Mae Rheolwr Helplu Cymru CGGC, Fiona Liddell, wedi bod yn darganfod sut mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn datblygu gwirfoddoli ledled yr ardal.
Gwnaeth pandemig y Coronafeirws ein gwneud ni i gyd yn ymwybodol o’r ffaith y gallwn ni gyflawni mwy drwy weithio gyda’n gilydd mewn partneriaethau cydweithredol yn hytrach nag yn ein ‘seilos’.
Yn dilyn gwaith a gwblhawyd gan Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn 2021 gyda help Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws Llywodraeth Cymru, roedd uchelgais i ddatblygu strategaeth ranbarthol i gefnogi gwirfoddoli. Cydnabu bod partneriaid mewn mannau gwahanol o ran eu harferion gwirfoddoli ac y byddai dealltwriaeth a chyfeiriad strategol cyffredin yn galluogi pobl i gydweithio’n well.
Gan gydnabod yr arbenigedd mewn gwirfoddoli sy’n bodoli o fewn cynghorau gwirfoddol sirol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, cafodd Julia Manser a Gemma Richards eu secondio’n rhan-amser i arwain y gwaith hwn ar ran y Bartneriaeth.
DEFNYDDIO’R FFRAMWAITH AR GYFER GWIRFODDOLI
Cafodd chwe mis ei neilltuo ar gyfer y gwaith hwn i ddechrau, felly roedd hi’n gwneud synnwyr i nodi a defnyddio’r hyn a oedd eisoes ar gael ac yn berthnasol i’r dasg.
Roedd y Fframwaith ar gyfer Gwirfoddoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ddechreuad defnyddiol – yn sail dda ar gyfer trafodaeth, gan gynnwys rhanddeiliaid fel cynllunwyr a chomisiynwyr, nad ydynt bob amser yn rhan o’r sgwrs.
DULL GWEITHDY
Cafodd gweithdai eu cynnal gyda phob un o’r chwe phartner yn y bartneriaeth; gwnaeth y rhain ganiatáu i bob mudiad ystyried ble roedden nhw o ran cynnwys gwirfoddolwyr ar yr adeg honno, i ble roedden nhw am fynd a sut oedden nhw’n mynd i gyflawni hyn.
Ehangodd Gemma a Julia y matrics hunanasesu o’r Fframwaith, gan dynnu’r prif themâu allan fel cwestiynau trafod ac ychwanegu cyfeiriad at arferion gorau wrth wirfoddoli. Rhoddodd hwn strwythur ymarferol fel sail i’r gweithdai tair awr o hyd, a hwyluswyd ar-lein gan Urban Foundry (Saesneg yn unig).
Yn ogystal â llunio cynllun gweithredu ar gyfer pob mudiad, bu modd cytuno ar rai egwyddorion hefyd a ffurfiodd sylfaen ar gyfer strategaeth wirfoddoli ranbarthol. Cwblhawyd ymarferiad sgorio er mwyn pennu lefelau’r cymorth ar gyfer blaenoriaethau rhanbarthol.
CAEL GWIRFODDOLWYR I GYMRYD RHAN YN Y BROSES
Cafodd un gweithdy ei dreialu gyda rhai gwirfoddolwyr o’r Grŵp Cydgynhyrchu Rhanbarthol. Roedd gan y grŵp hwn arbenigedd gwerthfawr i’w gynnig, gan eu bod wedi datblygu pecyn cymorth cyn hyn i alluogi mudiadau i weithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Gwnaeth y rhain awgrymu ffyrdd o wneud y gweithdai’n fwy diddorol a chyfeillgar i wirfoddolwyr.
Anogwyd partneriaid i wahodd gwirfoddolwyr i’r gweithdai, er mwyn cydnabod pwysigrwydd llais gwirfoddolwyr wrth gyfrannu at ddatblygu strategaeth wirfoddoli.
Ond yn aml, mae cael gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn modd ystyrlon yn dasg heriol. Un o’r argymhellion o fewn y strategaeth yw sefydlu fforwm ‘lleisiau gwirfoddolwyr’ rhanbarthol, ac mae awgrymiadau ar sut i ymhél yn well â gwirfoddolwyr wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
YR ETIFEDDIAETH
Mae gwaith datblygu o’r fath yn cymryd amser a chafodd y secondiad cyntaf ei ymestyn am chwe mis arall er mwyn cynnwys tasgau ychwanegol, cofnodi’r hyn oedd wedi’i wneud a chyflawni’r camau gweithredu ar gyfer y datblygiad.
Ymhlith y lliaws o ganlyniadau positif a ddeilliodd o’r prosiect oedd y canlynol:
- Mae gan fudiadau gynlluniau gweithredu i weithio drwyddynt, gyda chymorth eu Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol.
- Cytunodd y bartneriaeth i gyllido dwy swydd newydd: Swyddog Cymorth Gwirfoddolwyr i roi cymorth i gynrychiolwyr gwirfoddol o fewn y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol a Swyddog Strategaeth Wirfoddoli Ranbarthol i oruchwylio gweithrediad y strategaeth wirfoddoli ranbarthol.
- Bydd grŵp strategaeth wirfoddoli ranbarthol yn parhau i ddatblygu’r dull rhanbarthol o wirfoddoli ac yn edrych am ffyrdd o gydweithio.
- Yn ogystal â’r fforwm ‘lleisiau gwirfoddolwyr’, mae cynlluniau ar droed am rwydwaith rheolwyr gwirfoddolwyr rhanbarthol.
- Mae’r adroddiad, Gweithredu’r Fframwaith ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd angen i bobl eraill ei defnyddio, gan gynnwys cynnwys y gweithdy, templedi ac awgrymiadau ymarferol. Awgrymir bod hwn yn cael ei ddefnyddio gan unrhyw fudiad mawr, corff strategol neu gorff o’r sector cyhoeddus lle byddai gwirfoddoli yn cael ei wneud.
Mae hon yn etifeddiaeth bwysig.
Efallai y byddai gennych chi hefyd ddiddordeb mewn Gwersi a ddysgwyd wrth gyflymu recriwtio gwirfoddolwyr mewn argyfwng a phecynnau cymorth a thaflenni gwybodaeth eraill a gynhyrchwyd yn ystod y prosiect.