellir cyflawni hyn. Bydd Deddf Partneriaeth y Sector Gwirfoddol yn cadarnhau rôl y sector fel un sy’n hanfodol i iechyd a llesiant yng Nghymru.

RHAGOR O WYBODAETH

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Brosiect Iechyd a Gofal CGGC, ewch i’r dudalen ar y we.