Paned gyda grŵp cerdded Coed Lleol yn Nhremadog

Dod o hyd i’r ffordd trwy ‘ddrysfa o broblemau’

Cyhoeddwyd: 19/06/23 | Categorïau: Dylanwadu,Gwirfoddoli, Awdur: Johanna Davies

Johanna Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC, ar pam mae ein prosiect iechyd a gofal newydd mor bwysig i’r sector gwirfoddol a’r bobl sy’n defnyddio ei wasanaethau.

Mae prosiect iechyd a gofal CGGC wedi’i neilltuo i wella perthnasoedd rhwng y sector gwirfoddol a mudiadau iechyd a gofal statudol, wrth hyrwyddo rôl gwirfoddolwyr.

Mae’r sector gwirfoddol a gwirfoddoli yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal ym mhob cwr o Gymru – yn wir, mae 1,980 o wahanol fudiadau gwirfoddol yn gysylltiedig ag iechyd a gofal yng Nghymru, o gludo pobl yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty, gofalu am bobl, casglu presgripsiynau a llawer mwy.

Mae’r galw am wasanaethau’r sector yn parhau i fod yn uchel yng nghanol yr argyfwng costau byw a’r heriau a wynebir gan y GIG. Ond os yw gwasanaethau’r sector yn mynd i gael yr effaith fwyaf posibl, mae’n bwysig bod y sector yn gallu gweithio mewn partneriaeth lawn, gyfartal â darparwyr iechyd a gofal statudol.

DRYSFA O BROBLEMAU

Synnwyr cyffredin yw hynny, yn de? Ac eto, mae problemau systemig sy’n atal hyn rhag digwydd cystal ag y dylai – fe ddown ni at rai o’r rhain yn fuan. Mae’r problemau hyn yn effeithio’n negyddol ar ddarpariaeth gwasanaethau ac ar iechyd a lles y rheini sy’n dibynnu ar y gwasanaethau dan sylw yn eu bywydau bob dydd.

Gan ystyried hyn i gyd, mae CGGC yn falch o lansio ein prosiect iechyd a gofal newydd sbon, a fydd yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru am dair blynedd. Nod ein prosiect yw cydweithio i chwilio ffordd drwy’r ddrysfa o heriau, a nodwyd mewn cyfres o gyfweliadau rhanddeiliaid ar draws y sector gwirfoddol a’r sector statudol, er mwyn creu Cymru lle y dibynnir ar y sector gwirfoddol a lle y caiff ei werthfawrogi fel partner angenrheidiol a chyfartal wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal, wrth iddo yrru dulliau gweithredu arloesol. Roedd rhai o’r problemau a amlygwyd yn y cyfweliadau hyn yn cynnwys:

  • Gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol nad ydynt yn cael eu hintegreiddio mewn prosesau cynllunio, gan arwain at wahaniaeth mewn cyflogau ac amodau, rhwystrau i greadigrwydd ac anawsterau wrth herio cyllidwyr.
  • Y darlun sy’n bodoli o’r sector gwirfoddol, sy’n cael ei weld weithiau gan y rheini o’r tu allan fel dewis amhroffesiynol, neu ddewis rhatach na gwasanaethau statudol, neu’r ddau, sy’n gallu golygu nad yw pobl yn sylwi ar ei gyfraniadau.
  • Problemau ynghylch darpariaeth strategol a gweithredol, sy’n gwneud y dasg o ymwreiddio gwasanaethau yn anodd – gan arwain at lefelau staffio annigonol, dyblygu gwasanaethau a llai o weithredu dan arweiniad y gymuned.

EIN THEORI O NEWID

Theori Newid prosiect Iechyd a Gofal CGGC. Mae fersiwn testun plaen o’r Theori Newid ar gael yma.

Ar ôl ymgysylltu’n helaeth â’r sector, y llywodraeth a darparwyr gwasanaethau statudol, rydyn ni wedi datblygu Theori Newid ar gyfer y prosiect. Mae’r Theori Newid hwn yn amlinellu agenda ddylanwadol, galluogol a chysylltiol a fydd yn sail i’n gweithgareddau. Byddwn ni’n gyfaill beirniadol sy’n gyrru gwelliant parhaus mewn polisi ac arferion.

Byddwn ni’n cefnogi’r buddsoddiad cynaliadwy sydd ei angen ar y sector gwirfoddol i adeiladu capasiti a gyrru’r galw. Byddwn ni’n galluogi’r sector i ddangos ei werth a chynllunio’n strategol. A byddwn ni’n cysylltu mudiadau’r sector â’i gilydd ac â’r system iechyd a gofal. Os byddwn ni’n llwyddiannus, bydd gennym ni sector gwirfoddol sy’n:

  • gallu dylanwadu’n gynnar ac yn cyfathrebu’n barhaus â phartneriaid iechyd a gofal
  • mwy cydweithredol a chyda llais cryfach
  • cael ei grymuso i gymryd rhan mewn strwythurau strategol
  • cael yr adnoddau i wneud cyfraniadau ystyrlon i bobl
  • cael ei werthfawrogi a’i barchu gan fudiadau iechyd a gofal statudol ac yn sector y mae’r mudiadau hyn yn dibynnu arno

Mae’n rhaglen uchelgeisiol o weithgareddau, ond yn un a allai wneud gwahaniaeth mawr. Ond gallwn ni ddim ond gwneud y gwahaniaeth hwnnw gyda’ch cefnogaeth chi a chefnogaeth y sector gwirfoddol ehangach.

DARGANFOD MWY

Os hoffech ddarganfod mwy am brosiect iechyd a gofal CGGC, gallwch ddarllen mwy drosodd ar ein tudalen prosiect neu anfon llinell atom yn healthandcare@wcva.cymru.